Pam Astudio Llenyddiaeth Saesneg?
Mae 么l-raddedigion yn gweithio鈥檔 agos 芒 staff academaidd mewn cymuned ymchwil sy鈥檔 cymell cyfnewid a gweithgarwch rhyngddisgyblaethol. Ym Mangor byddwch yn ymuno 芒 chymuned ymchwil glos a bywiog.
Gellir gwneud gwaith ymchwil ym mhrif feysydd llenyddiaeth Saesneg yn dilyn 1300;听llenyddiaeth Arthuraidd. Mae meysydd arbenigedd ymchwil聽aelodau staff yn cynnwys: Llenyddiaeth Arthuraidd; Chaucer a'i gyfoeswyr; ysgrifennu canoloesol a modern cynnar gan fenywod; drama ganoloesol a modern cynnar; hunangofiannau modern cynnar; Shakespeare; George Herbert; drama'r Adferiad; Milton; llenyddiaeth Rhyfeloedd Cartref Lloegr; Rhamantiaeth (yn enwedig Hazlitt a'i gyfoeswyr); llenyddiaeth Fictoraidd (yn enwedig Dickens ac Oscar Wilde); ll锚n Saesneg Cymru (yn arbennig R.S. Thomas); ll锚n Cymry Llundain ar droad yr ugeinfed ganrif; Moderniaeth; Edward Thomas; barddoniaeth y Rhyfel Byd Cyntaf; Saesneg Modern a Drama Americanaidd; David Mamet; hanes ffilm a sgriptio; hanes darllen; ysgrifennu arbrofol; barddoniaeth gyfoes; llenyddiaethau byd-eang;听llenyddiaeth gymharol ac 么l-wladychiaeth.
Celfyddydau a Diwylliant: Bydd y cysylltiadau agos sydd gennym 芒 theatrau lleol, grwpiau barddoniaeth a chymdeithasau myfyrwyr yn golygu bod digon o bethau i fynd 芒'ch bryd.
Mae academyddion sy'n ymweld yn ymddangos yn rheolaidd yn ein seminarau ymchwil. Rydym yn trefnu nifer o ddarlleniadau gan awduron bob blwyddyn.
Cyfleoedd Gyrfa o fewn Llenyddiaeth Saesneg
Mae astudio llenyddiaeth yn agor byd llawn ysbrydoliaeth, yn meithrin gwybodaeth a hefyd yn helpu i ddatblygu sgiliau sy'n hanfodol ar gyfer yr amgylchedd byd-eang sydd ohoni.聽Bydd PhD/MPhil mewn Llenyddiaeth Saesneg yn eich paratoi ar gyfer gyrfa mewn addysg uwch, yn ogystal ag ym maes cyhoeddi, gweinyddu'r celfyddydau, ymchwil y cyfryngau, ac amrywiaeth o yrfaoedd cysylltiedig.
Ein Hymchwil o fewn Llenyddiaeth Saesneg
Mae cydnabyddiaeth dda i ansawdd ein hymchwil, sydd gyda'r orau yn y byd, ac rydym wedi ein rhestru ymhlith y 10 prifysgol orau yn y wlad am ddwyster ymchwil ym maes llenyddiaeth Saesneg, gyda dwy ran o dair o'n hymchwil yn y categor茂au 'gyda'r orau yn y byd' a 'rhagorol yn rhyngwladol'.聽
Yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddaraf yn 2014 roedd Bangor ymhlith y deg prifysgol uchaf ym maes llenyddiaeth Saesneg yn y Deyrnas Unedig yn y categori dwysedd ymchwil. Roedd cryfderau ymchwil yr ysgol yn troi o amgylch cyfnodau a meysydd astudio penodol: llenyddiaeth ganoloesol a'r cyfnod modern cynnar, gan gynnwys golygu testunau; hanes y llyfr a chyhoeddi; ll锚n Saesneg Cymru; llenyddiaeth rhamant a modern; ac ysgrifennu creadigol, gyda dulliau penodol wedi'u llywio gan rywedd, dosbarth cymdeithasol, ideoleg, yn ogystal 芒'r cysylltiadau rhwng llenyddiaeth a chelfyddyd, a llenyddiaeth a chrefydd.聽 Rydym ymhlith yr ugain adran Llenyddiaeth Saesneg uchaf yn y Deyrnas Unedig am ein cyhoeddiadau.
Mae'r canolfannau a'r sefydliadau ymchwil ym Mhrifysgol Bangor, neu y mae gennym bartneriaeth 芒 nhw, yn cynnwys:聽Sefydliad Astudiaethau Canoloesol a Modern Cynnar, sef sefydliad ymchwil cydweithredol rhwng Prifysgol Bangor a Phrifysgol Aberystwyth;听Canolfan R.S. Thomas;听Canolfan Astudiaethau Arthuraidd,聽sef canolfan ar gyfer ymchwil a chyfnewid rhyngwladol ym maes Astudiaethau Arthuraidd sy'n tynnu ar gryfderau hanesyddol y Brifysgol yn y maes;听Canolfan Stephen Colclough ar Hanes a Diwylliant y Llyfr,聽聽sydd wedi'i leoli o fewn Llyfrgell a Chasgliadau Arbennig y Brifysgol ac sydd yn ganolbwynt i astudiaeth o'r llyfr fel gwrthrych materol.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.