Yngl欧n 芒鈥檙 Cwrs Yma
Drwy gwblhau pob arholiad ar y cwrs hwn yn llwyddiannus byddwch yn gallu cael 11 eithriad o'r . I gael rhagor o wybodaeth am eithriadau CIMA ewch i'n tudalen Cydnabyddiaeth ac Achrediadau Proffesiynol.
Mae natur busnesau a'r marchnadoedd y maent yn gweithredu o'u mewn yn newid yn barhaus sy'n golygu ei bod yn gynyddol bwysig fod gan reolwyr corfforaethol ddealltwriaeth glir o theori ac ymarfer rheolaeth strategol, ac o'r gydberthynas rhwng y busnes, ei weithwyr a'i farchnadoedd, a'r goblygiadau o ran strategaeth ariannol gorfforaethol. Mae bod yn gyfarwydd 芒'r datblygiadau diweddaraf mewn gwerthuso risg, prisio, marchnata, rheoli adnoddau dynol, ymddygiad sefydliadol a rheolaeth strategol yn ofynion hanfodol i unrhyw un sy'n ymwneud yn uniongyrchol 芒 busnes, neu ag ariannu gweithgarwch busnes, neu i unrhyw un sy'n dymuno deall mwy am y meysydd pwysig hyn.
Cynlluniwyd y rhaglenni MSc Rheolaeth a Chyllid i ddatblygu eich sgiliau presennol trwy astudiaethau arbenigol uwch. Un amcan pwysig yw bod myfyrwyr yn dod i ddeall nid yn unig ymddygiad sefydliadol a dewisiadau strategol ym maes rheoli adnoddau dynol a marchnata, ond hefyd y datblygiadau damcaniaethol sy'n ymwneud 芒 chyllid corfforaethol a'r marchnadoedd cyfalaf, ynghyd 芒 datblygu medrusrwydd yn y technegau sy'n ofynnol i asesu canlyniadau hynny wrth reoli busnes. Mae'r rhaglenni hyn yn darparu fframwaith damcaniaethol cydlynol ar gyfer y gwahanol feysydd pwnc, ond mae'r pwyslais drwyddi draw ar ddefnyddio technegau rheoli busnes a thechnegau ariannol yn ymarferol mewn lleoliad byd go iawn.
Cynnwys y Cwrs
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae鈥檙 rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Rheolaeth a Chyllid.
Mae cynnwys y cwrs wedi鈥檌 nodi i鈥檆h arwain yn unig ac fe all newid.
Gofynion Mynediad
Er mwyn cael mynediad i'r rhaglen MSc Rheolaeth a Chyllid mae angen gradd israddedig dda mewn pwnc perthnasol, (e.e. Cyfrifeg, Bancio, Cyllid, Busnes, Rheolaeth neu Farchnata) gan brifysgol, neu gymhwyster tebyg gan sefydliad arall. Fel arall, gellir eich derbyn os ydych yn meddu ar gymhwyster proffesiynol addas a phrofiad ymarferol perthnasol. Yn gyffredinol, fodd bynnag, caiff ymgeiswyr eu dewis ar sail eu rhinweddau unigol. Caiff profiad gwaith a ffactorau eraill hefyd eu hystyried.