Mae ysgoloriaethau ar gael I ariannu pob un o鈥檙 modiwlau a鈥檙 rhaglenni atalacademy. Cewch fwy o wybodaeth听ahepw@bangor.ac.uk听.
Gall yr holl fodiwlau gael eu cwblhau drwy ddysgu o bell, gweler isod am y manylion.
Am gyfarwyddiadau sut i wneud cais am y modiwlau darpariaeth hyblyg yma, darllenwch y ddogfen yma.
Yn ogystal 芒 chynnig cyfleoedd arbennig i ennill cymwysterau 么l-radd mewn Iechyd Ataliol ac Ecwiti Iechyd, bydd ATAL (Academi Tegwch Iechyd, Iechyd Ataliol a Llesiant) hefyd yn cynnal modiwlau lefel 么l-radd unigol mewn nifer o bynciau. Rydym yn darparu pump o'r modiwlau 'darpariaeth hyblyg' y gellir eu cwblhau heb gofrestru ar un o'n rhaglenni cymwysterau 么l-radd. Er mwyn sicrhau鈥檙 hyblygrwydd mwyaf, caiff yr holl fodiwlau darpariaeth hyblyg eu cynnig trwy ddysgu o bell a gellir rhoi鈥檙 credydau a enillwch tuag at raglen 么l-radd yn y dyfodol. Mae mwy o fanylion isod.
Yngl欧n 芒'r ATAL
Mae'r syniad bod atal yn well na gwella yn fwy perthnasol nag erioed. Yn wir, mae afiechydon lluosog ac anhwylderau hir dymor y mae鈥檔 bosib eu hosgoi鈥檔 effeithio ar boblogaethau鈥檔 gynyddol, ac mae gwir angen canolbwyntio ar atal salwch. Mae atal salwch yn ymwneud 芒 helpu pobl aros yn iach, yn hapus ac yn annibynnol cyhyd ag y bo modd. Mae'n golygu atal problemau rhag codi yn y lle cyntaf; canolbwyntio ar gadw pobl yn iach, nid dim ond eu trin pan fyddant yn mynd yn s芒l. Yn wir, nid diffyg salwch neu wendid yn unig yw ataliaeth, ond meddu o set o adnoddau personol y mae angen eu meithrin a'u datblygu i sicrhau iechyd meddwl ac iechyd corfforol da. Yn ogystal, nid yw iechyd ataliol yn rhywbeth y gall y system iechyd a gofal cymdeithasol ei ddatrys ar ei ben ei hun, gan fod llawer o agweddau sy'n dylanwadu ar iechyd da sydd y tu hwnt i reolaeth y sector iechyd a gofal cymdeithasol. Rhaid ymgorffori ymwybyddiaeth o ecwiti iechyd ac ymrwymiad iddo yn narpariaeth gofal iechyd er mwyn i鈥檙 atal lwyddo trwy鈥檙 gymdeithas gyfan.
Bydd modiwlau darpariaeth hyblyg yr ATAL ymdrin ag amrywiol bynciau sy'n ymwneud ag 'Iechyd Ataliol ac Ecwiti Iechyd' gyda'r nod o hyfforddi arweinwyr ym maes iechyd a gofal cymdeithasol i reoli ac arwain arloesedd yn ymarferol yn eu sefydliadau. Bydd yr hyfforddiant yn rhoi i chi鈥檙 offer a鈥檙 wybodaeth i gynllunio, datblygu a gwerthuso gweledigaeth gyffredin a chynhwysol i鈥檆h sefydliad, gan ddefnyddio鈥檙 ymchwil a'r datblygiadau diweddaraf ym maes iechyd ataliol, ecwiti a theori arweinyddiaeth effeithiol. Trwy weithdai, darlithoedd ac asesiadau 芒 chymorth, cewch eich grymuso i ddatblygu diwylliant cydweithredol yn eich sefydliad sy'n meithrin gallu'r gweithlu ar y cyd i gyflawni dyheadau 鈥淐enedl Iachach鈥 yn effeithiol.
Mae ATAL yn rhan o raglen Academi Dysgu Dwys Llywodraeth Cymru (ILA). O dan y fenter hon datblygwyd canolfannau ym Mhrifysgolion Cymru sy鈥檔 cynnig ymchwil ac addysg i gefnogi gallu proffesiynol ac arweinyddiaeth systemau sy'n addas at yr heriau sy鈥檔 wynebu systemau iechyd a gofal cymdeithasol heddiw ac i'r dyfodol. Bydd yr ATAL yn canolbwyntio ar gyflymu hyrwyddo a mabwysiadu iechyd ataliol yn ymarferol ledled ecosystem gofal iechyd integredig (e.e., iechyd a gofal cymdeithasol, y trydydd sector, tai, addysg a鈥檙 diwydiannau gwyddorau bywyd) a hynny mewn cyd-destun dwyieithog. Bydd yn datblygu rhwydwaith o arweinwyr gwybodus, deinamig sy鈥檔 gallu ysgogi newid er mwyn rhoi sylw i iechyd a鈥檙 heriau cymdeithasol cysylltiedig.
Beth mae modiwlau鈥檙 ddarpariaeth hyblyg yn ei gynnig?
Bydd pob modiwl darpariaeth hyblyg yn cynnig dysgu o dan arweiniad mewn maes pwnc penodol ac iddo amcanion dysgu penodol. Gyda'i gilydd, nod y modiwlau yw:
- Galluogi鈥檙 myfyrwyr i reoli ac arwain arloesedd yn ymarferol ac yn effeithiol yn eu sefydliadau, gan sicrhau bod systemau dysgu, monitro a gwerthuso proffesiynol yn cyd-daro 芒 bwriadau strategol y sefydliad.
- Rhoi'r offer a'r wybodaeth i鈥檙 myfyrwyr feithrin gwytnwch ledled eu sefydliad.
- Galluogi arweinwyr y maes iechyd i gynllunio, datblygu a gwerthuso gweledigaeth gyffredin a chynhwysol i鈥檞 sefydliad, gan gyfeirio at ddatblygiadau diweddaraf y maes iechyd ataliol (yn genedlaethol yng Nghymru ac yn rhyngwladol) ac at theori arweinyddiaeth effeithiol.
- Grymuso鈥檙 myfyrwyr i ddatblygu diwylliant cydweithredol sy'n meithrin gallu'r gweithlu cyfan i gyflawni dyheadau 鈥淐enedl Iachach鈥 yn effeithiol.
- Galluogi myfyrwyr i gasglu a defnyddio data er mwyn gwneud penderfyniadau gwybodus.
Beth fyddwch yn ei astudio?
Caiff y modiwlau eu darparu trwy gymysgedd hyblyg o weithdai, seminarau a darlithoedd ar-lein sy鈥檔 addas i ymgeiswyr sydd mewn cyflogaeth. Caiff credydau鈥檙 modiwlau eu cofnodi yn yr un modd 芒 mathau eraill o ddysgu blaenorol achrededig. Mae pob modiwl werth 10 credyd ar lefel 么l-radd.
Mae pob modiwl darpariaeth hyblyg yn cynnwys:
- Dau weithdy ar-lein o oddeutu 5 awr yr un (Rhagarweiniol ac Uwch).
- Deg awr o ddarlithoedd/seminarau ar-lein ynghyd 芒 gwaith darllen cysylltiedig.
- Goruchwyliaeth unigol a thiwtorialau
- Fforymau trafod a hwylusir gyda myfyrwyr eraill
Isod mae manylion ychwanegol am gynnwys pob modiwl darpariaeth hyblyg. Pan wnewch chi gais gofynnir i chi nodi pa fodiwl(au) yr hoffech chi gofrestru ar eu cyfer.
Sylwch y gall y modiwlau uchod newid. Mae'n bosib y gall strwythur rhaglenni a modiwlau unigol newid o bryd i'w gilydd am resymau fel ehangu'r cwricwlwm, newidiadau staff a niferoedd myfyrwyr, lle bo'n berthnasol.
ILA-4005 Hyfforddi a Mentora
Mae'r modiwl hwn yn rhoi cyfle i鈥檙 myfyrwyr ffurfio a datblygu perthnasoedd proffesiynol fel hyfforddwyr neu fentoriaid. Bydd y myfyrwyr yn dysgu am sgiliau cyfathrebu a modelau hyfforddi/mentora ac yn dechrau integreiddio'r sgiliau hynny i'w hymarfer fel hyfforddwyr/mentoriaid. Bydd y gweithdai a鈥檙 darlithoedd yn cyflwyno damcaniaethau ac enghreifftiau ymarferol o'r gwaith hwnnw, ac yna bydd disgwyl i fyfyrwyr gymhwyso'r wybodaeth honno mewn modd ymarferol trwy weithio fel hyfforddwyr neu fentoriaid yn y gweithle am o leiaf 10 awr. Mae'r gweithgareddau pwysig yma鈥檔 gyfle gwych i鈥檙 myfyrwyr ymarfer sgiliau hyfforddi/mentora ac ennill dealltwriaeth ddyfnach o'r broses o safbwynt cymhwysol.
ILA-4006 Creu Diwylliant Dysgu
Bydd y myfyrwyr sy'n cwblhau'r modiwl hwn yn ennill dealltwriaeth o bwysigrwydd creu diwylliant gwella parhaus priodol sy鈥檔 arwain at system hunanwella. Yna c芒nt gyfle i ddangos, trwy gyfres o ddilyniannau, sut i sicrhau newid diwylliannol cynaliadwy yn eu sefydliad.
ILA-4007 Ecwiti Iechyd a Hawliau Dynol
Mae'r modiwl hwn yn canolbwyntio ar sylfeini damcaniaethol ac empirig ecwiti iechyd a hawliau dynol yng nghyd-destun iechyd ataliol. Nod y modiwl hwn yw nodi a dadansoddi damcaniaethau cydraddoldeb, ecwiti, cyfiawnder cymdeithasol a hawliau dynol. Archwilir y fframweithiau cysyniadol, damcaniaethol ac athronyddol sy'n sail i bolisi ac arferion maes iechyd ataliol. Bydd myfyrwyr yn datblygu dealltwriaeth feirniadol o systemau hawliau dynol, a dulliau iechyd a datblygu sy'n seiliedig ar hawliau. Bydd hynny鈥檔 galluogi鈥檙 myfyrwyr i werthuso'n feirniadol fodelau a dulliau cynhwysiant cymdeithasol, cyfranogiad cymunedol a symbylu cymunedol. Bydd yn datblygu sgiliau beirniadol sy鈥檔 ymwneud ag ysgogi newid cymdeithasol cynaliadwy a chadarnhaol.
ILA-4009 Iechyd Meddwl a Lles
Mae'r modiwl yn gyfle i fyfyrwyr ehangu eu dealltwriaeth o iechyd meddwl a lles seicolegol. Bydd y myfyrwyr yn datblygu dealltwriaeth o waith gwahanol ymarferwyr ym maes iechyd meddwl. O gymhwyso'r gwahanol safbwyntiau, bydd y myfyrwyr yn ystyried nifer o anhwylderau dosbarthedig (e.e. yr hwyliau, gorbryder) i gydnabod a chefnogi'r rhai sy'n eu cyflwyno eu hunain gydag anawsterau penodol. Caiff y myfyrwyr eu hannog hefyd i ystyried yr anhwylderau hynny鈥檔 rhan o gontinwwm, a byddant yn archwilio cyfyngiadau'r dull meddygol o wneud diagnosis a thriniaeth. Yn ogystal 芒'r ffocws ar drallod meddyliol, caiff y myfyrwyr eu cyflwyno i ymyriadau a gynllunnir i wella lles meddyliol trwy lesiant, gwytnwch a hyfforddiant seicolegol gadarnhaol.听
ILA-4008 Newid Ymddygiadol Iach
Mae llawer o wahanol fathau o newid ymddygiad - mae rhai鈥檔 dibynnu ar bersw芒d a newid agweddau, ac eraill ar osod nodau a bwriadau ymwybodol. Ond mae rhai pethau sy'n ysgogi ymddygiad yn gweithredu islaw鈥檙 meddwl ymwybodol, a gallant drechu bwriadau a nodau. Yn wir, o'u cynllunio'n ofalus, mae ymyriadau i newid ymddygiad yn gweithio orau pan fyddant yn osgoi systemau gwybyddol ac yn gweithio'n uniongyrchol i ddatblygu arferion a threfniadau awtomatig. Nid yn unig mae'r strategaeth hon yn ei gwneud hi'n haws i bobl wneud dewisiadau iach a chadarnhaol a hynny鈥檔 ddiofyn, mae hefyd yn ei gwneud yn llai tebygol y bydd gwrthwynebiad i awdurdod neu gymhelliant isel yn effeithio鈥檔 negyddol ar ymddygiad. Bydd y modiwl yn cyflwyno鈥檙 myfyrwyr i rai o'r damcaniaethau a鈥檙 dulliau allweddol sy鈥檔 ymwneud 芒 newid ymddygiad a bydd ffocws penodol ar sut mae eu defnyddio i hyrwyddo newid ymddygiad iach. Caiff hynny ei gyflwyno yng nghyd-destun dull arwain systemau i archwilio sut y gellir hwyluso newid ymddygiad iach o fewn a rhwng sefydliadau.
Gofynion Mynediad
Dylai鈥檙 darpar ymgeiswyr feddu ar radd israddedig mewn pwnc perthnasol (2(ii) neu uwch), yn ogystal 芒 datganiad personol cryf a geirda(on) (academaidd a/neu鈥檔 gysylltiedig 芒鈥檙 gwaith).
Bydd yn bosib trosglwyddo credydau ac Achrediad Dysgu trwy Brofiad Blaenorol (uchafswm o 40 credyd ar Lefel 7). Os ceisir trosglwyddo credydau yn achos modiwlau hyfforddedig dulliau ymchwil, rhaid bod wedi eu cwblhau o fewn y 5 mlynedd diwethaf.
Ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol, sg么r IELTS o 6.0 (heb yr un elfen o dan 5.5), neu gyfwerth.
Os nad ydych yn cyflawni'r gofynion academaidd uchod ond bod gennych o leiaf 3 blynedd o brofiad gwaith perthnasol a thystiolaeth o astudio diweddar neu ddatblygiad proffesiynol (i ddangos gallu i astudio ar lefel 7) efallai yr ystyriwn eich cais.
听
听
听