Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mesydd Ymchwil
Hanes gydag arbenigeddau mewn:
- Hanes Canoloesol a Modern Cynnar Prydain ac Ewrop (gan gynnwys Normandi Ganoloesol, Cyfraith a gweinyddiaeth yr Oesoedd Canol, Merched, rhywedd, pŵer a hunaniaeth yn yr Oesoedd Canol, Crefydd Boblogaidd a Diwylliant Poblogaidd ym Mhrydain ac Ewrop yr Oesoedd Canol diweddar a'r cyfnod modern cynnar, William o Orange a’r 'Chwyldro Gogoneddus'
- Hanes Modern a Chyfoes Prydain, Ewrop, Gogledd America, India, y Dwyrain Canol ac Affrica (gan gynnwys – y ddau Ryfel Byd a chyfnod y Rhyfel Oer, hanes llafur, prynwriaeth a gwrth-brynwriaeth, cenedlaetholdeb, hiliaeth, mudiadau cymdeithasol, hanes trefedigaethol, hanes chwaraeon, polisi a llywodraethu, hanes trawswladol, cyfarfyddiadau trawsddiwylliannol)
- Hanes hanesyddiaeth
- Diwylliannau Cofebau
- Hanes Cysyniadol
- Treftadaeth a Dehongliad
Ìý
Hyd y Rhaglen
PhD: 2 - 3 blynedd yn llawn amser neu 4 - 6 mlynedd yn rhan amser; MPhil: 2 flynedd yn llawn amser, 4 blynedd yn rhan amser.
Cyllid
Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau; ESRC (Dull B); ysgoloriaethau a bwrsariaethau achlysurol.
Gofynion Mynediad
Mae'n bosibl dechrau ar PhD ar ôl cwblhau gradd Meistr yn llwyddiannus mewn pwnc cysylltiedig (Hanes/Hanes Cymru/Archaeoleg/Treftadaeth) ym Mangor neu mewn sefydliad arall. Ymgeiswyr nad ydynt yn siarad Saesneg fel eu hiaith frodorol: IELTS 6.0 yn gyffredinol (dim elfen yn is na 5.5). Gall myfyrwyr sydd â sgôr gyffredinol o 5.5 ddilyn cwrs cyn-sesiwn dros yr haf yng Nghanolfan Iaith Saesneg y Brifysgol i Fyfyrwyr Tramor (ELCOS).
Gyrfaoedd
Rhaglen ymchwil yw hon. Gallwch ddilyn gyrfa academaidd mewn Archaeoleg. Caiff y sgiliau dadansoddi ac ymchwil ar lefel uchel a gânt eu datblygu yn ystod y radd hon eu gwerthfawrogi gan gyflogwyr mewn meysydd fel cyfathrebu, y cyfryngau, amgueddfeydd a diwydiannau treftadaeth, addysgu, cyhoeddi, yn ogystal â swyddi mewn ymchwil a datblygu.