Yngl欧n 芒鈥檙 Cwrs Yma
Mae'r rhaglen hon wedi'i hachredu gan y Sefydliad Rheolaeth Siartredig (CMI). Bydd myfyrwyr sy'n astudio'r rhaglen hon yn graddio gyda chymhwyster deuol sef gradd Meistr Prifysgol Bangor a chymhwyster Lefel 7 CMI mewn Rheolaeth Strategol ac Arweinyddiaeth.
Cwrs modiwlaidd blwyddyn o hyd yw'r rhaglen MBA sy'n canolbwyntio ar ddatblygu eich sgiliau academaidd a rheolaethol mewn meysydd megis ymddygiad sefydliadol, strategaeth farchnata, e-fusnes a chreu mentrau newydd. Un amcan pwysig yw darparu hyfforddiant dadansoddol perthnasol, er mwyn i chi fod yn gyfarwydd 芒'r datblygiadau strategol, rheolaethol a diwydiannol diweddaraf yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat.
Mae'r cwrs yn darparu fframwaith dadansoddol cydlynol ar gyfer astudio busnes a menter o safbwynt rheoli.
Mae'r pwyslais trwy gydol y rhaglen ar gymhwyso datblygiadau ariannol, rheolaethol a strategol cyfoes sy'n effeithio ar y broses o wneud penderfyniadau byd go iawn yn y farchnad fyd-eang.
Rydym yn cydnabod bod meddu ar ddealltwriaeth drylwyr o ddatblygiadau diweddar mewn rheolaeth, entrepreneuriaeth, strategaeth, marchnata a chyllid yn ofynion hanfodol i unrhyw un mewn swydd rheoli (neu i unrhyw un sy'n dymuno bod 芒 gwell dealltwriaeth o'r meysydd pwysig hyn ym maes busnes a rheolaeth).
Pam MBA?
Mae MBA yn gymhwyster, a gydnabyddir ledled y byd, i uwch berson茅l a swyddogion gweithredol yn y sector preifat a'r sector cyhoeddus. Mae cynnydd cyson yn effaith newid, ym mhwysigrwydd strategaeth ac yn nwyster cystadleuaeth ac mae ar sefydliadau angen rheolwyr sy'n deall y gymuned fusnes yn ei chyfanrwydd. Mae pwysigrwydd economaidd cynyddol entrepreneuriaeth hefyd wedi pwysleisio o'r newydd yr angen am well dealltwriaeth o'r theori a'r ymarfer sy'n ymwneud 芒 busnes a rheolaeth mewn sefydliadau presennol a sefydliadau newydd.
Hyd y Cwrs聽
Blwyddyn yn llawn amser, 2 flynedd yn rhan amser. Derbynnir myfyrwyr i'r cwrs hwn ym mis Ionawr a mis Medi.
Cynnwys y Cwrs
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae鈥檙 rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Rheoli.
Mae cynnwys y cwrs wedi鈥檌 nodi i鈥檆h arwain yn unig ac fe all newid.
Gofynion Mynediad
Er mwyn cael mynediad i'r MBA Rheolaeth mae angen gradd israddedig dda mewn pwnc perthnasol, (e.e. Cyfrifeg, Bancio, Cyllid, Busnes, Rheolaeth neu Farchnata) gan brifysgol, neu gymhwyster tebyg gan sefydliad arall. Fel arall, gellir eich derbyn os ydych yn meddu ar gymhwyster proffesiynol addas a phrofiad ymarferol perthnasol. Yn gyffredinol, fodd bynnag, caiff ymgeiswyr eu barnu yn 么l eu teilyngdod unigol, ac ystyrir profiad gwaith a ffactorau eraill hefyd.