Â鶹´«Ã½¸ßÇå°æ

Fy ngwlad:
Delwedd o dabled yn arddangos siartiau bar a graffiau

Busnes, Rheolaeth a Marchnata

Darganfyddwch ein Cyrsiau Ôl-raddedig Trwy Ddysgu

Dod o hyd i gwrs

Myfyrwyr yn sgwrsio tu allan i Pontio

YSGOL BUSNES BANGOR YN LLWYDDIANNUS YN AROLWG PTES 2023

Gwelodd Arolwg Profiad Ôl-raddedigion Hyfforddedig (PTES) 2023 diweddar Ysgol Busnes Bangor ganlyniadau rhagorol. Roedd Busnes a Rheolaeth yn 3ydd (allan o 85) ar gyfer y mesur Cyffredinol ac yn 4ydd (allan o 84) ar gyfer y mesur Addysgu. Daeth cefnogaeth i fyfyrwyr hefyd i'r amlwg gyda'r ysgol yn dod yn 4ydd (allan o 71) ar gyfer y mesur cefnogaeth.

Pam Astudio Busnes, Rheolaeth a Marchnata?

Mae ein graddau ôl-radd yn amrywio o raglenni eang a chynhwysfawr i raglenni arbenigol iawn, yn cynnwys pynciau fel Marchnata Digidol, Strategaeth, Rheoli Pobl, Marchnata, Cyllid, Gweinyddu Busnes, Marchnata Strategol, Dadansoddeg Data a sefydlu Mentrau Busnes Newydd.

Er mwyn llwyddo yn yr amgylchedd rheoli heddiw, mae angen i chi ddeall ac ymateb i oblygiadau newidiadau gweithredol, strategol a sefydliadol, yn ogystal â gallu rheoli ac ysgogi pobl.

Bydd y rhaglenni hyn yn eich helpu i gysylltu theori ac ymarfer sy'n berthnasol i sefydliadau heddiw, gan roi'r dulliau personol i chi greu, gweithredu a datblygu'r polisïau rheoli mwyaf effeithiol. Byddwch yn cael sylfaen gadarn ar draws yr holl brif ddisgyblaethau busnes, a hefyd yn cael cyfle i addasu'ch cwrs fel ei fod yn gysylltiedig â'ch meysydd diddordeb penodol gyda modiwlau sy'n cwmpasu popeth o'r strategol ac ariannol, i gynaliadwyedd, arloesi, rheoli gwybodaeth, arwain pobl a rheoli newid.

Mae gan lawer o'n tiwtoriaid brofiad diwydiannol byd-eang sylweddol ac mae eraill yn ymchwilwyr cynhyrchiol ym myd busnes, rheolaeth a marchnata. Mae'r cyfuniad hwn o ymchwil ac addysgu dan arweiniad ymarferwyr yn golygu y gallwch edrych ymlaen at addysgu deallus a diddorol a fydd yn eich helpu i fynd â'ch gyrfa i'r lefel nesaf.

Mae llawer o'n cyrsiau yn cynnig y dewis i ddechrau ym mis Ionawr yn ogystal â'r cyfnod dechrau traddodiadol ym mis Medi.

Elain Davies smiling to camera

Elain Haf Davies

Roedd fy mhrofiad ym Mhrifysgol Bangor yn hynod gadarnhaol ac mi gefais nifer o gyfleoedd i ddatblygu’n bersonol ac yn broffesiynol dros bedair blynedd o astudio. Cefnogodd y Brifysgol fy nhwf personol yn ddirfawr trwy roi cyfleoedd imi ddatblygu fy hunanhyder, gwella fy sgiliau meddwl beirniadol ac annog meithrin perthnasoedd ystyrlon gyda myfyrwyr a busnesau eraill y bûm yn gweithio â nhw.

Cyfleoedd Gyrfa o fewn Busnes, Rheolaeth a Marchnata

Mae ein holl gyrsiau Busnes, Rheolaeth a Marchnata wedi eu cynllunio i wella'ch sgiliau proffesiynol, eich paratoi ar gyfer gwaith a'ch helpu chi i ddatblygu'r priodoleddau sydd eu hangen arnoch i fod yn llwyddiannus mewn nifer o wahanol yrfaoedd.

Mae graddedigion diweddar ein rhaglenni Meistr Busnes a Rheoli wedi mynd ymlaen i amrywiaeth helaeth o swyddi ledled y byd yn y sector preifat, sector cyhoeddus a'r llywodraeth fel ymgynghorwyr, rheolwyr, ymchwilwyr marchnad, dadansoddwyr, swyddogion gweithredol gweithgynhyrchu, rheolwyr brand, marchnatwyr, ymgynghorwyr, ymgynghorwyr gwerthu a swyddogion gweithredol project.

Ym maes Marchnata, mae natur y gwaith yn newid, nid yw dulliau traddodiadol yn unig yn ddigon i ddenu defnyddwyr modern yn y byd digidol. Mae ymgyrchoedd cyfryngau cymdeithasol heddiw yn gofyn am strategaethau rhyngddisgyblaethol a dealltwriaeth ddyfnach o anghenion a dymuniadau cwsmeriaid. Mae nifer o'n myfyrwyr Marchnata wedi cael swyddi fel rheolwyr cyfryngau cymdeithasol, rheolwyr cynnyrch, rheolwyr brand, arbenigwyr optimeiddio peiriannau chwilio, ysgrifenwyr cynnwys gwe a dadansoddwyr marchnata.

Ein Hymchwil o fewn Busnes, Rheolaeth a Marchnata

Mae gan lawer o'n tiwtoriaid brofiad diwydiannol byd-eang sylweddol ac mae eraill yn ymchwilwyr cynhyrchiol ym myd Busnes, Rheolaeth a Marchnata. Maent i gyd yn llywio ein haddysgu o ansawdd uchel. Mae ein hymchwil yn ymdrin â maes eang gan gynnwys ymchwilio i ddealltwriaeth o ddefnyddwyr mewn gwahanol gyd-destunau a diwylliannau, ymchwilio i effaith strategaethau busnes a llywodraeth yn bennaf yn y maes cyfathrebu. Mae ein hymchwil yn ceisio deall sut mae canfyddiadau a barn defnyddwyr yn cael eu ffurfio a sut mae'r rhain yn dylanwadu ar y broses gwneud penderfyniadau ar draws gyd-destunau amrywiol. Mae ein ffocws ymchwil yn cwmpasu cyd-destunau er elw a ddim er elw yn ogystal â chefnogi astudiaethau trawsddiwylliannol.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.