Bydd ein graddau israddedig yn eich paratoi at yrfa yn y dyfodol mewn amrywiaeth o swyddi sy'n gysylltiedig â biowyddoniaeth a meddygaeth, gan gynnwys:Ìý
(dolenni gwe allanol i dudalennau Saesneg)
- Ìý
- Ìý
- ,Ìý,Ìý,Ìý)Ìý
- Ìý
- Ìý
- Ìý
- Ìý
- Ìý
- Ìý
- Ìý
Byddwch mewn sefyllfa gref i sicrhau lle ar raglenni ôl-radd sy'n gysylltiedig â meysydd iechyd eraill, fel y gwyddorau ffisiolegol, cwnsela genomig, parafeddyg, neu feddyg cysylltiol - ac yn ddeniadol i gyflogwyrÌýmawr fel y diwydiant fferyllol, ymchwil feddygol ac iechyd y cyhoedd.ÌýÌý
Mae gradd BMedSci yn y Gwyddorau Meddygol yn bwydo i mewn i'r cwrs meddygaeth i raddedigion ym MhrifysgolÌýCaerdydd, ac mae cwricwlwm 4 blynedd Caerdydd bellach ar gael ym Mangor (mae gofynion cymhwysedd eraill yn berthnasol). Mae ein graddau hefyd yn cael eu derbyn gan lawer o brifysgolion eraill ar gyfer cyrsiau ôl-radd mewn meddygaeth a deintyddiaeth, yn ogystal â meysydd eraill fel ffisiotherapi, nyrsio a meddyg cysylltiol.Ìý
Os ydych yn ystyried gweithio fel gwyddonydd biofeddygol yn y GIG, mae'r achrediad IBMS a ddarperir gan einÌýgradd Gwyddorau Biofeddygol yn fan cychwyn delfrydol.ÌýÌý
Gall y sgiliau trosglwyddadwy sydd wedi eu hymgorffori yn ein graddau agor y drws i lawer o yrfaoedd nad ydynt o reidrwydd yn gysylltiedig â'r biowyddorau, ac mae myfyrwyr blaenorol wedi mynd i weithio mewn meysydd fel bancio a chyllid, lle caiff eu gallu i resymu, cwestiynu a dadansoddi data eu gwerthfawrogi.Ìý