Pam Astudio Athroniaeth a Chrefydd?
Rydym yn cynnig goruchwyliaeth yn y meysydd canlynol:
- Athroniaeth Crefydd
- Meta-foeseg a moeseg normadol
- Meta-athroniaeth
- Problem Drygioni
- Estheteg
- Astudiaethau Islamaidd
- Ffwndamentaliaeth
- Astudiaethau seicdreiddiol
- Astudiaethau Jungaidd
- Cymdeithaseg Crefydd
- Nietzsche
- Wittgenstein
- 贵谤别耻诲听
Mae'r meysydd pwnc hyn yn cael eu haddysgu yn y Brifysgol ers y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac rydym yn cynnig awyrgylch cyfeillgar, cefnogol ac anffurfiol a fydd yn galluogi myfyrwyr i feithrin sgiliau dadlau a meddwl yn annibynnol. Bydd y myfyrwyr yn elwa o'r sylw personol gyda goruchwyliaeth un i un.聽
Cyfleoedd Gyrfa mewn Athroniaeth a Chrefydd
Bydd gradd ymchwil yn eich paratoi at yrfa academaidd mewn Athroniaeth neu Grefydd neu at waith arall lle mae galw am unigolion cymwys iawn mewn meysydd cysylltiedig. Bydd y sgiliau uwch mewn dadansoddi ac ymchwilio a gewch yn ystod y radd hon yn eich gwneud yn fwy cyflogadwy mewn meysydd megis cyfathrebu, addysgu, rheoli, cyhoeddi ac ymchwil.
Ein Hymchwil o fewn Athroniaeth a Chrefydd
Mae'r ymchwil cyffrous ac arwyddocaol a wneir gan staff academaidd ein Hysgol yn gwneud cyfraniad pwysig at sicrhau bod Prifysgol Bangor yn sefydliad ymchwil blaenllaw. Mae ein hymchwil yn cwmpasu amrywiaeth eang o bynciau ac arbenigeddau gan gynnwys y meysydd bras canlynol:
- Athroniaeth lle
- Cymwysiadau diwylliannol damcaniaeth seicdreiddiol
- Athroniaeth a Chrefydd mewn Addysg
- Y Gymuned Islamaidd a Chlofannau Mwslimaidd ym Mhrydain
- Islamiaeth a Radicaleiddio (mewn cyd-destunau lleol a byd-eang)
- Dad-radicaleiddio (datblygu gwrth-naratifau).
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.