Mae gennym bartneriaeth agos gyda darparwyr lleoliadau. Mae hynny鈥檔 sicrhau y gwnaiff rhaglen hylendid deintyddol Prifysgol Bangor eich paratoi i fod yn hylenydd a all ddarparu gofal deintyddol rhagorol. Byddwch yn derbyn addysg gan addysgwyr hylendid deintyddol arbenigol mewn amgylchedd rhyngddisgyblaethol ac fel myfyriwr mi gewch chi brofiad dysgu o ansawdd uchel a rhagoriaeth mewn ymchwil.
Byddwch yn dysgu trwy gymysgedd o addysg ymarferol a damcaniaethol. Cyflwynir addysg ymarferol mewn sesiynau sgiliau pwrpasol ac trwy amserlen o leoliadau amrywiol, gan gynnwys lleoliadau gofal sylfaenol ac eilaidd. Defnyddir cyfleusterau 芒 modelau o bennau i gynyddu eich sgiliau a'ch hyder cyn i chi gychwyn ar eich lleoliad ymarfer cyntaf. Mae'r rhaglen hefyd yn gysylltiedig ag Academi Ddeintyddol Gogledd Cymru er mwyn arddangos darpariaeth gofal deintyddol cyfoes yn y rhaglen.
Mae'r rhaglen yn tynnu ar y profiad helaeth sydd yn Ysgol y Gwyddorau Meddygol ac Iechyd sy'n cyflwyno addysg broffesiynol iechyd glinigol-ganolog. Yn y rhaglen hon, caiff elfennau penodol eu dysgu ochr yn ochr 芒 rhaglenni eraill, fel bydwreigiaeth a nyrsio, gan roi'r cyfle i chi ddysgu mewn amgylchedd sy'n cynrychioli'r gweithle gofal iechyd integredig modern.