Pam Astudio Ysgrifennu Creadigol?
Byddwn yn eich annog i roi cynnig ar bethau newydd: genres newydd, naratifau newydd ac iaith newydd. Yn bwysicaf oll efallai, byddwn yn eich annog i ysgrifennu p'un a ydych chi'n teimlo fel gwneud hynny ai peidio, i roi'r gorau i ddisgwyl i'r 'awen' eich聽 ysbrydoli, ond yn hytrach gymryd rheolaeth dros eich dawn greadigol - i ddod o hyd i'ch llais eich hun.聽
Hyfforddir ein MA mewn Ysgrifennu Creadigol gan staff sy'n awduron cyhoeddedig ac yn academyddion sydd 芒 phrofiad helaeth o heriau ymchwil prifysgol.
Mae'r staff sy'n gyfrifol am Ysgrifennu Creadigol yn d卯m o ysgolheigion blaenllaw sy'n cynnwys beirdd a nofelwyr arobryn. Mae'r staff ysgrifennu creadigol ym Mangor yn cyhoeddi ym mhrif ffurfiau ffuglen fer, y nofel a barddoniaeth, ac mae eu hymchwil yn rhychwantu beirniadaeth a chyfraniadau ymarferol i'r meysydd hynny.
Cyfleoedd Gyrfa o fewn Ysgrifennu Creadigol
Gall cymhwyster 么l-radd mewn Ysgrifennu Creadigol arwain at yrfa fel nofelydd, bardd neu ddramodydd. Mae cynllunio a datblygu project ysgrifennu o sylwedd yn baratoad da ar gyfer ysgrifennu a ariennir neu a gomisiynir yn y dyfodol, yn ogystal ag ar gyfer gyrfa academaidd mewn ymchwil yn seiliedig ar ymarfer.
Byddwch hefyd yn meithrin sgiliau y gellir eu defnyddio mewn cyd-destunau eraill, er enghraifft golygu, cyhoeddi, newyddiaduraeth a gweinyddu'r celfyddydau. Mae'r gallu i ddefnyddio iaith yn rhugl ac yn argyhoeddiadol yn hanfodol i lwyddo ym mron unrhyw faes, ac mae'r hyblygrwydd o weithio ar draws genres yn y cwrs hwn yn cynnig sylfaen ragorol i ddefnyddio iaith yn greadigol.
Ein Hymchwil o fewn Ysgrifennu Creadigol
Mae arbenigedd y staff sy'n gyfrifol am Ysgrifennu Creadigol i'w ganfod yng nghrefft iaith ac adrodd straeon yng nghyd-destun eang ymarfer proffesiynol. Mae'r staff ysgrifennu creadigol ym Mangor yn cyhoeddi ym mhrif ffurfiau ffuglen fer, y nofel a barddoniaeth, ac mae eu hymchwil yn rhychwantu beirniadaeth a chyfraniadau ymarferol i'r meysydd hynny.聽
Mae'r staff yn arbenigwyr a gydnabyddir yn rhyngwladol yn eu priod faes, gan ddod 芒 gwybodaeth a brwdfrydedd i'w haddysgu.聽 Mae gan yr adran gymuned weithgar o fyfyrwyr ymchwil ac mae'n cynnig goruchwyliaeth ymchwil mewn amrywiaeth o feysydd arbenigol, gan gynnwys:聽 Barddoniaeth, Ysgrifennu straeon byrion, Ysgrifennu arbrofol, Ecowleidyddiaeth.
Mae'r diddordebau ymchwil ym maes Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol yn amrywiol o ran cyfnod a dulliau. Mae'r meysydd ymchwil presennol a newydd ym maes Ysgrifennu Creadigol yn cynnwys addasu, arbrofi a chyfieithu ac ysgrifennu creadigol, a hynny o sawl safbwynt damcaniaethol, wedi eu llywio gan rywedd, dosbarth cymdeithasol, ideoleg, yn ogystal 芒'r berthynas rhwng llenyddiaeth a'r celfyddydau, llenyddiaeth a daearyddiaeth a llenyddiaeth a chrefydd.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.