Ashleigh Smith
Seicoleg gyda Niwroseicoleg, 2010
鈥淒echreuais ym Mhrifysgol Bangor yn 2007, yn ffres o dref glan m么r Scarborough yng ngogledd Swydd Efrog, ac roeddwn yn byw yn neuadd breswyl Cefn y Coed. Cyrhaeddais Bangor ar ddiwrnod heulog ym mis Medi ar 么l taith hir trwy ogledd Lloegr.
Astudiais Seicoleg gyda Niwroseicoleg, gan raddio gyda gradd 2:1 yn 2010. Roeddwn wrth fy modd 芒'r cwrs, yn enwedig y modiwl seicoleg esblygiadol, a'r bobl anhygoel y gwnes i gyfarfod 芒 nhw. Fe wnaeth y sesiynau Ymarfer Sgiliau Cyflwyno Llafar Seicoleg bob wythnos, neu POPS fel yr oeddem yn eu galw, helpu i mi adeiladu fy hyder wrth siarad yn gyhoeddus. Roedd ymrafael 芒'r meddalwedd newydd yn Mac Lab bob amser yn arwain at ryw fath o broblem neu anffawd dechnolegol. Treuliais lawer noson hwyr yn fy neuadd breswyl yn adolygu y noson cyn arholiad, neu鈥檔 cyflwyno traethawd cyn y dyddiad cau, ac roedd y cyfnod hwnnw鈥檔 llawn byrbrydau a brwdfrydedd ieuenctid.
Roedd y bywyd nos bob amser yn ddiddorol, ac roedd fel arfer rhyw fath o thema gwisg ffansi. Casglais amrywiaeth o wisgoedd ffansi - fel arfer yn cynnwys dilledyn fflwroleuol neu ddau - ac ar un achlysur fe wnes i hyd yn oed sefyll arholiad y diwrnod ar 么l parti Calan Gaeaf pan oedd fy ngwallt yn dal wedi鈥檌 么l-gribo a'i liwio'n binc ac roedd gen i goblyn o ben mawr (dydw i ddim yn argymell hyn!) Opsiwn arall a ddefnyddiwyd yn aml oedd creu gwisg allan o fagiau bin, un o hoff wisgoedd ffansi myfyrwyr oedd yn ceisio arbed arian. Roedd bagiau bin lliw a bagiau persawrus yn hwyl ac yn fywiog, tra bod bagiau du trwm yn creu edrychiad ychydig yn fwy clasurol ac urddasol.
Yn yr ail flwyddyn roeddwn yn byw mewn t欧 ger y pier gydag wyth ffrind, chwe merch a thri bachgen. Roedd y dewisiadau gwisg yn ddiddiwedd, a gwnaethom dreulio lawer brynhawn yn cerdded ar hyd y pier am sgons, neu'n cynllunio'r noson allan nesaf.
Yn y drydedd flwyddyn symudais i d欧 llai yng Nghaellepa gyda thri ffrind, ac er bod llai o wardrobau i fenthyg dillad ohonynt, cawsom gystal hwyl ag erioed. O farbeciws ar Fynydd Bangor yn edrych dros y ddinas hardd, i nosweithiau clyd yn chwarae Singstar ar y PlayStation, neu gerdded yn chwyslyd i fyny鈥檙 allt at Brif Adeilad y Celfyddydau i鈥檔 darlithoedd, cawsom amser anhygoel. Yn ogystal 芒 hynny, daeth Penwythnos Mawr Radio 1 i Fangor yn ystod fy nhrydedd flwyddyn. Fe wnaethom lwyddo i gael tocynnau, a gweld Florence and the Machine yn arwain y perfformiadau, yn ogystal 芒 Dizzy Rascal, Scouting for Girls, Alicia Keys a Cheryl Cole.
Ar 么l bod yn y brifysgol, b没m yn gweithio ac yn teithio yn Awstralia am ddwy flynedd, a threuliais flwyddyn yn teithio trwy dde-ddwyrain Asia. Ar 么l dychwelyd i鈥檙 Deyrnas Unedig, treuliais nifer o flynyddoedd yn gweithio i Heddlu Manceinion yn ateb galwadau brys - swydd roeddwn wedi breuddwydio amdani ers i mi syrthio mewn cariad 芒鈥檙 gyfres deledu "999 What's Your Emergency?" yn y 90au.
Ymunais 芒 Swyddfa鈥檙 Comisiynydd Gwybodaeth yn 2018, lle rwyf wedi treulio鈥檙 pum mlynedd ddiwethaf yn gweithio i ddiogelu a chynnal hawliau gwybodaeth aelodau鈥檙 cyhoedd yn y Deyrnas Unedig. Yn 2022, b没m yn gwneud gwaith cudd-wybodaeth yn ymwneud 芒 gwyliadwriaeth a data biometrig, gwaith a oedd yn hanfodol i Swyddfa鈥檙 Comisiynydd Gwybodaeth wrth iddynt weithredu鈥檙 Cod Plant. Ar hyn o bryd, rwy鈥檔 gweithio fel uwch swyddog polisi yn y maes rheoleiddio digidol, yn cydlynu gwaith rhwng Swyddfa鈥檙 Comisiynydd Gwybodaeth a鈥檙 Fforwm Cydweithredu Rheoleiddio Digidol.
O ran fy mywyd personol, rwy'n byw mewn tref yn Swydd Gaer gyda fy mhartner o 9 mlynedd a'n mab pedair oed. Rydw i wrth fy modd yn darllen ac yn ysgrifennu, cerdded, rhedeg a mynd i鈥檙 gampfa, garddio, a gwylio Netflix.
O ran fy nghyd-letywyr.... Mae Alex bellach yn gynorthwyydd milfeddygol - ei swydd ddelfrydol, sydd yn wahanol iawn i鈥檞 gradd mewn Saesneg! Aeth Kelly ymlaen i wneud gradd meistr yn Abertawe a PhD yn Southampton, ac mae bellach yn seicolegydd clinigol yn arbenigo mewn cleifion ag anhwylderau niwrolegol swyddogaethol. Gwnaeth MD radd meistr mewn seicoleg alwedigaethol ym Mhrifysgol Llundain, ac mae bellach yn Gyfarwyddwr Project Llwyddiant Cwsmer yn Great Places to Work. Cafodd Christina brofiad mewn recriwtio ac mae bellach yn Rheolwr Marchnata Byd-eang ar gyfer CSG Talent.
Mae 14 mlynedd wedi mynd heibio ers i mi raddio, ac mae gennyf atgofion melys iawn o鈥檓 hamser ym Mangor. Rwy'n dragwyddol ddiolchgar am y ffrindiau anhygoel wnes i a'r profiadau a gefais tra b没m yn astudio yno, ac edrychaf ymlaen at ymweld eto yn y dyfodol a dangos i fy mab i ble aeth ei fam i "ysgol oedolion." "