鶹ý

Fy ngwlad:

Grwpiau a Chanolfannau Ymchwil y Coleg Celfyddydau, Dyniaethau a Busnes

ڲɲɰ:

Mae'r ganolfan newydd hon yn tynnu sylw at y cyfoeth o arbenigedd a'r traddodiad o ymchwilio a dysgu yn y maes Arthuraidd a geir ym Mangor ers sefydlu'r brifysgol ym 1884. Yn y ganolfan ceir casgliad Arthuraidd Bangor ynghyd â chasgliad Arthuraidd Harries, a oedd gynt yn Sir y Fflint ac a ddaeth i Fangor yn 2014/2015. Mae'n ganolbwynt i gyfnewid a chydweithredu ar draws nifer o adrannau yn y brifysgol, a chyda phartneriaid allanol.

Cydlynydd:

Mae'r Ganolfan dros Farddoniaeth Gyfoes (a elwir yn anffurfiol yn 'ContemPo') yn ganolfan ymchwil draws-sefydliadol, gydweithredol a sefydlwyd yn 2006, dan arweiniad yr adrannau Saesneg ym Mhrifysgol Aberystwyth, Prifysgol Bangor, Prifysgol Brighton a Phrifysgol Surrey.

ڲɲɰ:
Cyd-gyfarwyddwyr:, Yr Athro Steven Price,Yr Athro Pwyll ap Sion

Mae'r ganolfan newydd hon yn dwyn ynghyd ysgolheigion o ddisgyblaethau ar draws Prifysgol Bangor sy'n addysgu ac ymchwilio i wahanol agweddau ar astudiaethau ffilm, teledu a sgrin, er mwyn rhannu syniadau methodolegol a gweithio ar brojectau ymchwil cydweithredol. Rydym yn ymateb i'r newid a welir yn natur y disgyblaethau hyn - lle mae gwaith pwysig yn cael ei gyflawni'n gynyddol y tu allan i adrannau Astudiaethau Ffilm traddodiadol. Ein pwrpas yw hwyluso'r cydweithredu hwn, cydlynu addysgu, datblygu darpariaeth ôl-raddedig, sicrhau cyllid ar gyfer datblygiadau yn y maes, a chynyddu amlygrwydd a dylanwad ein hymchwil.

ڲɲɰ:

Fforwm ar gyfer ymchwil ar Galicia gyfoes. Mae materion yn ymwneud â dwyieithrwydd a hunaniaeth ddiwylliannol a'u perthnasedd i ddiwylliant Galicia a diwylliant Cymru o ddiddordeb arbennig i'r fforwm.

Ewch i'r wefan..

Cydlynydd:

ڲɲɰ:(Ysgol Seicoleg)

Mae'r ganolfan wedi ei lleoli ym Mhrifysgol Bangor ac yn gweithredu ar draws nifer o ysgolion a cholegau. Mae ymchwil ym maes dwyieithrwydd yn seiliedig ar sawl disgyblaeth, gan gynnwys dwyieithrwydd, seicoleg, niwrowyddoniaeth, addysg, cymdeithaseg, economeg a gwyddor wleidyddol.

Nod Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru (SYYC) yw hyrwyddo ymchwil i hanes, dylanwad a threfniadaeth ystadau ledled Cymru. Bwriad SYYC yw hyrwyddo ymchwil o'r safon uchaf yn y maes hwn a sicrhau y bydd y wybodaeth a gynhyrchir gennym yn ymwneud â gorffennol Cymru ar gael yn hwylus ac yn cyfrannu'n adeiladol at ei dyfodol.

Cyd-gyfarwyddwyr:acYr Athro. Tony Brown

Agorwyd y Ganolfan yn swyddogol gan R.S. Thomas ym mis Ebrill 2000. Mae ei archif yn cynnwys y cyfan mae R.S.Thomas wedi ei gyhoeddi, ynghyd â chasgliad cynhwysfawr o adolygiadau, llyfrau beirniadol ac erthyglau, cyfweliadau a deunydd clyweledol. Mae'r deunydd hwn ar gael i ysgolheigion gwadd.

Mae Canolfan Ymchwil Cymru yn dwyn ynghyd pawb ym Mhrifysgol Bangor sy'n gweithio ar Gymru yn Gymraeg a Saesneg ar draws y Celfyddydau a'r Dyniaethau ac mewn maes polisi iaith.

ڲɲɰ:a

Mae Canolfan Stephen Colclough ar Hanes a Diwylliant y Llyfr yn ganolfan ryngddisgyblaethol i astudiaethau uwch o'r llyfr fel arteffact, yn y gorffennol, y presennol a'r dyfodol, ac o'r diwylliannau sy'n gysylltiedig â'r llyfr. ⁠Gan weithio mewn cydweithrediad â chydweithwyr ym Mangor a thu hwnt, mae diben deublyg i'r ganolfan: cryfhau ac ehangu ein dealltwriaeth o le'r llyfr mewn meysydd diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd, a datblygu ein dealltwriaeth o'r llyfr yn gyffredinol fel nwydd diwylliannol, cludydd gwybodaeth a rhywbeth i'w chwenychu.

Nod WISERD yw cynyddu’r adnoddau sy’n ymwneud â gwyddorau cymdeithas ledled Cymru trwy gydweithredu, cynnal projectau ar y cyd a chreu cysylltiadau gyda chanolfannau yn y Deyrnas Unedig a thu hwnt.

Ewch i'r wefan...

Mae’r Sefydliad Cyllid Ewropeaidd yn rhoi gwasanaeth ymgynghorol arbenigol ac adroddiadau ar brojectau i fanciau, cwmnïau gwasanaethau ariannol, cymdeithasau masnach, llywodraethau, sefydliadau rhyngwladol a sefydliadau yn y sector cyhoeddus. Mae ganddo brofiad eang o ddadansoddi’r sefyllfa economaidd a busnes allanol sy’n effeithio ar gynllunio strategol, cystadleurwydd rhyngwladol a pholisi cyhoeddus yn y sector bancio ac ariannol.

Mae Llefydd Newid Hinsawdd yn ganolfan ymchwil cydweithredol sy'n uno safbwyntiau o nifer o ddisgyblaethau ym Mhrifysgol Bangor. Mae hyn yn caniatáu i academyddion, ymchwilwyr a myfyrwyr PhD roi sylw ar y cyd i syniadau’n ymwneud ag ymdeimlad o le mewn perthynas â newid yn yr hinsawdd.

Grwpiau ac Archifau