Pentwr o lyfrau

Llenyddiaeth Saesneg

MAES PWNC 脭L-RADDEDIG TRWY DDYSGU

Darganfyddwch y cyrsiau o fewn Llenyddiaeth Saesneg

Pam Astudio Llenyddiaeth Saesneg?

Rydym yn cynnig amgylchedd deniadol a chefnogol ar gyfer astudio 么l raddedig, gan ganolbwyntio ar addysgu grwpiau bach a goruchwyliaeth un i un.

Mae 么l-raddedigion yn gweithio鈥檔 agos 芒 staff academaidd mewn cymuned ymchwil sy鈥檔 cymell cyfnewid a gweithgarwch rhyngddisgyblaethol.

Mae'r gweithgareddau ymchwil sydd wedi eu dechrau ac sy'n cael eu cynnal gan ein myfyrwyr yn cynnwys: cynhadledd 么l-radd flynyddol ar astudiaethau'r oesoedd canol a chanoloesoldeb; gweithdy ysgrifennu i staff a myfyrwyr 么l-radd; cyfnodolyn 么l-radd ar-lein; a fforwm ymchwil 么l-radd.

Celfyddydau a Diwylliant: Bydd y cysylltiadau agos sydd gennym 芒 theatrau lleol, grwpiau barddoniaeth a chymdeithasau myfyrwyr yn golygu bod digon o bethau i fynd 芒'ch bryd.

听Profiad Myfyrwyr

Mae ein myfyrwyr 脭l-raddedig yn siarad am eu profiad o Brifysgol Bangor hyd yn hyn ac yn rhannu cyngor ar pam dylech ystyried astudio Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Bangor.

00:00.00 - 00:04.00
Helo. Fy enw i yw Esraa Alkandari 听Rwy'n astudio Llenyddiaeth Saesneg.

00:06.00 - 00:10.00
Y rheswm dewisais Lenyddiaeth Saesneg yn y lle cyntaf yw fy mod i wrth fy modd yn darllen.

00:11.00 - 00:12.00
Mae darllen yn gwneud i mi deimlo fy mod yn deithiwr amser ac yn archwiliwr.

00:13.00 - 00:16.00
Rwy'n cael dysgu am ddiwylliannau eraill. A dyma'n union beth dwi'n ei garu am Fangor.

00:17.00 - 00:19.00
Mae'n lle amrywiol iawn gyda myfyrwyr o bob rhan o'r byd.

00:20.00 - 00:26.00
Hefyd, mae'r staff yma yn anhygoel. Maen nhw'n garedig iawn. Maen nhw'n gwneud i chi deimlo'n gartrefol.

00:27.00 - 00:30.00
Maent bob amser yn barod i helpu, felly byddant yn ateb eich e-byst yn gyflym iawn ac maent hefyd ar gael yn ystod oriau swyddfa ar gyfer unrhyw gwestiynau.

00:31.00 - 00:33.00
Yr hyn dwi鈥檔 ei garu am Saesneg yma yw bod y dosbarthiadau yn llai o ran maint,

00:35.00 - 00:36.48
felly mae hynny鈥檔 golygu bod y darlithydd yn gallu canolbwyntio ar bob un ohonom yn unigol.

00:39.00 - 00:42.00
Felly mae hynny'n mynd i wneud i chi deimlo eich bod chi'n rhan o d卯m

00:46.00 - 00:47.00
a hefyd yn ei gwneud hi'n haws cwrdd 芒 phobl sy'n rhannu'r un diddordebau ynoch chi.

00:48.00 - 00:50.00
Fel myfyriwr rhyngwladol, rydw i wir yn teimlo'n ddiogel yma. Mae

00:51.00 - 00:54.00
pawb mor gyfeillgar a dwi'n teimlo ein bod ni'n un teulu mawr, felly mae'n teimlo'n union fel cartref.

00:55.00 -00:58.00
Ar hyn o bryd rwy'n PhD myfyriwr yma, felly roeddwn i wrth fy modd gyda fy mhrofiad ym Mhrifysgol Bangor na allent ei adael.

Cyfleoedd Gyrfa o fewn Llenyddiaeth Saesneg

Mae astudio llenyddiaeth yn agor byd llawn ysbrydoliaeth, yn meithrin gwybodaeth a hefyd yn helpu i ddatblygu sgiliau sy'n hanfodol ar gyfer yr amgylchedd byd-eang sydd ohoni.

Mae ein cyrsiau'n baratoad gwych ar gyfer cymryd rhan mewn rhaglenni doethurol ac yn ychwanegu at gymwysterau'r rhai sy'n bwriadu dilyn gyrfa mewn meysydd diwylliannol a chreadigol megis cyhoeddi, gweinyddu'r celfyddydau, y cyfryngau, cyfathrebu ac addysgu. Gall y profiad o astudiaeth lenyddol 么l-radd hefyd wella cyflogadwyedd at y dyfodol, trwy feithrin sgiliau trosglwyddadwy megis: y gallu i wneud gwaith ymchwil annibynnol; cwblhau dadansoddiad datblygedig o destunau a dadleuon; a chyflwyno syniadau yn rhugl ar ffurf ysgrifenedig a llafar.

Ein Hymchwil o fewn Llenyddiaeth Saesneg

Mae cydnabyddiaeth dda i ansawdd ein hymchwil, sydd gyda'r orau yn y byd, gan olygu ein bod wedi ein rhestru ymhlith y 10 prifysgol orau ar gyfer llenyddiaeth Saesneg yn y wlad am ddwyster ymchwil, gyda dwy ran o dair o'n hymchwil yn y categor茂au 'gyda'r orau yn y byd' ac yn 'rhagorol yn rhyngwladol' (Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014). 听

Roedd cryfderau ymchwil yr ysgol yn troi o amgylch cyfnodau a meysydd astudio penodol: llenyddiaeth ganoloesol a'r cyfnod modern cynnar, gan gynnwys golygu testunau; hanes y llyfr a chyhoeddi; ll锚n Saesneg Cymru; llenyddiaeth rhamant a modern; ac ysgrifennu creadigol, gyda dulliau penodol wedi'u llywio gan rywedd, dosbarth cymdeithasol, ideoleg, yn ogystal 芒'r cysylltiadau rhwng llenyddiaeth a chelfyddyd, a llenyddiaeth a chrefydd.听 Rydym ymhlith yr ugain adran Llenyddiaeth Saesneg uchaf yn y Deyrnas Unedig am ein cyhoeddiadau.

Mae'r canolfannau a'r sefydliadau ymchwil ym Mhrifysgol Bangor, neu鈥檙 rhai y mae gennym bartneriaeth 芒 nhw, yn cynnwys:听Sefydliad Astudiaethau Canoloesol a Modern Cynnar, sef sefydliad ymchwil cydweithredol rhwng Prifysgol Bangor a Phrifysgol Aberystwyth;听Canolfan R.S. Thomas;听Y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd,听sef canolfan ar gyfer ymchwil a chyfnewid rhyngwladol ym maes Astudiaethau Arthuraidd sy'n tynnu ar gryfderau hanesyddol y Brifysgol yn y maes;听Canolfan Stephen Colclough ar Hanes a Diwylliant y Llyfr,听听sydd wedi'i leoli o fewn Llyfrgell a Chasgliadau Arbennig y Brifysgol ac sydd yn ganolbwynt i astudiaeth o'r llyfr fel gwrthrych materol.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

It looks like you鈥檙e visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?