Louis Naylor
RHEOLWR DATRYSIADAU CLEIENT YN TIKTOK
"Cefais brofiad anhygoel ym Mhrifysgol Bangor ac rwy'n dal i fod yn ffrindiau gorau gyda llawer o'r bobl y gwnes i eu cyfarfod yno."
Blwyddyn graddio: 2013
Eich Swydd Bresennol: Rheolwr datrysiadau cleient yn TikTok
Mae seicoleg yn rhan bwysig o鈥檓 swydd gan fod angen i ni ddysgu beth sy'n sbarduno ymddygiadau defnyddwyr, er enghraifft, pam fod pobl yn gwylio fideos penodol neu pam fod tueddiadau penodol yn digwydd, neu pam fod pobl yn ymgysylltu 芒 brandiau penodol. Mae dadansoddi data hefyd yn rhan hanfodol o鈥檓 swydd gan fy mod yn dadansoddi setiau data mawr yn rheolaidd er mwyn cael mewnwelediad.
Rwyf bob amser wedi gweld fy ngradd mewn Seicoleg fel porth, yn yr ystyr fod rhywun yn dysgu sbectrwm eang o sgiliau gan gynnwys cyflwyno, dadansoddi data, trin ystadegau a rheoli projectau, sydd i gyd yn sgiliau pwysig iawn ar gyfer y rhan fwyaf o swyddi. Mae cael y blociau adeiladu hynny wir wedi fy mharatoi i lwyddo yn fy ngyrfa.
Dechreuais weithio fel intern marchnata digidol i asiantaeth y cyfryngau yn Llundain. O'r fan honno arhosais yn gweithio i asiantaethau nes dod yn Gyfarwyddwr Digidol am gyfnod o 2 flynedd yn rheoli t卯m ym maes chwiliadau 芒 th芒l, cymdeithasol a rhaglennu cyn symud o'r diwedd i faes technoleg.
Yr hyn sydd wedi helpu llawer arnaf yn fy ngyrfa oedd yr hyfforddiant cyflwyno (POPPS) a鈥檙 holl ddosbarthiadau ystadegau a gawsom. Cyn hynny, roedd gen i ofn rhoi cyflwyniad ond fe wnaeth y dosbarthiadau ar roi cyflwyniadau i mi deimlo'n gyfforddus yn rhoi cyflwyniad wedi ei baratoi ymlaen llaw a hefyd wrth orfod meddwl yn聽 chwim i roi areithiau byrfyfyr. Mae cleientiaid bob amser yn gofyn amrywiaeth o gwestiynau i mi, felly mae gallu meddwl yn chwim yn hollbwysig. Mae鈥檙 dosbarthiadau Ystadegau/Excel wedi fy helpu鈥檔 aruthrol gan fy mod bob amser yn dadansoddi setiau data, dod o hyd i dueddiadau a hefyd yn gorfod addysgu cleientiaid ar arwyddoc芒d ystadegol ac ati.
Cefais brofiad anhygoel ym Mhrifysgol Bangor ac rwy'n dal i fod yn ffrindiau gorau gyda llawer o'r bobl y gwnes i eu cyfarfod yno. O ran awgrymiadau ar gyfer symud ymlaen yn y byd gwaith, byddwn yn argymell gwneud yn si诺r eich bod yn cadw dogfen o'r holl adborth neu gydnabyddiaeth wych rydych chi wedi'i gael yn fewnol a chan gleientiaid. Dydych chi byth yn gwybod pryd y gofynnir i chi beth rydych wedi'i wneud sydd wedi dod 芒 gwerth i'r busnes, felly mae hyn yn werthfawr iawn ar gyfer adolygiadau perfformiad. Mae cysylltiadau cyhoeddus personol hefyd yn bwysig iawn gan fod pobl o'ch cwmpas yn chwarae rhan yn eich dilyniant chi, felly siaradwch am eich llwyddiannau, gwnewch gyflwyniadau mewnol pan gewch gynnig a rhowch eich enw ymlaen i wneud projectau sydd y tu allan i fanyleb eich swydd chi. Hefyd, cymerodd flwyddyn i mi ddod o hyd i interniaeth ar 么l gorffen yn y brifysgol, felly dyfal donc!