Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae hwn yn gwrs byr rhan-amser ar lefel 6, sy’n cael ei gynnal ar ein campws ym Mangor. Ìý
I bwy mae’r cwrs hwn yn addas?
Mae'r cwrs byr hwn yn addas ar gyfer unrhyw un sy’n gofrestredig gyda HCPC, GPhC a'r NMC gan gynnwys bydwragedd neu Nyrsys Iechyd Cyhoeddus Cymunedol Arbenigol (SCPH).Ìý
Pam astudio’r cwrs?
Erbyn diwedd y cwrs byr hwn, bydd dysgwyr yn gallu:
- Dadansoddi ac adolygu'r prif fathau o ddiabetes; eu triniaeth a'u rheolaeth, gan gyfeirio at ganllawiau cenedlaethol a rhyngwladol.
- Gwerthuso'n feirniadol y dystiolaeth i gefnogi'r strategaethau sydd ar gael i hybu newid ymddygiad, hybu iechyd a hunanofal.
- Dangos gallu i syntheseiddio a gwerthuso'r sylfaen dystiolaeth i wneud penderfyniadau cadarn ynghylch opsiynau triniaeth a rheoli cleifion.
- Archwilio a gwerthuso'n feirniadol rôl y tîm amlddisgyblaethol wrth reoli cleifion diabetig.
Pa mor hir mae'r cwrs yn cymryd i'w gwblhau?
Mae’r cwrs byr hwn yn rhedeg dros 11 wythnos, fel arfer yn ystod semester 2 o’r flwyddyn academaidd.
Y dyddiadau perthnasol ar gyfer blwyddyn academaidd 24/25 yw:
7 diwrnod astudio, ar y dyddiadau canlynol ar ein campws ym Mangor:
- 10 Ebrill 2025
- 24 Ebrill 2025
- Ìý8 Mai 2025
- 15 Mai 2025
- 22 Mai 2025
- 5 Mehefin 2025
- 19 Mehefin 2025
Bydd asesiadau ar y cwrs byr hwn yn cynnwys:
-
Cyflwyniad wedi’i recordio (15 munud, i'w gyhoeddi ar 4 Gorffennaf) yn ymwneud ag agwedd ar ofal/rheolaeth diabetig e.e. triniaeth ffarmacolegol, diet neu ddefnyddio cyfweliadau ysgogol ayb.
-
Aseiniad astudiaeth achos (4,000 gair, i'w gyflwyno ar 8 Awst) sy'n darparu tystiolaeth o ddysgu yn erbyn y canlyniadau dysgu. Bydd yr aseiniad yn cynnwys proffil achos dienw (uchafswm o 400 gair) a fydd yn mynd i’r afael â nodweddion allweddol cefndir y claf, hanes teuluol perthnasol a natur y salwch. O'r proffil achos, bydd y myfyriwr yn dewis problem benodol ar gyfer trafodaeth bellach a dadansoddiad beirniadol, gydag adolygiad llenyddiaeth perthnasol.
Ìý
Tiwtor
Heather Bloodworth, Darlithydd mewn Gofal Iechyd, Ysgol Gwyddorau Iechyd
Mae gan Heather wybodaeth a phrofiad helaeth yn ymwneud ag ymarfer uwch, endocrinoleg, gofal brys a nyrsio practis cyffredinol.
Ìý
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Cynlluniwyd y modiwl hwn i gwmpasu pob agwedd ar reoli diabetes, ac mae'n hanfodol er mwyn sicrhau bod gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n gweithio ym maes diabetes yn gwbl gyfarwydd â'r cyfoeth o wybodaeth ddamcaniaethol ac ymarferol gyfoes sy'n ymwneud â rheoli'r cyflwr a'i gymhlethdodau.
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Bydd y modiwl yn trafod y pynciau canlynol, ymhlith pethau eraill:
- Cyn diabetes ac atal diabetes
- Rôl addysg strwythuredig
- Meddyginiaeth geneuol
- Therapi chwistrelladwy - Inswlin a GLP1
- Therapi pwmp inswlin
- Monitro glwcos yn y gwaed
- Maeth a diabetes
- Argyfyngau acÃwt
- Cymhlethdodau a ffyrdd o’u hatal, megis:
Clefyd cardiofasgwlaidd ac anhwylderau lipid
Gofal traed
Neuropathi
Neffropathi
Retinopathi
Hunanofal
Ìý
Cost y Cwrs
- Dylid cyfeirio ymholiadau ynghylch ariannu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) aÌýbcu.nurseeducation@wales.nhs.uk.
- Mae'n bosibl y bydd cyfleoedd ariannu ar gael i rai sy'n gweithio'n lleol (h.y. yn ardaloedd gogledd Cymru a Phowys), cysylltwch â'r cydlynydd modiwl perthnasol am fanylion.
- Dylid cyfeirio pob ymholiad arall sy'n ymwneud â cheisiadau ac ariannu at gydlynydd y modiwl.
Ìý
Ewch i dudalenÌýFfioedd a Chyllid israddedigÌýer mwyn cael gwybodaeth bellach.
Gofynion Mynediad
Rhaid i ymgeiswyr fodloni'r meini prawf canlynol i gael eu hystyried yn gymwys ar gyfer y cwrs hwn:
-
Unrhyw un sy’n gofrestredig gyda HCPC, GPhC neu’r NMC gan gynnwys bydwragedd neu Nyrsys Iechyd Cyhoeddus Cymunedol Arbenigol (SCPH).Ìý
Gwneud Cais
Sut i wneud cais
Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen ac yn dilyn y canllaw cais cam wrth gam gan y bydd hyn yn nodi pa adrannau o'r ffurflen gais sy'n orfodol ar gyfer y math o gwrs rydych am wneud cais amdano ac arbed amser i chi.
Paratowch y wybodaeth ganlynol (mewn dogfen Word):
- Manylion cyflogaeth cyfredol;
- Blynyddoedd o brofiad, a hanes cyflogaeth (lle bo hynny'n berthnasol)
- Enw'r aelod staff a'r sefydliad sydd wedi cymeradwyo eich cyllid ar gyfer y modiwl hwn.
Ìý
Bydd hyn yn cyflymu'r broses o lenwi'r ffurflen gais.
I wneud cais am y cwrs hwn, mae angen i chi greu cyfrif yn einÌý
Bydd angen i chi gael mynediad at y cyfeiriad e-bost yr ydych yn ei nodi wrth greu eich cyfrif i'w gadarnhau.
Ar ôl creu cyfrif, byddwch yn gweld tudalen gartref gyda sawl tab:
- Personol
- Rhaglen
- Gwybodaeth
- Cyswllt
- Addysg
- Cyflogaeth
- Iaith
- Cyllid
Mae angen i chi gwblhau pob adran cyn cyflwyno'ch cais.
Pan fydd adran wedi'i chwblhau, bydd symbol 'tic' yn ymddangos ar y tab.
- Cliciwch ar 'Ceisiadau nad ydynt yn graddio / Modiwlau Annibynnol', yna dewiswch 'Heb raddio Israddedig'.
- Yn yr adran nesaf, dewiswch Modiwlau a Addysgir nad ydynt yn Graddio mewn Iechyd (NGU/HS) Cliciwch Cadw a Parhau.
- Ar y dudalen nesaf, y rhagosodiad ar gyfer y cwestiwn cyntaf yw Llawn Amser. Mae'n rhaid i chi newid hyn i 'Ran Amser':
- Nawr mae angen i chi fewnbynnu cod y modiwl:ÌýNyrsio DiabetesÌý: y cod ywÌýNHS: 3149. Rhaid cwblhau'r adran hon er mwyn i'ch cais gael ei brosesu.
- Mae angen i chi hefyd nodi'r dyddiad dechrau. Dewiswch eich dewis, yna cliciwch 'Cadw a Parhau'.
- PWYSIG: Nid oes angen i chi ysgrifennu datganiad personol i wneud cais am y cwrs hwn. Yn hytrach, llwythwch y ddogfen i fyny, gan gynnwys gwybodaeth am gyflogaeth, profiad ac addysg rydych wedi'i chreu cyn dechrau'r cais sy'n cynnwys enw eich cyflogwr presennol, nifer y blynyddoedd o brofiad sydd gennych, a'ch cymhwyster uchaf hyd yn hyn. Cliciwch Cadw a symud ymlaen.
Dim ond manylion eich cymhwyster uchaf sydd ei angen arnoch hyd yma, e.e. os oes gennych gymhwyster ôl-raddedig, dim ond hyn y dylech ei gynnwys.
Gofynnir i chi am dystiolaeth o'r cymhwyster. Anfonwch gopi o'ch cymhwyster naill ai os yw'n hawdd ei gyrraedd, neu lanlwythwch y ddogfen Word eto (a baratowyd gennych yn gynharach).
Ewch i waelod y dudalen a chliciwch ar 'Nid oes gennyf unrhyw hanes cyflogaeth'. Rydych eisoes wedi paratoi'r wybodaeth yma yn eich dogfen Word.
Os ydych yn cael eichÌýariannu gan AaGIC / Bwrdd Iechyd, atebwch y cwestiynau a ganlyn:
- Sut byddwch chi'n ariannu'ch astudiaethau?ÌýNoddedig
- Union enw'r awdurdod cyllido:ÌýBwrdd Iechyd
- Gwlad:ÌýY Deyrnas Unedig
- Rhowch fanylion swm y dyfarniad?ÌýWedi'i ariannu'n llawn.
- Bydd y nawdd yn cynnwys:ÌýFfioedd DysguÌýÌý
- A ydych chi wedi derbyn y cyllid hwn?ÌýDewiswch ‘ie’ * Sylwch y bydd gofyn i chi uwchlwytho tystiolaeth o’r cyllid.ÌýOs hoffech gadarnhau ‘ie’ i’r cwestiwn hwn, ondÌýnad oesÌýgennych unrhyw gadarnhad ysgrifenedig i’w uwchlwytho, gallwch uwchlwytho’ch ddogfen Word yma eto.
Os ydych ynÌýhunan-ariannu, neu'n cael eich ariannu gan bractis meddyg teulu annibynnol, rhowch yr holl fanylion fel y bo'n briodol