Sara Inayattullah Rawoot
Seicoleg gyda Niwroseicoleg, 2019
Fy mhedair blynedd ym Mangor oedd pedair blynedd orau fy mywyd addysgol
鈥淏le gallaf ddechrau? Fy mhedair blynedd ym Mangor oedd pedair blynedd orau fy mywyd addysgol. Y brifysgol oedd un o'r rhesymau mwyaf am hyn, nid yn unig yr aelodau staff ond y cwrs a'r pobl y bu i mi eu cyfarfod yn ystod fy nghyfnod yno, a ddechreuodd fel ffrindiau ond a ddaeth fel aelodau teulu i mi yn raddol.聽 Roedd byw 140 milltir i ffwrdd o gartref yn rhywbeth nad oeddwn yn disgwyl ei wneud ond roedd yn rhywbeth roeddwn yn llawn cyffro yn ei gylch. Er fy mod wedi cael amryw llanw a thrai yn ystod fy mhedair blynedd, ni fyddwn yn newid munud ohono. Roedd yn her ac yn brawf roeddwn yn barod i'w wynebu er mwyn cyflawni'r hyn a wnes i.聽 Roedd Bangor yn lle gallwn deimlo'n rhydd ynddo, dysgu bod yn annibynnol a gwneud beth bynnag y gallwn i ymdopi. Roedd gennyf 3 swydd wahanol, a ganiataodd imi gyflawni fy mreuddwyd o deithio wrth astudio. Rwy'n falch o ddweud fy mod wedi gallu teithio i 10 gwlad mewn tair blynedd ac roedd y cyfan yn bosib trwy fy ymdrechion fy hun. Rhoddodd y gefnogaeth a gefais gan aelodau staff a darlithwyr yr hyder i mi orffen yr hyn a ddechreuais a graddio ar 16 Gorffennaf 2019. Rhoddodd dinas Bangor gyfle i mi wneud ymarfer corff, rhoddodd y brifysgol gyfle i mi wneud y chwaraeon roeddwn eisiau eu gwneud: paffio, rygbi, badminton.
Roedd Bangor yn rhywle roeddwn yn teimlo'n ddiogel ac i mi, roedd yn gartref oddi cartref ac yn deulu i mi oddi wrth fy nheulu. Rhoddodd Bangor gyfle, dewrder, rhyddid ac angerdd imi ymdrechu a llwyddiant sy'n fythgofiadwy. Dysgodd Bangor i mi pwy ydw i a beth rydw i ei eisiau. Cefais y cyfle i archwilio, bod yn greadigol a symud ymlaen tuag at gyflawni fy uchelgeisiau.
Ar hyn o bryd, rwy'n gweithio tuag at gymhwyster TAR mewn seicoleg yn Manchester Metropolitan University, sector rwy'n angerddol amdano ac un a fydd yn fy helpu i gyflawni fy nod terfynol, sef cael fy sefydliad fy hun, a darparu addysg a chefnogaeth i rai sy'n llai ffodus ac agored i niwed mewn gwledydd sy'n datblygu.
Byddai dod yn 么l i Fangor rhywbryd, naill ai i weithio, rhoi sgyrsiau ac ysbrydoli myfyrwyr eraill yn rhywbeth yr hoffwn ei wneud.
Rwyf eisiau diolch i Brifysgol Bangor, y staff a'm darlithwyr am wneud yr amhosibl yn bosibl a chaniat谩u imi ddatblygu fy astudiaethau a dod 10 cam yn nes at gyflawni fy mreuddwydion.鈥