Â鶹´«Ã½¸ßÇå°æ

Fy ngwlad:
Nyrs mewn dosbarth

Academi Tegwch Iechyd, Iechyd Ataliol a Llesiant

person writing on brown wooden table with a cup in the backgroun

Academi Tegwch Iechyd, Iechyd Ataliol a Llesiant

Croeso i’r Academi Tegwch Iechyd, Iechyd Ataliol a Llesiant – esiampl o addysg ac arloesedd trawsnewidiol sy’n flaenllaw ym maes gofal iechyd. Rydym yn ymrwymo i ail-lunio dyfodol iechyd a llesiant, yng Nghymru a ledled y byd. Mae’r academi, sef yr ALPHAcademi gynt, yn cynrychioli ymrwymiad dwfn i hyrwyddo tegwch iechyd, hyrwyddo llesiant, a hyrwyddo mesurau ataliol i fyd iachach. Mae ar groesffordd addysg, ymchwil ac ymarfer, ac rydym yn cynnig amrywiaeth o raglenni ôl-radd cynhwysfawr, cyrsiau unigol, a modiwlau dysgu hyblyg mewn Iechyd Ataliol, Iechyd y Boblogaeth, ac Arweinyddiaeth. Mae cyfuniad nodedig o ddysgu ar-lein ac yn y cnawd sy’n darparu ar gyfer anghenion amrywiol gweithwyr proffesiynol sy'n yn ogystal â phrofiad addysgol cyfoethog.

Yn ogystal, rydym yn darparu gweithdai ar-lein am ddim, gwasanaethau ymgynghorol, a thîm o weithwyr proffesiynol, ymchwilwyr, ac addysgwyr o fri sy'n dod â'u harbenigedd amrywiol i'r rhaglenni. Gyda’n gilydd, rydym yn cychwyn ar daith i rymuso’r dysgwyr i arwain newid trawsnewidiol ym myd iechyd a llesiant.

Mae’r Academi Tegwch Iechyd, Iechyd Ataliol a Llesiant yn rhan annatod o rwydwaith o Academïau Dysgu Dwys a ariennir gan Lywodraeth Cymru—hyb cydweithredol sy’n ymroddedig i feithrin sgiliau, meithrin arbenigedd, cyfnewid gwybodaeth, a throsi ymchwil yn atebion diriaethol, yn y byd go iawn.

Ymunwch â ni mewn project cyffrous a ninnau’n braenaru'r tir ar gyfer dyfodol iachach a thecach.

Addysgu arweinwyr a gweithwyr ym maes iechyd a gofal cymdeithasol am sut y gellir gweithredu arferion iechyd ataliol gyda chyrsiau wedi'u hariannu a chyrsiau rhad ac am ddim

Cefnogaeth ymchwil i’r maes iechyd ataliol

Ymgynghoriaeth i ddatblygu dulliau ac arferion newydd ar gyfer iechyd ataliol

Astudio gyda Ni

0:02
Datblygwch eich gyrfa gyda'r Academi ar gyfer Tegwch, Atal a Lles Iechyd ym Mhrifysgol Bangor.

0:09
Sylw i weithwyr gofal iechyd proffesiynol ac arweinwyr iechyd y cyhoedd! Hyrwyddo tegwch ac atal iechyd gyda’n MSc mewn ‘Atal, Iechyd y Boblogaeth, ac Arwain

0:20
Mae ein cwrs yn cynnig dysgu hyblyg i gyd-fynd â'ch amserlen, gan gydbwyso gwaith, teulu ac addysg.

0:24
Cydweithio ag arweinwyr diwydiant ac academaidd mewn amgylchedd arloesol, beirniadol.
0:30
Cofrestrwch ar gwrs AHEPW Prifysgol Bangor i ddatgloi eich potensial.

0:36
Holwch nawr ar gyfer Dechrau Medi 2024
Ysgoloriaethau ar gael.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â:
Ewch i www.bangor.ac.uk/ahepw
ahepw@bangor.ac.uk

Ein Rhaglenni

Iechyd Ataliol, Iechyd y Boblogaeth ac Arweinyddiaeth (Dysgu Cyfunol, MSc/PGDip/PGCert)

MScÌýPgDipPgCert

Iechyd Ataliol, Iechyd y Boblogaeth ac Arweinyddiaeth (Dysgu o Bell, MSc/PGDip/PGCert)

MSCÌýÌýPGDipÌýPGCert

  • ILA-4005 Cymell a Mentora
  • ILA-4006 Creu Diwylliant Dysgu
  • ILA-4007 Tegwch Iechyd a Hawliau Dynol
  • ILA-4008 Newid Ymddygiad Iach
  • ILA-4009 Iechyd Meddwl a Lles

Darllenwch ragor

Gweithio mewn ardal gyhoeddus

Staff Academi Tegwch Iechyd, Iechyd Ataliol a Llesiant

Newyddion Diweddaraf a Digwyddiadau

Podlediad “Let’s Talk… Preventative Healthcareâ€

Ymunwch â ni i wrando ar bennod newydd bob mis yn trafod gofal iechyd ataliol gyda siaradwyr gwadd, o weithwyr meddygol proffesiynol i arbenigwyr pwnc.

Ìý

Gwrandewch ar y bennod ddiweddaraf o 'Let Talk Preventative Healthcare'...

Cysylltwch â ni

Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglÅ·n â chyfleoedd astudio, cyllid, gweithio gyda’r adran neu brojectau: AHEPW@bangor.ac.ukÌý

Partneriaid

Academiau Dysgu Dwys Cymru
Welsh Government logo
logo of betsi cadwaladr

Fron Heulog, Bangor, LL57 2EF

BLE RYDYM NI

Fron Heulog, Bangor, LL57 2EF

Mae’r Academi Tegwch Iechyd, Iechyd Ataliol a Llesiant, fel rhan o Brifysgol Bangor, wedi ymrwymo i gydnabod a gwerthfawrogi gwahaniaethau pobl, i feithrin y cryfderau y mae’r gwahaniaethau hynny yn eu cynnig i’r Brifysgol, ac i gefnogi’r holl staff a myfyrwyr i wneud y gorau o’u potensial. Rydym wedi ymrwymo i greu cymuned amrywiol o fyfyrwyr ac yn annog ceisiadau yn arbennig gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol.