Ym maes Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer mae gennym dros 40 mlynedd o brofiad mewn cyflwyno rhaglenni gradd israddedig a ni oedd un o'r Ysgolion Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer cyntaf i gynnig rhaglen meistr.聽 Rydym yn ymfalch茂o yn ein gallu i gynnig taith drawsnewidiol go iawn i chi yn ystod eich astudiaethau.聽 Fe gewch lawer o brofiadau ymarferol a chyffrous yn y labordy neu mewn amgylchedd chwaraeon, iechyd, ymarfer corff a hyfforddi. Mae ein cwricwlwm yn cael ei lywio gan ymchwil ac mae'n ymdrin 芒 phynciau craidd Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer sef ffisioleg, seicoleg, ymarfer corff er lles iechyd ac fel meddyginiaeth, biomecaneg, a hyfforddi effeithiol, a bydd yn rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau y bydd arnoch eu hangen i ddilyn gyrfa ymarferol neu yrfa ymchwil mewn marchnad twf ym maes chwaraeon, iechyd, ymarfer corff ac anturio.聽
Rydym yn falch o'r dangosyddion ansawdd allanol,聽annibynnol ond mae ein myfyrwyr yn aml yn dweud wrthym mai'r hyn y maen nhw yn ei werthfawrogi mewn gwirionedd yw bod yn rhan o amgylchedd bach, cyfeillgar a chael llawer o amser cyswllt gyda staff. Ym Mhrifysgol Bangor byddwch yn astudio yn un o adrannau Gwyddorau Chwaraeon gorau'r Deyrnas Unedig, sy'n arbenigo mewn:
- Perfformiad Chwaraeon El卯t
- Gweithgarwch Corfforol, Iechyd a Lles
- Gwyddorau Chwaraeon Antur
- Addysg Gorfforol
- Seicoleg Chwaraeon ac Ymarfer
Rydym yn darparu ymchwil arloesol o'r radd flaenaf i'r marchnadoedd Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer ac mae hynny'n llywio ein cwricwlwm yn uniongyrchol. Mae hyn yn golygu y byddwch yn cael eich dysgu am y cynnwys mwyaf diweddar a chyffrous yn ystod eich cwrs gradd, a hynny'n defnyddio'r dulliau mwyaf arloesol posibl. Fe gewch gyfle i gymryd rhan yn rhai o'r gweithgareddau ymchwil blaenllaw a chyffrous hynny. Ar daith ymchwil i'r Himalayas yn Nepal lle bu ein gr诺p Ymchwil Eithafion yn astudio sut mae pobl yn ymateb ac yn addasu eu perfformiad mewn amgylcheddau eithafol. Mae ein Sefydliad Seicoleg Perfformiad El卯t wedi bod yn arwain ar ymchwil gyda Bwrdd Criced Cymru a Lloegr ac UK Sport i lywio eu rhaglenni adnabod a datblygu talent.
Mae pob aelod o'n staff yn gwneud ymchwil ac yn gweithio gyda pherfformwyr chwaraeon ac arbenigwyr meddygol ar y lefelau uchaf yn y Deyrnas Unedig a ledled y byd.聽 Mae arbenigedd o'r fath yn golygu bod gennym gysylltiadau cryf yn y sectorau perfformiad chwaraeon ac iechyd ar y lefelau uchaf. Mae'r ethos ymchwil hwn yn greiddiol o ran meddwl yn feirniadol i ansawdd uchel a beth a sut y byddwch yn ei ddysgu.聽 Byddwch yn datblygu sgiliau i lunio cwestiynau blaengar eich hun ac yn meithrin y sgiliau i gynllunio dulliau i ateb y cwestiynau hyn. Yn syml, byddwch yn dysgu'r sgiliau y bydd arnoch eu hangen i feddwl a gweithio'n annibynnol ynghyd 芒'r wybodaeth a'r hyder i barhau i ddysgu ac arwain ar ddatblygu gwybodaeth ar 么l graddio; sgiliau hanfodol a fydd yn eich diogelu at y dyfodol wrth ddatblygu yn unrhyw yrfa o'ch dewis (sgiliau beirniadol ar gyfer unrhyw yrfa).聽 Dyma enghreifftiau o bwy rydym yn gweithio ochr yn ochr 芒 hwy:
- GIG
- Cymdeithas Seicolegol Prydain
- Bwrdd Criced Cymru a Lloegr
- UK Sport
- English Institute of Sport
- Rugby Football Union
- Y Weinyddiaeth Amddiffyn
- British Gymnastics
- Manchester City FC
- Outlook Expeditions
- Rygbi Gogledd Cymru
- MENCAP
- Adventure Parc Snowdonia
- Camu i'r Copa
- Codi Pwysau Cymru
- Sefydliad Gwyddorau Perfformio Cymru
- Canolfan Awyr Agored Conwy
- GB Triathlon
- Swim England
- GB Hockey
- GB Rowing
- British Canoeing
- RYA Cymru
- Yr Awyrlu Brenhinol
- UK Deaf Sport
- England Athletics
Rydym wedi ein lleoli mewn adeilad hardd sy'n adeilad rhestredig Gradd II ar lannau'r Fenai ac mewn ardal sy'n frwd dros chwaraeon ac iechyd. Yn ogystal 芒 mynyddoedd, llynnoedd, traethau a choedwigoedd Parc Cenedlaethol Eryri, bydd gennych fynediad at labordai lle ceir offer o'r radd flaenaf ar gyfer ffisioleg a seicoleg chwaraeon ac ymarfer, rheolaeth a dysgu echddygol, a dadansoddi symudiadau gan gynnwys:
- Labordy addysgu 拢1M
- siambr uchder (hypocsia)
- sawl labordy dadansoddi symudiad 3D
- sganiwr amsugnofetreg pelydr-x ynni-deuol (DXA)
- labordai profion ymarfer ac adfer
- siambr amgylcheddol
- ystafelloedd profion seicoleg, seicoechddygol a seicoffisioleg
- labordai bioleg celloedd a biocemeg
Yn sgil rhaglenni cyflogadwyedd a lleoliadau gwaith mewn meysydd sy'n ymwneud yn benodol 芒 chwaraeon, iechyd ac ymarfer corff, gallwch wneud eich hun yn fwy amlwg gyda gradd Meistr sy'n seiliedig ar chwaraeon, iechyd ac ymarfer corff o un o'r prifysgolion mwyaf blaenllaw yn y Deyrnas Unedig ac un o'r cyntaf i gynnig y pwnc.