Maria-Sosanna Vasileiou
MA Ieithyddiaeth Gymhwysol ar gyfer TEFL, 2021
鈥淧an ddechreuais yn yr ysgol uwchradd, penderfynais ddilyn gyrfa ym myd addysg, ac yn fwy penodol, addysgu Saesneg fel iaith dramor. Drwy gydol fy mlynyddoedd yn yr ysgol a fy astudiaethau BA yng Ngwlad Groeg roeddwn bob amser wedi dweud yr hoffwn i weithio gyda phlant. Dyna pam y dewisais Brifysgol Bangor, gan i mi ddod o hyd i鈥檙 rhaglen MA a fyddai鈥檔 fy helpu i wireddu fy mreuddwyd a dod yn athrawes Saesneg lwyddiannus.
Graddiais o Brifysgol Bangor yn 2021 gyda rhagoriaeth yn fy ngradd MA Ieithyddiaeth Gymhwysol ar gyfer TEFL. Ym Mangor roeddwn yn hynod ffodus i fod yn rhan o gymuned academaidd fywiog. Cynyddodd hynny fy ngwerthfawrogiad a fy nghariad at faes dwyieithrwydd ac addysg iaith gynnar. Roedd yn gyfle euraidd i weithio gydag addysgwyr mor ysbrydoledig. Gwnaeth yr MA mewn Ieithyddiaeth Gymhwysol ar gyfer TEFL fy arfogi 芒 chymaint o sgiliau a helpodd i mi ddatblygu fy ngyrfa mewn Addysgu Saesneg.聽
Cefais fy recriwtio gan Gyfarwyddiaeth Addysg Gynradd Dwyrain Attica yng Ngwlad Groeg fel athrawes Saesneg yn ysgolion meithrin Dwyrain Attica. Mae addysgu Saesneg i ddysgwyr ifanc iawn (plant 4-5 oed) yn heriol iawn ond ar yr un pryd yn werth chweil ac yn hwyl, ac mae鈥檔 ddiddorol cael cyfle i ddysgu amdanaf fy hun a datblygu fy sgiliau ymhellach. Rwy鈥檔 gwerthfawrogi pob eiliad o鈥檙 profiad addysgu cyffrous hwn.
Ar y pwynt hwn, hoffwn roi ychydig o gefndir i chi am gyflwyno'r iaith Saesneg ar lefel dosbarth meithrin. Yn gyntaf oll, mae addysgu Saesneg ar lefel cyn oed cynradd yn her addysgu gymharol newydd. Fe'i cyflwynwyd yn gyntaf fel rhaglen beilot ym mlwyddyn ysgol 2020-2021, gyda'r nod o feithrin ymwybyddiaeth ryngddiwylliannol plant a chyfoethogi鈥檙 cwricwlwm cyn-ysgol yn fethodolegol ac yn thematig mewn perthynas 芒 datblygiad ieithyddol a chynhwysfawr plant 聽cyn oed ysgol.聽Ers dechrau addysgu Saesneg mewn ysgolion meithrin yng Ngwlad Groeg yn 2020, nid oedd digon o ymchwil wedi鈥檌 wneud i addysgu Saesneg i blant ifanc yng Ngwlad Groeg. Newydd ddechrau denu ymchwil oedd y maes hwn a phenderfynais ymchwilio iddo yn nhraethawd hir fy MA, sef "Exploring L2 Receptive Vocabulary Learning and Working Memory in Greek Kindergarten EFL Learners" (Vasileiou, 2021).聽
Ni allaf ddod o hyd i eiriau i fynegi pa mor hapus a diolchgar oeddwn o fod bellach yn rhan o鈥檙 rhaglen hon, yn helpu plant ifanc i ddysgu iaith dramor (trwy weithgareddau hwyliog a chwareus), a thrwy hynny, i ddysgu bod yn aelodau gweithgar o gymdeithasau amlddiwylliannol.
Er bod fy astudiaethau wedi cyd-daro 芒 chyfnodau anodd cyfyngiadau pandemig Covid-19, byddaf bob amser yn cofio, yn gwerthfawrogi ac yn meddwl yn annwyl am yr amser da a dreuliais ym Mhrifysgol Bangor, y bobl ryfeddol y bu i mi eu cyfarfod yno, harddwch naturiol Gogledd Cymru, a natur agored a charedigrwydd staff y brifysgol a'r gymuned leol.
Rwy鈥檔 diolch i Brifysgol Bangor am yr holl wybodaeth ac am bopeth a gynigiodd i mi.鈥