Plastig yw'r math mwyaf cyffredin o falurion morol a geir yn nyfroedd y byd. Gall malurion plastig ddod mewn bob maint, ond gelwir y rhai sy'n llai na phum milimetr o hyd yn ficroblastigau ac maent yn destun pryder cynyddol i'n hamgylchedd.
Prifysgol Bangor yw un o'r sefydliadau cyntaf i ymchwilio i bresenoldeb microplastigion mewn dyfroedd mewndirol gydag astudiaeth arloesol yn y Deyrnas Unedig sy'n cael sylw yn y cyfryngau ledled y byd mewn cydweithrediad 芒 Chyfeillion y Ddaear. 聽Ers hynny, rydym wedi sefydlu nifer o brojectau amlwg sy'n edrych ar bresenoldeb a symudiad microplastigion mewn afonydd, moroedd a chefnforoedd ledled y byd.
Mae prosiectau鈥檔 cynnwys gweithio gyda sefydliadau fel We Swim Wild a Surfers Against Sewage, a chreu a gweithredu ar brosiect gwyddoniaeth dinasyddion mwyaf o鈥檌 fath yn y DU, a oedd yn ceisio mapio presenoldeb microblastigau yn nyfroedd y DU.
Mae Prifysgol Bangor yn sefydliad ymchwil blaenllaw ar lygredd plastig ac mae wedi creu Canolfan Ymchwil Plastig Cymru (PRC Cymru) sy鈥檔 dod ag academyddion a sefydliadau sydd 芒 diddordeb ynghyd i ymchwilio i bob agwedd ar ddefnyddio plastig, llygredd plastig a dewisiadau eraill o blastig.
Mae gwaith o鈥檙 fath yn hanfodol os ydym am ddeall maint yr argyfwng llygredd plastig yr ydym yn ei wynebu - ac yn hollbwysig, yr hyn y gallwn ei wneud yn ei gylch. Cael dull amlddisgyblaethol o'r fath yw'r unig ffordd i fynd i'r afael 芒'r trychineb amgylcheddol yn ystyrlon, ac mae Prifysgol Bangor yn arwain y ffordd wrth wneud hynny.