Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Ydych chi'n aml yn meddwl tybed pam mae rhywun yn methu â pherfformio o dan bwysau neu sut i gael y gorau o'ch tîm. Mae ein MSc Seicoleg Perfformiad dysgu o bell ar-lein wedi ei gynllunio i’r rhai sydd â diddordeb mewn seicoleg perfformiad. Ѳ’r cwrs rhan-amser hyblyg hwn yn eich paratoi’n well at berfformio fel unigolyn, hyfforddwr, arweinydd tîm, neu gymhwyso eich gwybodaeth i weithio fel seicolegydd perfformiad mewn amrywiaeth o feysydd gan gynnwys chwaraeon, busnes a’r celfyddydau perfformio.
Cyflwynir y radd ar-lein hon gan staff o'r, ac mae’n seiliedig ar elfennau seicolegol y rhaglen MSc Seicoleg Chwaraeon ac Ymarfer a achredir gan y BPES ac a gynigir gan y sefydliad ar hyn o bryd.* Cyflwynir y modiwlau gan staff y sefydliad sy’n gweithio ar hyn o bryd ym maes chwaraeon a busnes lefel elit ac sy’n cyhoeddi ymchwil y bernir ei fod o safon ragorol yn rhyngwladol neu gyda’r gorau yn y byd (Fframwaith Ymarfer Ymchwil diweddaraf). Yn ystod y cwrs, cewch ddigon o gyfle i ryngweithio ag aelodau staff, gan gynnwys: tiwtorialau personol ar-lein gydag arweinwyr modiwl, gwaith grŵp a thiwtorialau. Byddwch hefyd yn gweithio un-i-un gyda staff academaidd y sefydliad a fydd yn eich goruchwylio ar eich modiwl traethawd hir neu broject ymchwil.
Dyma’r gwahaniaeth rhwng yrhaglen 2 flynedd a’r rhaglen 3 blyneddfel a ganlyn:
- ar y rhaglen 2 flynedd, byddwch yn mynd ymlaen i'r project ymchwil/traethawd hir yn syth ar ôl cwblhau'r modiwlau hyfforddedig yn yr ail flwyddyn. Byddwch yn cwblhau’r project ymchwil/traethawd hir dros yr haf, a bydd y cwrs yn dod i ben ddwy flynedd ar ôl i chi ddechrau;
- ar y rhaglen 3 blynedd, byddwch yn cwblhau'r project ymchwil/traethawd hir yn ystod y drydedd flwyddyn academaidd (Medi-Mehefin).
Pa bynnag raglen a ddewiswch, ceir triphwynt ymadael:
- PGCert (ar ôl y flwyddyn gyntaf) 60 credyd
- PGDip (ar ôl yr ail flwyddyn) 120 credyd
- neu, i ennill MSc, bydd rhaid i chi gwblhau'r project ymchwil/traethawd hir yn llwyddiannus ac ennill 180 credyd.
Fel arall, gallech hefyd astudiomodiwlau annibynnol. Ewch i'ntudalennau cyrsiau byram ragor o wybodaeth.
*Sylwer nad yw’r MSc Seicoleg Perfformiad wedi ei achredu gan y BPS.
Hyd y Rhaglen
Rhan-amser trwy ddysgu o bell - mae gennych y posibilrwydd o astudio am yr MSc dros ddwy neu dair blynedd.
Cyfleoedd ymchwil
Mae gan yr academyddion sy'n ymwneud â'r radd hon gysylltiadau ymchwil helaeth gyda chyrff a chwmnïau allanol, a gânt eu defnyddio'n llawn i sicrhau bod y modiwlau yn berthnasol i'r gwaith a'r amgylchedd ymchwil bydd y graddedigion yn rhan ohono.
Mae'r cwrs wedi'i anelu at unrhyw un sy'n perfformio mewn amgylcheddau dan bwysau mawr ac mae hynny’n amrywio o fyd busnes, y lluoedd arfog, y celfyddydau perfformio, y GIG a staff meddygol.
Fy enw i yw Stuart Beattie, ac rydw i’n Ddarllenydd mewn Seicoleg Perfformiad. Fi hefyd yw cyfarwyddwr cwrs y radd Dysgu o Bell mewn Seicoleg Perfformiad.
Mae'n mynd y tu hwnt i'r model traddodiadol o chwaraeon, straen a pherfformiad ac yn defnyddio’r holl ddamcaniaethau sydd gennym o seicoleg prif ffrwd a seicoleg chwaraeon, ac rydym yn ei gymhwyso i wahanol feysydd perfformiad.
Prif ffocws y cwrs yw dysgu pam mae perfformiad yn chwalu dan bwysau. Rydym yn edrych ar adweithiau unigol i straen, ac yna’n rhoi problemau i'r myfyrwyr eu datrys, ac mae'n rhaid iddyn nhw gymhwyso'r ddamcaniaeth honno i'r broblem.
Felly mae'n canolbwyntio’n fawr ar roi theori ar waith. Mae popeth yn ymwneud â datrys problemau. Byddwch yn cael holl gynnwys darlithoedd y modiwl 12 wythnos hwn yn ystod yr wythnos gyntaf.
Felly mae'n caniatáu i chi fynd mor gyflym neu mor araf ag y dymunwch. Mae'n gyfan gwbl ar-lein. Mae'n golygu bod y cwrs ar gael i bawb yn y byd.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Bydd yr holl ddarlithoedd ar y radd hon yn cael eu recordio fel y gallwch eu gwylio yn eich amser eich hun a byddwn yn cynnig nifer o seminarau dal i fyny yn fyw gyda’r darlithwyr ym mhob modiwl.
Ar y radd seicoleg perfformiad dysgu o bell hon, byddwch yn astudio amrywiaeth o bynciau gan gynnwys:
- Personoliaeth, gwydnwch tîm a gwydnwch unigol
- Straen a pherfformiad
- Cymhelliant
- Gwydnwch meddyliol
- Cydlyniant a dynameg tîm
- Arweinyddiaeth
- Y berthynas rhwng athletwyr a hyfforddwyr
- Hyfforddiant sgiliau seicolegol
- Cyflymu datblygiad sgiliau
- Adnabod a datblygu talent
- Nodweddion unigol yn ymwneud â’r perfformiad gorau posib.
I gwblhau'r radd, bydd myfyrwyr wedyn yn cael cyfle i wneud projectau ymchwil cymhwysol neu ddamcaniaethol neu draethawd hir ar bwnc o'u dewis.
Modiwlau'r flwyddyn gyntaf
Mae modiwlau’r flwyddyn gyntaf i gyd yn rhai 10 credyd a bydd rhaid i chi ddewis 6 ohonynt (cyfanswm o 60 credyd)
MaePerfformio dan Bwysauyn edrych ar y gallu i sicrhau'r perfformiadau gorau posib ar yr adegau mwyaf allweddol. Disgwylir i hyfforddwyr chwaraeon a seicolegwyr feddu ar y gallu i sicrhau’r perfformiad gorau gan athletwyr mewn sefyllfaoedd o bwysau uchel - mae hyn yn rhan allweddol o gylch gwaith hyfforddwr/seicolegydd. Cynlluniwyd y modiwl hwn yn benodol i ganolbwyntio ar hyn.
MaeDeall Personoliaethyn anelu at ddatblygu eich dealltwriaeth o'r hyn sy'n ysgogi athletwyr a deall mwy amdanoch eich hun ar yr un pryd! Bydd y modiwl hwn yn edrych ar y cyflwr dynol; pwy ydym ni, ein cymhelliant a sut rydym yn rhyngweithio â phobl eraill. Byddwch yn gwneud ymarferion gartref, a fydd yn eich helpu i ddeall mwy amdanoch eich hun ac am bobl eraill. Mae'r ymarferion hyn yn sail i'r gwaith y mae arweinwyr y cwrs yn ei wneud gyda chwaraeon a busnesau elit.
ByddHyfforddiant sgiliau seicolegolyn eich dysgu i ddeall yn feirniadol llenyddiaeth ymchwil gyfoes sy'n ymwneud yn bennaf â sgiliau seicolegol neu feddyliol; gyda phwyslais ar hunan-siarad a delweddu. Y rheswm dros wneud hynny yw gallu cymhwyso'r wybodaeth hon ar ffurf ymyriadau effeithiol.
ByddSeicoleg Perfformiad Unigolyn eich helpu i edrych ar y cysylltiadau uniongyrchol a rhyngweithiol rhwng personoliaeth, adnoddau seicolegol, emosiynau a gwybyddiaeth wrth baratoi a pherfformio dan bwysau. Gan ddefnyddio gwybodaeth a gasglwyd o amrywiaeth o ffynonellau (data o holiaduron hunan-adrodd, data arsylwi, data perfformiad, a data cyfweliadau) byddwch yn cynllunio ymyriad pwrpasol ar gyfer athletwr a fydd yn ei helpu i berfformio ar lefel fwy cyson dros amser.
ByddCyflymu Arbenigeddyn eich helpu i 'ddatgysylltu' yr atebion niwlog i'r cwestiwn 'sut i ddatblygu arbenigedd?' Bydd y theori yn canolbwyntio ar egwyddorion prosesu gwybyddol a meithrin sgiliau a bydd yn adlewyrchu'r materion hanfodol a nodwyd yn y llenyddiaeth. Yna caiff hyn ei gymhwyso i faes o ddewis y myfyrwyr er mwyn darparu atebion ymarferol i'r cwestiwn 'sut i gyflymu arbenigedd?'
ByddSeicoleg Perfformiad Tîmyn anelu at wella eich dealltwriaeth o ddatblygu timau a gwaith tîm effeithiol. Mae hyn yn arbennig o wir i dimau chwaraeon rhyngweithiol (fel pêl-droed, rygbi ac ati). Mae'r busnes adeiladu tîm yn ddiwydiant gwerth miliynau o bunnoedd. Yn y modiwl hwn, byddwn yn edrych ar rai o'r ffactorau amlwg sy'n cyfrannu at ddatblygiad timau chwaraeon effeithiol.
Modiwlau blwyddyn 2
Modiwlau Gorfodol (10 credyd yr un)
Ѳ’rberthynas rhwng hyfforddwr ac athletwryn aml yn berthynas gymhleth iawn. Mae'r hyfforddwr a'r athletwr eisiau sicrhau llwyddiant ond yn aml mae ganddynt syniadau gwahanol ynglŷn â sut i gyflawni hynny. Bydd y modiwl yn canolbwyntio ar brosesau seicolegol a gwybyddol y berthynas rhwng athletwr a'i hyfforddwr. Caiff yr anghysondebau ymhlith unigolion ac oddi mewn i unigolion eu hamlygu fel agwedd bwysig ar y deuad hyfforddwr-athletwr lle mae safbwyntiau gwrthgyferbyniol yn aml yn broblematig, ac mae cyfathrebu’n allweddol.
ByddDatblygu Talentyn archwilio dylanwad demograffeg, ffactorau seicogymdeithasol, ymarfer a chyfarwyddyd fel y gallwn ddeall sut mae talent yn datblygu. Trwy gydol y cwrs, byddwn yn rhoi sylw i oblygiadau ymchwil datblygu talent gyfredol ar hyfforddi. Wrth wneud hyn byddwn yn gwneud cysylltiadau rhwng gwyddoniaeth graidd a phrofiad ymarferol yr arweinwyr cwrs sy'n gweithio gyda chwaraeon elit (e.e. UK Sport), i fapio pa agweddau ar daith ddatblygiadol athletwyr sy'n arwain at berfformiad chwaraeon rhagorol.
Modiwl 20 credyd gorfodol
MaeUwch Ddulliau Ymchwilyn cynnig cyfle ymarferol gwych i ddysgu am gynllunio ymchwil a dadansoddi data, sgiliau sy'n hanfodol i ddarllen ac ysgrifennu deunydd ymchwil, yn ystod eich cwrs gradd a thu hwnt. Bydd aelodau staff yn eich cynorthwyo i ddatblygu'r sgiliau angenrheidiol i wneud eich rhaglen ymchwil eich hun, ac i werthuso sgiliau eraill. Mae'r sgiliau hyn yn bwysig ar gyfer ymchwil ond maent hefyd yn bwysig i'ch galluogi i feddwl yn feirniadol a dewis yr ymyriadau gorau i'w cymhwyso mewn ymarfer galwedigaethol yn y byd go iawn.
A’r naill neu’r llall o’r rhain:
Bydd yCynnig Traethawd Hiryn eich helpu i gynllunio eich traethawd hir eich hun mewn maes sydd o ddiddordeb i chi. Gall y dewis hwn fod yn seiliedig ar eich dyheadau gyrfa, profiad ac arbenigedd, neu yn yr un modd, dim ond oherwydd bod gennych ddiddordeb brwd mewn maes pwnc penodol.
Ѳ’rCynnig Project Ymchwilwedi ei lunio i'ch helpu i gynllunio eich project eich hun mewn maes sydd o ddiddordeb i chi. Gall y dewis hwn fod yn seiliedig ar eich dyheadau gyrfa, profiad ac arbenigedd, neu yn yr un modd, dim ond oherwydd bod gennych ddiddordeb brwd mewn maes pwnc penodol. Bydd cais moesegol i wneud yr ymchwil hefyd yn rhan amlwg o’r cynnig.
Modiwl blwyddyn 3
(Yn ystod yr haf yn yr ail flwyddyn i'r rhai ar y rhaglen 2 flynedd). Bydd dewisiadau’r ail flwyddyn yn pennu pa un o'r ddau opsiwn byddwch yn ei ddewis.
Bydd ytraethawd hiryn dilyn ymlaen o gynnig eich traethawd hir pan fyddwch yn gwireddu’r cynnig y cytunwyd arno. Dylai eich traethawd hir gael ei yrru gan nod i gyfrannu mewn ffordd ystyrlon at y sylfaen wybodaeth gyfredol mewn maes penodol. Meddyliwch am y traethawd hir fel adolygiad ymchwil beirniadol mawr.
neu
Bydd yproject ymchwilyn dilyn ymlaen o gynnig eich project ymchwil. Yn y modiwl hwn, byddwch yn casglu ac yn dadansoddi eich data eich hun. Yna, byddwch yn ysgrifennu erthygl ymchwil yn seiliedig ar eich cynnig project a'ch canlyniadau eich hun.
- Modiwlau Blwyddyn 1:Yn y flwyddyn gyntaf, byddwch yn cwblhau 60 credyd trwy ddewis 6 modiwl.
- Modiwlau Blwyddyn 2:Yn yr ail flwyddyn, mae 2 fodiwl 10 credyd gorfodol yna gallwch ddewis un o ddau fodiwl 20 credyd a fydd yn cael eu pennu gan y dull yr ydych yn dymuno ei ddefnyddio, sef naill ai cynnal adolygiad llenyddiaeth o ymchwil cyhoeddedig cyfredol neu ymgymryd â gwaith ymchwil gwreiddiol a chasglu eich data eich hun.
- Modiwlau Blwyddyn 3:Yn y drydedd flwyddyn (yn ystod yr haf yn yr ail flwyddyn i’r rhai ar y rhaglen 2 flynedd) byddwch yn gwneud 1 modiwl gorfodol a bennir gan eich dewisiadau yn yr ail flwyddyn.
Sylwer: Syniad bras o gynnwys y cwrs yn unig a geir yma a gall newid.
Gofynion Mynediad
Fel arfer bydd rhaid i ymgeiswyr feddu ar radd anrhydedd 2.ii o leiaf. Rydym hefyd yn annog ceisiadau gan ymgeiswyr nad ydynt yn raddedigion ond sydd â chymwysterau proffesiynol amgen neu sy’n gallu dangos o leiaf 3 blynedd o brofiad gwaith perthnasol mewn amgylchedd perfformiad uchel (e.e. fel athletwr, hyfforddwr, cerddor proffesiynol, gweithredwr busnes neu gyllid neu o fewn amrywiaeth eang o swyddi proffesiynol eraill).
Fel rheol, mae’n ofynnol i ymgeiswyr rhyngwladol nad yw’r Gymraeg neu’r Saesneg yn iaith gyntaf iddynt gyflwyno tystiolaeth o hyfedredd yn y Saesneg. Y gofynion iaith Saesneg lleiaf yw IELTS 6.0 (heb unrhyw elfen o dan 5.5), neu gyfwerth. Mae'r brifysgol yn cynnig cyrsiau iaith cyn i gyrsiau ddechrau trwy ELCOS i'r rhai sydd angen cymorth ychwanegol i gyrraedd y lefel ofynnol.
Am ragor o wybodaeth, anfonwch e-bost isport@bangor.ac.uk.
Gyrfaoedd
Mae ein rhaglenni ôl-radd wedi eu cynllunio (gyda hyfforddiant pellach lle bo'n briodol) i wella rhagolygon gyrfa ein myfyrwyr. Daw ein myfyrwyr o bob rhan o’r byd ac o amrywiaeth o ddisgyblaethau, gan gynnwys:
- Hyfforddwyr chwaraeon proffesiynol (e.e. rygbi, criced, pêl-droed Gaeleg, a hyfforddwyr rhedeg dygnwch)
- Aelodau tîm hyfforddi'r Deyrnas Unedig
- Athletwyr elit (e.e. gweithwyr proffesiynol mewn pêl-droed, pêl-droed Gaeleg, chwaraewyr criced a rygbi, golffwyr)
- Cyfarwyddwyr perfformiad timau rygbi proffesiynol yr Undeb Rygbi
- Perfformwyr opera
- Cerddorion proffesiynol
- Arweinwyr busnes a chyllid
- Uwch reolwyr o sefydliadau fel MasterCard a Facebook
- Criw cefn hofrennydd yr Awyrlu
- Rheolwyr traffig awyr
- Swyddogion yr heddlu
- Meddygon teulu ac anaesthetegyddion
- Rheolwyr yn y GIG.