Yngl欧n 芒鈥檙 Cwrs Yma
Dyfernir yr MPhil mewn Llenyddiaeth Saesneg am draethawd hir heb fod yn fwy na 60,000 o eiriau a'r PhD mewn Llenyddiaeth Saesneg am draethawd hir sydd fel rheol heb fod yn fwy na 100,000 o eiriau. Gellir gwneud gwaith ymchwil ym mhrif feysydd llenyddiaeth Saesneg yn dilyn 1300; llenyddiaeth Arthuraidd. Mae meysydd arbenigedd ymchwil aelodau staff yn cynnwys: Llenyddiaeth Arthuraidd, Chaucer a'i gyfoeswyr, ysgrifennu canoloesol a modern cynnar gan fenywod, drama ganoloesol a modern cynnar, hunangofiant modern cynnar, Shakespeare, George Herbert, drama'r Adferiad, Milton, llenyddiaeth Rhyfeloedd Cartref Lloegr, Rhamantiaeth (yn enwedig Hazlitt a'i gyfoeswyr), llenyddiaeth Fictoraidd (yn enwedig Dickens ac Oscar Wilde), ll锚n Saesneg Cymru (yn arbennig R.S. Thomas), ysgrifennu Cymry Llundain ar droad yr ugeinfed ganrif, Moderniaeth, Edward Thomas, barddoniaeth y Rhyfel Byd Cyntaf, Saesneg Modern a Drama Americanaidd, David Mamet, hanes ffilm a'r sgript ffilmiau, hanes darllen, ysgrifennu arbrofol, barddoniaeth gyfoes, llenyddiaethau byd-eang, llenyddiaeth gymharol ac 么lwladychiaeth.
Cysylltiadau 芒 diwydiant
Mae academyddion sy'n ymweld yn ymddangos yn rheolaidd yn ein seminarau ymchwil. Rydym yn trefnu nifer o ddarlleniadau gan awduron bob blwyddyn. Mae ymwelwyr diweddar wedi cynnwys: Jackie Kay, George Szirtes, Anne- Marie Fyfe, Erin Moure, Andrea Brady, Robert Hampson, Jeff Hilson, Michael Symmons Roberts, Tiffany Atkinson, Patrick McGuinness, Richard Marggraf Turley, Damian Walford Davies a Jack Mapanje. Mae'r gyfres seminar Contempo, a gynhelir ar y cyd 芒 Phrifysgol Aberystwyth, yn gyfres o seminarau staff a myfyrwyr 么l-radd sydd hefyd yn cynnwys rhaglen reolaidd o ymweliadau gan awduron a beirniaid.
听
Gofynion Mynediad
Fel rheol, byddem yn disgwyl i fyfyrwyr fod 芒 gradd ddosbarth cyntaf neu radd dda yn yr ail ddosbarth. Mae'n ofynnol i fyfyrwyr heb MA ddilyn y modiwl hyfforddiant ymchwil. Rydym yn gallu derbyn myfyrwyr sy鈥檔 dysgu o bell, ond dylent eisoes fod wedi ennill y sgiliau a ddysgir yn y seminarau rhagarweiniol, neu dylent drefnu mynd i seminarau cyfatebol mewn sefydliad arall, ar eu cost eu hunain. Yn achos myfyrwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf, bydd arnynt angen sg么r IELTS o 6.5 o leiaf (heb i unrhyw elfen fod yn is na 6.0).
听
Gyrfaoedd
Bydd y cwrs hwn yn eich paratoi ar gyfer gyrfa mewn addysg uwch, yn ogystal ag ym maes cyhoeddi, gweinyddu'r celfyddydau, ymchwil y cyfryngau, ac amrywiaeth o yrfaoedd cysylltiedig. Mae'r cwrs hwn yn eich paratoi'n llawn at yrfa yn y dyfodol fel awdur ac fel academydd. Caiff y myfyrwyr hefyd gyfle i ddilyn ystod o raglenni hyfforddi a gynigir trwy'r brifysgol a fydd yn gwella eu cyfleoedd o ddod o hyd i waith yn eu maes dethol yn sylweddol.
Mae nifer o fyfyrwyr ysgrifennu creadigol diweddar neu bresennol wedi cyhoeddi casgliadau o gerddi neu straeon byrion sydd yn ffrwyth eu hastudiaethau yma ym Mangor. Ymhlith y rhain mae John Tanner, Richard Jones a Nessa O'Mahoney. Mae eraill wedi cyhoeddi straeon gan gynnwys Terri Lee Hackman, Zoe Perrenoud, a Lisa Blower (a fu hefyd yn fuddugol yng Nghystadleuaeth Stori Fer 2009 y Guardian).