Yngl欧n 芒鈥檙 Cwrs Yma
Mae'r Rhaglen MA ran-amser sydd wedi ennill ei blwyf yn gadarn erbyn hyn yn rhoi cyfleoedd hyblyg i chi astudio modiwlau mewn ystod eang o feysydd pwnc i wella'ch datblygiad proffesiynol eich hun. Mae鈥檙 cynllun o bum penwythnos y flwyddyn y mae鈥檙 rhaglen Feistr wedi鈥檌 seilio arno yn addas i bobl leol ac i rai sy鈥檔 teithio ymhellach, ac mae鈥檔 cynnig awyrgylch gefnogol a chyfeillgar i astudio ynddi.
Symud Eich Gyrfa Ymlaen gydag MA Astudiaethau Addysg gydag Achrediad Dyslecsia Arbenigol.Rydym yn cynnig Modiwlau Achredu Dyslecsia: SAA (Statws Athro Achrededig) mewn Anawsterau Dysgu Penodol/ Dyslecsia a chyflawni AMBDA (Aelod Cyswllt o Gymdeithas Dyslecsia Prydain) ac APC (Tystysgrif Ymarfer Asesu) mewn Theori, Ymarfer ac Asesu Dyslecsia.
Pam Dewis y Cwrs Hwn?
- Dull Astudio Hyblyg: Mae鈥檔 ddelfrydol i weithwyr proffesiynol prysur gyda fformat o ddim ond pum penwythnos o ddysgu yn y cnawd y flwyddyn.
- Cydnabyddiaeth Arbenigol: Dod yn arbenigwr cydnabyddedig mewn dyslecsia.
- Cynnydd mewn Gyrfa: Eich arfogi gyda sgiliau a gwybodaeth uwch i wella eich ymarfer a rhagolygon gyrfa.
- Amgylchedd Dysgu Cefnogol: Astudio mewn awyrgylch cyfeillgar gyda chyfoedion ac arbenigwyr ym maes dyslecsia ac ymchwil.
- Cefnogaeth ac Adnoddau Cynhwysfawr: Cewch gefnogaeth gan diwtor personol pwrpasol, gwasanaethau ehangach i gefnogi myfyrwyr, a defnyddio鈥檙 adnoddau amrywiol sydd ar gael trwy Brifysgol Bangor.
Cynnwys y Cwrs
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae鈥檙 rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Astudiaethau Addysg (Rhan-amser).
Mae cynnwys y cwrs wedi鈥檌 nodi i鈥檆h arwain yn unig ac fe all newid.
Cost y Cwrs
Gofynion Mynediad
Mae鈥檔 rhaid bod gan ymgeiswyr naill ai radd gyntaf, cymhwyster cyfatebol cydnabyddedig, neu o leiaf dair blynedd o brofiad proffesiynol perthnasol. Gofynnir i ymgeiswyr roi enw canolwr a all dystio i allu鈥檙 ymgeisydd i astudio ar lefel Meistr. Yn achlysurol gellir gofyn i ymgeiswyr ddod am gyfweliad cyn y gellir cadarnhau cynnig o le iddynt. Gall rhai modiwlau bennu gofynion mynediad penodol ychwanegol, er enghraifft, profiad blaenorol o addysgu.
Gyrfaoedd
Mae'r rhan fwyaf o fyfyrwyr ar y cwrs hwn yn athrawon gweithredol, cwnselwyr neu weithwyr cymdeithasol y mae cymhwyster lefel Meistr yn ffordd wych o ddatblygu eu gyrfaoedd. Gyda dewis rhydd o fodiwlau, gallwch ddewis y meysydd pwnc sy'n berthnasol i'r gwaith rydych eisoes yn ei wneud, neu i'r gwaith rydych chi'n anelu at ei wneud. Bydd y radd Meistr ran-amser hon mewn Astudiaethau Addysg yn rhoi鈥檙 hyder a鈥檙 gallu i chi ysgwyddo cyfrifoldebau newydd, neu i ddechrau cyfeiriad hollol wahanol yn eich gyrfa.
Gwneud Cais
We regret that we are unable to accept applications from international students for this course.
Home/EU students: apply online yourself with the help of our聽Guidance Notes on online application for Home/EU students.聽We strongly recommend you read these before you start to apply online.
Once you have read the Guidance Notes you should聽.
Need help applying?聽Home/EU students please contact:
Postgraduate Admissions:聽postgraduate@bangor.ac.uk聽or write to:
Admissions Office
麻豆传媒高清版
Gwynedd
LL57 2DG
Telephone: +44 (0)1248 388484