Yngl欧n 芒鈥檙 Cwrs Yma
Mae hwn yn gwrs byr 丑测产濒测驳听ar lefel 么l-raddedig听sy'n cael听ei gyflwyno ar-lein.
Pam fod rhai pobl yn fwy tueddol o weld dirywiad mewn perfformiad nag eraill? Neu, pam y gall lefelau perfformiad amrywio dros amser heb unrhyw reswm amlwg? Mae鈥檙 modiwl hwn yn archwilio sut mae personoliaeth, adnoddau seicolegol, emosiynau a gwybyddiaeth yn dylanwadu ar ein gallu i berfformio dan bwysau.听
Ar gyfer pwy mae'r Cwrs Byr hwn yn addas?
Mae ein dysgwyr wedi cynnwys pobl o bob rhan o鈥檙 DU, ac o bob rhan o鈥檙 byd. Mae'r cwrs byr yma'n rhan o'r rhaglen听MSc Seicoleg Perfformio (dysgu o bell) ac mae cyn-fyfyrwyr yn cynnwys:
- Hyfforddwyr chwaraeon proffesiynol: Rygbi, Criced, P锚l-droed Gaeleg, a Hyfforddwyr Rhedeg Dygnwch
- Aelodau 鈥楿K Coaching鈥
- Athletwyr Elitaidd mewn: p锚l-droed, p锚l-droed Gaeleg, criced, rygbi a golff
- Cyfarwyddwyr Perfformiad ar gyfer Timau Undeb Rygbi Proffesiynol
- Perfformwyr Opera
- Cerddorion Proffesiynol
- Arweinwyr Busnes
- Uwch reolwyr o sefydliadau fel MasterCard a Facebook
- Criw Cefn Hofrennydd yr RAF
- Rheolwyr traffig awyr
- Swyddogion Heddlu
- Meddygon Teulu ac Anesthetyddion
- Rheolwyr GIG
Pam astudio鈥檙 cwrs?
Prif amcan y cwrs hwn yw tynnu sylw at y r么l bwysig y mae gwahaniaethau unigol yn ei chwarae yn y ffordd yr ydym yn ymateb i bwysau ac yn perfformio o dan bwysau. Fel bodau dynol, mae gan bob un ohonom rai llwybrau unigryw i fethiant o dan bwysau a bydd deall y llwybrau unigol hynny ac ymyrryd ar lefel unigol yn helpu i liniaru perfformiadau gwael i raddau.听
Pa mor hir mae'r cwrs yn cymryd i'w gwblhau?
Cyflwynir y cwrs byr hwn dros gyfnod o 12 wythnos. Fodd bynnag, bydd gennych fynediad i'r holl ddeunydd darlithoedd ar ddechrau'r cwrs a fydd yn eich galluogi i fynd mor gyflym neu mor araf ag y bydd eich amgylchiadau personol yn mynnu.听
Asesiad
Gosodir yr asesiad ar ddiwedd wythnos 12 ac mae'n cynnwys ymyriad unigol lle cyflwynir astudiaeth achos i chi sy'n cynnwys asesiad o ymddygiadau dan bwysau, personoliaeth, a phroffiliau seicolegol eraill.听听听听
Y cyfrif geiriau ar gyfer yr asesiad yw hyd at 2,000 o eiriau.听
Y Gofynion Technegol
Cwrs ar-lein yw hwn a gyflwynir trwy Blackboard Ultra. Bydd angencysylltiad sefydlog 芒鈥檙 rhyngrwyd, adnoddau Technoleg Gwybodaeth a chyfrifiadur a meddalwedd cyfoes, meicroffon a chlustffonau neu seinyddion ar y myfyrwyr.
Tiwtor
Dr Stuart Beattie听
Mae Stuart yn Ddarllenydd mewn Seicoleg Perfformiad, cyfarwyddwr yr MSc mewn Seicoleg Perfformiad (Dysgu o Bell), Seicolegydd Chwaraeon Cofrestredig HCPC, ac aelod o'r Sefydliad Seicoleg Perfformiad El卯t (IPEP).听
Mae ei ddiddordebau ymchwil yn cynnwys Gwydnwch Meddyliol, Gwydnwch, a Seicoleg Perfformiad yn Gyffredinol.听听
Bu Stuart yn gweithio fel seicolegydd chwaraeon i Gymnasteg Prydain am bum mlynedd ac mae wedi bod yn ymwneud 芒 phrosiectau gwytnwch ar gyfer Camre Cymru a鈥檙 Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid.听听
Mae prosiectau goruchwylio PhD cyfredol yn cynnwys -archwilio prosiectau Gwydnwch, Gwydnwch Meddyliol, a Pherthnasoedd Triadig gyda chlwb P锚l-droed Manchester City, yn ogystal 芒 goruchwylio ymgeiswyr PhD o fewn y GIG.听听听
Fel rhan o'r MSc Seicoleg Perfformio (dysgu o bell), mae Stuart hefyd yn darparu cefnogaeth oruchwyliol i fyfyrwyr ar draws meysydd Opera, RAF, Busnes, a Hyfforddi Chwaraeon.听
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi鈥檔 ei astudio ar y cwrs yma?
Bydd y cynnwys wedi鈥檌 seilio ar agweddau ar y canlynol:听
- personoliaeth听
- sgiliau seicolegol听
- gwybyddiaeth听
- rheoleiddio emosiynol ac ymddygiadol听
- yr amgylchedd hyfforddi听
- gwytnwch meddyliol听
- ymddygiad meddyliol cadarn wrth hyfforddi a chystadlu听
- gwytnwch听
- perfformiad.听听
Bydd y cwrs byr hwn yn eich helpu i archwilio鈥檙 cysylltiadau uniongyrchol a rhyngweithiol rhwng personoliaeth, adnoddau seicolegol, emosiynau a gwybyddiaeth wrth baratoi a pherfformio dan bwysau. Gan ddefnyddio gwybodaeth a gasglwyd o amrywiaeth o ffynonellau (data o holiaduron hunan-adrodd, data arsylwi, data perfformiad, a data cyfweliadau) byddwch yn dylunio ymyriad pwrpasol ar gyfer unigolyn a fydd yn eu helpu i berfformio ar lefel fwy cyson dros amser.听听
Bydd y deilliannau dysgu鈥檔 asesu eich gallu i ddadansoddi gwybodaeth hanfodol trwy driongli dulliau (data perfformiad, data arsylwi, a data o holiaduron) a fydd yn eich galluogi i ddod i gasgliad gwybodus am allu unigolyn i berfformio dan bwysau.听听听
Byddwch yn asesu ac yn gwerthuso proffil seicolegol cleient yn feirniadol mewn perthynas 芒 phersonoliaeth, gwytnwch meddwl, ymddygiad meddyliol cadarn, gwybyddiaeth, hunanreoleiddio a sgiliau seicolegol, ac yn dangos sut y gallai hyn ddylanwadu ar sut maent yn perfformio dan bwysau.听听
Yn olaf, byddwch yn dangos eich gallu i ddylunio ymyriad sy鈥檔 seiliedig ar ymchwil a fydd yn lleihau'r tebygolrwydd o amharu ar berfformiad dan bwysau.听
Beth fydd y dysgwr yn ei gael allan o鈥檙 cwrs?
Bydd maes llafur y cwrs byr yn ymdrin 芒鈥檙 canlynol:听听
- Wythnos 1: Cyflwyniad i鈥檙 modiwl a throsolwg o鈥檙 asesiadau听听
- Wythnos 2: Cyflwyniad i Wytnwch Meddyliol听
- Wythnos 3: Ymddygiad Meddyliol Cadarn听
- Wythnos 4: Datblygu Gwytnwch Meddyliol 1听
- Wythnos 5: Datblygu Gwytnwch Meddyliol 2听
- Wythnos 6: Seminar byw gyda darlithydd y cwrs (dim darlithoedd)听
- Wythnos 7: Personoliaeth a Gwytnwch Meddyliol听
- Wythnos 8: Ymyriadau Gwytnwch Meddyliol听
- Wythnos 9: Amgylcheddau Hyfforddi听
- Wythnos 10: Ymdopi a Gwytnwch Meddyliol听
- Wythnos 11: Personoliaeth, Hyfforddi Dan Bwysau, a Throsolwg o鈥檙 Modiwl听
- Wythnos 12: Seminar byw gyda darlithydd y cwrs (dim darlithoedd)听
Cost y Cwrs
Gofynion Mynediad
Fel arfer bydd rhaid i ymgeiswyr feddu ar radd anrhydedd 2.ii o leiaf. Rydym hefyd yn annog ceisiadau gan ymgeiswyr nad ydynt yn raddedigion ond sydd 芒 chymwysterau proffesiynol amgen neu sy鈥檔 gallu dangos o leiaf 3 blynedd o brofiad gwaith perthnasol mewn amgylchedd perfformiad uchel (e.e. fel athletwr, hyfforddwr, cerddor proffesiynol, gweithredwr busnes neu gyllid neu o fewn amrywiaeth eang o swyddi proffesiynol eraill).
Gwneud Cais
Sut i wneud cais
Gwnewch yn si诺r eich bod yn darllen ac yn dilyn y canllaw cais cam wrth gam gan y bydd hyn yn nodi pa adrannau o'r ffurflen gais sy'n orfodol ar gyfer y math o gwrs rydych am wneud cais amdano ac arbed amser i chi.
Paratowch y wybodaeth ganlynol (mewn dogfen Word):
- Manylion cyflogaeth cyfredol;
- Blynyddoedd o brofiad, a hanes cyflogaeth (lle bo hynny'n berthnasol)
- Enw'r aelod staff a'r sefydliad sydd wedi cymeradwyo eich cyllid ar gyfer y modiwl hwn.
Bydd hyn yn cyflymu'r broses o lenwi'r ffurflen gais.
I wneud cais am y cwrs hwn, mae angen i chi greu cyfrif yn ein听
Bydd angen i chi gael mynediad at y cyfeiriad e-bost yr ydych yn ei nodi wrth greu eich cyfrif i'w gadarnhau
Ar 么l creu cyfrif, byddwch yn gweld tudalen gartref gyda sawl tab:
- Personol
- Rhaglen
- Gwybodaeth
- Cyswllt
- Addysg
- Cyflogaeth
- Iaith
- Cyllid
Mae angen i chi gwblhau pob adran cyn cyflwyno'ch cais.
Pan fydd adran wedi'i chwblhau, bydd symbol 'tic' yn ymddangos ar y tab.
- Cliciwch ar 'Ceisiadau nad ydynt yn graddio / Modiwlau Annibynnol', yna dewiswch听'Heb raddio olraddedig'.
- Yn yr adran nesaf, dewiswch Non-Graduating Taught Modules in Sport Health and Excercise Science (NGGT/SHES)听 Cliciwch Cadw a Parhau.
- Ar y dudalen nesaf, y rhagosodiad ar gyfer y cwestiwn cyntaf yw Llawn Amser. Mae'n rhaid i chi newid hyn i 'Ran Amser':
- Nawr mae angen i chi fewnbynnu cod y modiwl:听Seicoleg Perfformiad Unigol: y cod yw听(JXH-4104). Rhaid cwblhau'r adran hon er mwyn i'ch cais gael ei brosesu.
- Mae angen i chi hefyd nodi'r dyddiad dechrau. Dewiswch eich dewis, yna cliciwch 'Cadw a Parhau'.
- PWYSIG: Nid oes angen i chi ysgrifennu datganiad personol i wneud cais am y cwrs hwn. Yn hytrach, llwythwch y ddogfen i fyny, gan gynnwys gwybodaeth am gyflogaeth, profiad ac addysg rydych wedi'i chreu cyn dechrau'r cais sy'n cynnwys enw eich cyflogwr presennol, nifer y blynyddoedd o brofiad sydd gennych, a'ch cymhwyster uchaf hyd yn hyn. Cliciwch Cadw a symud ymlaen.
Dim ond manylion eich cymhwyster uchaf sydd ei angen arnoch hyd yma, e.e. os oes gennych gymhwyster 么l-raddedig, dim ond hyn y dylech ei gynnwys.
Gofynnir i chi am dystiolaeth o'r cymhwyster. Anfonwch gopi o'ch cymhwyster naill ai os yw'n hawdd ei gyrraedd, neu lanlwythwch y ddogfen Word eto (a baratowyd gennych yn gynharach)
(nid oes angen darparu manylion yma)
Ewch i waelod y dudalen a chliciwch ar 'Nid oes gennyf unrhyw hanes cyflogaeth'. Rydych eisoes wedi paratoi'r wybodaeth yma yn eich dogfen Word
Os ydych yn听hunan-ariannu, neu'n cael eich ariannu gan bractis meddyg teulu annibynnol, rhowch yr holl fanylion fel y bo'n briodol