Bydd canlyniadau project ymchwil gwerth miliynau o bunnoedd, y mae Bangor yn gyfrannwr allweddol ato, yn helpu i ddeall y rhyngweithio rhwng ein cefnforoedd a'n hatmosffer. Bydd hyn yn ei dro yn gwella鈥檙 gallu i ddarogan tywydd eithafol, ac yn y pen draw yn cyfarwyddo llywodraethau ble i fuddsoddi mewn amddiffynfeydd llifogydd a pholis茂au newid tir.
Mae digwyddiadau tywydd eithafol, yn enwedig stormydd y gaeaf, wedi digwydd yn amlach ac yn amlach yn y degawd diwethaf. Ar draws gogledd Ewrop ac Asia, mae ymchwilwyr wedi sylwi bod y gaeafau caletach wedi cyd-daro 芒 gorchudd rhew m么r hynod o isel yn yr Arctig Barents a Kara Seas yn yr haf blaenorol.
Mae鈥檙 prosiect yn gydweithrediad rhwng y Ganolfan Eigioneg Genedlaethol, Swyddfa Dywydd y DU a rhwydwaith o wyddonwyr. Mae cyfraniad allweddol Bangor yn gwerthuso鈥檙 gwahanol brosesau cefnforol sy鈥檔 gosod tymheredd arwyneb y m么r ac yn effeithio ar i芒鈥檙 m么r yn nwyrain yr Arctig.
Mae gan y cefnfor swyddogaeth hanfodol yng nghyswllt yr hinsawdd a thywydd ac mae cyfraniad Bangor yn allweddol i ateb y cwestiynau hyn.