Yngl欧n 芒鈥檙 Cwrs Yma
Amcan y rhaglen hon yw darparu MSc Peirianneg Electronig eang a fydd yn eich galluogi i gyfrannu at ddatblygiad cynhyrchion a gwasanaethau electronig yn y dyfodol. Mae'r cwrs yn adlewyrchu gweithgaredd ymchwil Bangor sy'n uchel ei barch ac yn flaengar ym maes peirianneg electronig. Bydd yr MSc yn dysgu sgiliau cyfoes, perthnasol sy'n gwella cymhwysedd peirianneg ei raddedigion ac yn galluogi dysgu gwybodaeth ehangach am beirianneg electronig trwy astudio technolegau pwysig sy'n datblygu, megis optoelectroneg, bioelectroneg, electroneg polymer a microbeiriannu. Mae'r cwrs wedi'i fwriadu ar gyfer graddedigion mewn disgyblaeth gysylltiedig, sy'n dymuno gwella ac arbenigo eu sgiliau mewn nifer o dechnolegau sy'n datblygu.
Cysylltiadau 脗 Diwydiant听
Mae gan yr ysgol gysylltiadau agos 芒 chwmn茂au technoleg lleol a chenedlaethol, gyda'r potensial i gael lleoliadau gwaith, cyfleoedd ymchwil a datblygu a phrojectau cydweithredol.
听
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi鈥檔 ei astudio ar y cwrs yma?
Bydd yr MSc yn dysgu sgiliau cyfoes, perthnasol sy'n gwella cymhwysedd peirianneg ei raddedigion ac yn galluogi dysgu gwybodaeth ehangach am beirianneg electronig trwy astudio technolegau pwysig sy'n datblygu, megis optoelectroneg, bioelectroneg, electroneg polymer a microbeiriannu. Mae'r cwrs wedi'i fwriadu ar gyfer graddedigion mewn disgyblaeth gysylltiedig, sy'n dymuno gwella ac arbenigo eu sgiliau mewn nifer o dechnolegau sy'n datblygu.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae鈥檙 rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Peirianneg Electronig.
Mae cynnwys y cwrs wedi鈥檌 nodi i鈥檆h arwain yn unig ac fe all newid.
Gofynion Mynediad
Mae'r radd hon wedi'i hanelu at ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd Anrhydedd mewn Peirianneg Electronig, Ffiseg neu ddisgyblaeth wyddonol gysylltiedig, ar lefel 2.ii neu uwch neu'r hyn sy'n cyfateb yn rhyngwladol. Bydd ymgeiswyr sydd 芒 graddau cyntaf mewn disgyblaethau eraill yn cael eu hystyried yn unigol, gyda'r asesiad yn seiliedig ar botensial yr ymgeisydd i lwyddo ar y cwrs ac elwa ohono.
Rhaid i ymgeiswyr o dramor hefyd ddangos medrusrwydd mewn Saesneg at lefel IELTS 6.0 yn gyffredinol a dim elfen islaw 5.5. Gellir dilyn cwrs cyn-sesiynol proffesiynol priodol ELCOS (Ysgol Saesneg Prifysgol Bangor) i gyflawni'r lefel iaith Saesneg ofynnol.
Gyrfaoedd
Bydd gan holl raddedigion y cwrs hwn sgiliau a gwybodaeth am ddulliau a syniadau systemau electronig modern, gyda phwyslais arbennig ar ddylanwad nanodechnoleg ar eu dyluniad. Byddwch hefyd wedi datblygu sgiliau gwyddonol a pheirianyddol sy'n benodol i'ch dewisiadau modiwl penodol, o ddylunio cylchedau digidol gatiau gwerth miliynau o filoedd i fodelu systemau cyfathrebu a dyfeisiau optoelectroneg sy'n berthnasol yn uniongyrchol mewn diwydiannau technegol.