Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae’r cwrs BSc mewn Niwroseicoleg, a ddysgir gan niwrolegwyr, niwroseicolegwyr a niwrowyddonwyr, yn rhoi sylfaen o wybodaeth a sgiliau ymchwil cyfoes i fyfyrwyr meddygol ar gyfer archwilio seicobioleg y meddwl. Mae gan y cwrs gysylltiadau agos â'r Ysgol Gwyddorau Meddygol gyda myfyrwyr drwy gydol y cwrs yn rhannu cyfleusterau ac yn dod i gysylltiad â chlinigwyr sy'n gweithio yn eu meysydd. Mae’r BSc (Anrh) mewn Niwroseicoleg yn gwrs rhyngosodol i fyfyrwyr meddygol sy’n dymuno astudio sail fiolegol y meddwl dynol mewn iechyd ac afiechyd. Mae'r cwrs blwyddyn hwn yn adolygu seiliau niwroseicoleg a’r agwedd ddamcaniaethol, ac yn darparu sylfaen mewn niwrowyddoniaeth glinigol a sylfaenol sy'n ganolog i ddeall seiliau biolegol cyflyrau niwroseicolegol a seiciatryddol.
Sefydlwyd Seicoleg ym Mhrifysgol Bangor ym 1963 ac mae'n un o adrannau seicoleg hynaf y Deyrnas Unedig. Rydym yn rheolaidd ymhlith y 10 ysgol orau yn yr Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol ar gyfer boddhad myfyrwyr yn gyffredinol a gyda dros 1,000 o fyfyrwyr rydym hefyd yn un o'r adrannau mwyaf yn y Deyrnas Unedig. Nid yn unig yr ydym yn uchel ein parch am ein haddysgu, ond mae gennym ni enw da yn fyd-eang hefyd am ansawdd ein hymchwil. Yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddaraf, roeddem ymysg yr 20 adran orau yn y Deyrnas Unedig gydag 89% o'n hymchwil yn cael ei hystyried naill ai'n 'rhagorol yn rhyngwladol' neu 'gyda'r gorau yn y byd'. Mae'r ymchwil hon yn cyfrannu’n uniongyrchol at ein haddysgu gan sicrhau profiad dysgu ffres, bywiog ac ystod eang ac amrywiol o fodiwlau a astudir gydag academyddion sydd ag enw da yn rhyngwladol yn eu maes arbenigol.
Mae gan Seicoleg ym Mangor naws gosmopolitaidd ac eangfrydig sy'n denu staff a myfyrwyr o bob cwr o'r byd i weithio ac astudio gyda ni. Agwedd allweddol ar ein llwyddiant yw ein pwyslais ar elfennau academaidd a bugeiliol o brofiad y myfyriwr. Caiff yr ymdrech hon ei harwain gan academyddion yn y tîm addysgu sy'n darparu cefnogaeth sylweddol i'n myfyrwyr. Mae hyn i gyd yn cyfuno i ddarparu amgylchedd unigryw cefnogol, cyffrous a boddhaus i chi astudio Niwroseicoleg ynddo.
Pam dewis Prifysgol Bangor ar gyfer y cwrs?
- Labordai ymchwil arbenigol gan gynnwys sganiwr Delweddu Cyseinedd Magnetig (MRI), Ysgogi Trawsgreuanol Magnetig (TMS), Potensial Digwyddiad-berthynol (ERP), Electroenceffalograffeg (EEG) a labordy Anatomeg yr Ymennydd.Ìý
- Arbenigedd mewn niwrowyddoniaeth ac amrywiaeth gyffrous o draethodau hir niwroseicoleg e.e. sut mae'r ymennydd yn prosesu gwybodaeth o freichiau a choesau prosthetig neu sut mae gweithgaredd yr ymennydd yn amrywio gyda gwahanol ieithoedd.
Cynnwys y Cwrs
Mae'r rhaglen hon yn flwyddyn o hyd ac yn cynnwys modiwlau hyfforddedig gorfodol, modiwlau dewisol ynghyd â'ch prosiect ymchwil annibynnol a'ch traethawd hir. Yn ogystal â modiwlau hyfforddedig, cewch gyfleoedd i gael profiad ymarferol a gwneud gwaith ymchwil, gan weithio ochr yn ochr ag arbenigwyr yr Ysgol mewn niwroseicoleg, delweddu cyseiniant magnetig gweithredol, potensial ymenyddol digwyddiadol, ysgogiad ymenyddol magnetig a modelu niwral.
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Byddwch yn ymdrin â meysydd fel Cyflwyniad i Niwroddelweddu, Seiliau Biolegol Anhwylderau Seicolegol, Niwroleg Ymddygiadol, Niwrowyddoniaeth Wybyddol a Niwroseicoleg Glinigol. Yn ogystal â modiwlau hyfforddedig, cewch gyfleoedd i gael profiad ymarferol a gwneud gwaith ymchwil, gan weithio ochr yn ochr ag arbenigwyr yr Ysgol mewn niwroseicoleg, delweddu cyseiniant magnetig gweithredol, potensial ymenyddol digwyddiadol, ysgogiad ymenyddol magnetig a modelu niwral.
*Sylwer: Nid yw’r cynllun gradd hwn yn eich cymhwyso i gael Aelodaeth Siartredig i Raddedigion gyda Chymdeithas Seicolegol Prydain.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Niwroseicoleg (Rhyngosodol) BSc (Anrh).
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Cyfleusterau
Cyfleusterau Cyffredinol y Brifysgol
Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Mae ein pedair llyfrgell yn cynnig amrywiaeth o amgylcheddau astudio braf gan gynnwys mannau gweithio cydweithredol, ystafelloedd cyfarfod a mannau tawel i astudio.
Mae yma gasgliad mawr o lyfrau a chylchgronau, ac mae llawer o'r cylchgronau ar gael ar gyfrifiadur mewn fformat testun llawn.
Mae gennym hefyd un o’r archifau prifysgol mwyaf nid yn unig yng Nghymru ond hefyd drwy holl wledydd Prydain. Yn gysylltiedig â'r archifau mae casgliadau arbennig o lyfrau printiedig prin.
Adnoddau Dysgu
Mae yma ddewis eang o adnoddau dysgu, sy’n cael eu cefnogi gan staff profiadol, i’ch helpu i astudio.Ìý
Mae gwasanaethau TG y Brifysgol yn darparu cyfleusterau a gwasanaethau cyfrifiaduro, cyfryngau a reprograffeg sy’n cynnwys:Â
- Dros 1,150 o gyfrifiaduron i fyfyrwyr, gyda rhai ystafelloedd cyfrifiaduron ar agor 24 awr bob dydd
- Blackboard, rhith-amgylchedd dysgu masnachol, sy’n galluogi i ddeunydd dysgu fod ar gael ar-lein.
Costau'r Cwrs
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Myfyrwyr Cartref (DU)
- Cost cwrs israddedig llawn-amser yw £9,250 y flwyddyn (2025/26).
- Y ffi ar gyfer pob blwyddyn dramor integredig yw £1,385 (2025/26).
- Y ffi ar gyfer blwyddyn mewn diwydiant integredig fel rhan o'r cwrs yw £1,850 (2025/26).
Mwy o wybodaeth am ffioedd a chyllid i fyfyrwyr Cartref (DU).
Myfyrwyr Rhyngwladol (yn cynnwys yr UE)
Costau Ychwanegol
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
- Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
- Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi gŵn (£25- £75) a chost am docynnau i westeion ychwanegol (tua £12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig â modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
Fel cam cyntaf, dylech ymgynghori â'ch Ysgol Meddygol bresennol i gael caniatâd.
Os hoffech drafod cynnwys y cwrs mewn mwy o fanylder, cysylltwch â Martyn Bracewell.Ìý
Sylwer: Nid yw cynllun gradd rhyngosodol, yn cynnwys graddau Cyd-Anrhydedd, yn eich cymhwyso i gael Aelodaeth Siartredig i Raddedigion gyda Chymdeithas Seicolegol Prydain.
Sut i wneud Cais
I wneud cais am y cwrs rhyngosodol hwn, dylech lawrlwytho a llenwi'r ffurflen gais yma a'i hanfon at: derbyniadau@bangor.ac.uk.
Gyrfaoedd
Mae'r cyrsiau hyn yn galluogi myfyrwyr meddygol i feithrin rhagolwg wyddonol o niwroseicoleg sydd, yn ychwanegol at y cyfleoedd gyrfa gwell sy’n nodweddiadol ar gael i fyfyrwyr meddygol sy'n dilyn cyrsiau rhyngosodol, yn darparu sylfaen gref ar gyfer astudiaeth ôl-raddedig a swyddi ymchwil clinigol yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.