Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Cynlluniwyd y rhaglen hon i roi cyfle i fyfyrwyr ddatblygu dealltwriaeth feirniadol o egwyddorion a chymhwyso dulliau cynllunio ymchwil a dulliau dadansoddol sy'n berthnasol i'r astudiaeth wyddonol o seicoleg chwaraeon ac ymarfer. Mae'r rhaglen yn hwyluso integreiddio theori ac ymarfer proffesiynol, a thrwy gydol y rhaglen mae'r broses ymchwil a'r pwyslais ar annibyniaeth myfyrwyr wrth ddysgu yn dod yn fwyfwy pwysig.
Hyd y Cwrs
Blwyddyn yn llawn-amser, astudiaeth ran-amser ar gael hefyd
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Mae'r rhaglen MRes yn darparu llwybr pwrpasol ar gyfer myfyrwyr sydd ag amcan ymchwil penodol mewn golwg ac sy’n barod i wneud ymchwil annibynnol o bosibl yn arwain at astudio ar lefel PhD neu sy'n ceisio cymhwyster ymchwil unigol fyddai’n addas ar gyfer gyrfa mewn ymchwil. Cynlluniwyd y rhaglen MRes i gynnig sgiliau ymchwil arbenigol (yn yr elfen a addysgir) a rhoi cyfle i fyfyrwyr wneud darn sylweddol o ymchwil annibynnol sydd ar flaen y gad yn y maes ymchwil penodol (yn yr elfen prosiect). Y disgwyliad arferol yw y dylai'r ymchwil annibynnol fod o safon fwy neu lai’n barod i’w gyhoeddi mewn cyfnodolyn o ansawdd uchel a adolygir gan gymheiriaid.
Mae’r rhaglen radd MRes yn ymgymeriad annibynnol i raddau helaeth – ar y cyd â’r goruchwyliwr academaidd, ond gall yr elfen a addysgir gael ei chyflwyno hefyd drwy ddarlithoedd traddodiadol, seminarau rhyngweithiol, tiwtorialau un-i-un, sesiynau cyfrifiadurol, ac ymarferion labordy (yn dibynnu ar fodiwlau dewisol). Bydd myfyrwyr felly yn cael profiad sylweddol o weithio'n annibynnol (ymchwil) tra'n cyfuno hyn ag arddulliau dysgu mwy traddodiadol (a addysgir). Yn unol â hynny, mae’r modiwlau craidd a dewisol ar y radd hon gyda’i gilydd yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau asesu a all gynnwys adroddiadau achos, sgiliau ymarferol (os dewisir modiwlau dewisol penodol), y gallu i gyfathrebu’n effeithiol, a chyflwyno cyflwyniadau.
Bydd graddedigion y rhaglen radd hon yn gallu dangos gwybodaeth wyddonol feirniadol a dealltwriaeth o'r egwyddorion a'r arferion sy'n gysylltiedig â lleoliadau ymchwil. Mae hyn yn cynnwys yn benodol yr egwyddorion gwyddonol a'r gweithdrefnau ystadegol sy'n sail i ddylunio ymchwil effeithiol, casglu data, a dehongli data mewn chwaraeon a gwyddor ymarfer. Ochr yn ochr â hyn, bydd graddedigion wedi datblygu prosiect ymchwil ysgrifenedig cynhwysfawr yr ystyrir ei fod yn agos at safon y gellir ei gyhoeddi.
Bydd graddedigion hefyd yn meddu ar sgiliau eraill sy'n canolbwyntio ar ymchwil megis y gallu i gynnal adolygiad academaidd gan gymheiriaid a'r gallu i ledaenu cysyniadau ystadegol allweddol i gynulleidfa darged. Yn dibynnu ar eu dewis o fodiwlau opsiynol, a natur eu prosiect ymchwil, gall graddedigion hefyd gaffael rhai technegau ymarferol disgyblaeth-benodol y gellir eu defnyddio wrth gasglu data at ddibenion ymchwil a/neu ddibenion cymhwysol mewn lleoliadau labordy a maes. Ymhellach, byddant wedi datblygu ymwybyddiaeth gyd-destunol o sgiliau pwysig eraill megis ymwybyddiaeth o iechyd a diogelwch ac ystyriaethau moesegol a byddant yn gallu cymhwyso galluoedd datrys problemau wrth ystyried sut y gellir cymhwyso egwyddorion gwyddonol i leoliadau chwaraeon ac ymarfer corff.
Gyda’i gilydd, mae’r dulliau hyn wedi’u cynllunio i arfogi graddedigion â’r gallu i weithio’n annibynnol a gyda setiau sgiliau (penodol a throsglwyddadwy) sy’n meithrin cyfathrebu effeithiol, cyflwyno, rhifedd, ac ymwybyddiaeth technoleg gwybodaeth a fydd yn caniatáu iddynt ddangos proffesiynoldeb yn ôl yr angen yn y gweithle.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalenÌýGwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Modiwlau Ìý³Ù³Ü»å²¹±ô±ð²Ô.
Mae cynnwys y cwrs wedi'i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Gofynion Mynediad
perthnasol (neu gyfwerth).
Gellir hefyd ystyried myfyrwyr sydd â gradd o faes academaidd gwahanol. Caiff gweithwyr proffesiynol sydd â chymwysterau ac eithrio gradd eu hasesu ar sail unigol. Cysylltwch â ni.
Mae'n ofynnol i fyfyrwyr yr UE a myfyrwyr tramor, nad yw'r Saesneg yn iaith gyntaf iddynt, sefyll y prawf Saesneg safonol (IELTS). Mae myfyrwyr sy'n cael sgôr o 6.0 neu uwch (dim sgôr unigol dan 5.5) yn gymwys i gael mynediad uniongyrchol i'r cwrs.
Ìý
Gyrfaoedd
Mae gyrfaoedd posib yn y dyfodol yn cynnwys:
- Astudio am PhD (ym Mhrifysgol Bangor neu rywle arall)
- Darlithydd mewn addysg bellach neu addysg uwch
- Athro/athrawes
- Ffisiotherapi
- Cynorthwyydd ymchwil (prifysgolion a'r GIG)
- Technegydd arbenigol labordy (e.e. clybiau chwaraeon, ysbytai)
- Gwasanaethau Heddlu a'r Lluoedd Arfog
- Gwaith Gofal Cymdeithasol
- Ymgynghorydd
Ìý