Yngl欧n 芒鈥檙 Cwrs Yma
Mae'n ofynnol i'r rhai sy'n dilyn y radd hon ysgrifennu traethawd ymchwil sylweddol a gwreiddiol o hyd at 100,000 o eiriau ar gyfer PhD, neu 60,000 o eiriau ar gyfer MPhil ar bwnc sy'n ymwneud 芒 Hanes Cymru. Byddwch yn derbyn hyfforddiant ymchwil a hyfforddiant mewn sgiliau trosglwyddadwy trwy Raglen Hyfforddi Graddedigion y Brifysgol. Cewch hefyd ddilyn modiwlau MA a gynigir gan yr ysgol ac Ysgol Graddedigion Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Busnes. Byddwch yn cael eich tywys gan ddau oruchwyliwr.
Hyd y Cwrs
PhD: 3 blynedd yn llawn-amser, 4-6 blynedd yn rhan-amser; MPhil: 2 flynedd yn llawn-amser, 4 blynedd yn rhan-amser.
Gofynion Mynediad
Mae'n bosibl dechrau ar PhD ar 么l cwblhau gradd Meistr yn llwyddiannus mewn pwnc cysylltiedig (Hanes/Hanes Cymru/Archaeoleg/Treftadaeth) ym Mangor neu mewn sefydliad arall. Ymgeiswyr nad ydynt yn siarad Saesneg fel eu hiaith frodorol: IELTS 6.0 yn gyffredinol (dim elfen yn is na 5.5). Gall myfyrwyr sydd 芒 sg么r gyffredinol o 5.5 ddilyn cwrs cyn-sesiwn dros yr haf yng Nghanolfan Iaith Saesneg y Brifysgol i Fyfyrwyr Tramor (ELCOS).
Gyrfaoedd
Rhaglen ymchwil yw hon. Gallech ddilyn gyrfa academaidd mewn Hanes Cymru. Caiff y sgiliau dadansoddi ac ymchwil ar lefel uchel a g芒nt eu datblygu yn ystod y radd hon eu gwerthfawrogi gan gyflogwyr mewn meysydd fel cyfathrebu, y cyfryngau, amgueddfeydd a diwydiannau treftadaeth, addysgu, cyhoeddi, yn ogystal 芒 swyddi mewn ymchwil a datblygu.