Manylion allweddol
- Ar gael gyda’r nos, penwythnosau a tu allan i’r tymor.
Cyfleusterau
Mae pob ystafell gyda:
- Offer clyweled
- Cyfrifiadur
- Opsiwn i gysylltu gliniadur
Pris
- Holwch am fanylion
Archebu nawr
- 01248 388088
- conference@bangor.ac.uk
I greu pecyn
Cynadleddau yn Pontio
Mae tîm Cynadleddau Bangor yn eich croesawu chi i’r adeilad newydd mwyaf trawiadol sydd gan Brifysgol Bangor i’w gynnig, Pontio – cartref y celfyddydau ac arloesi.
Canolfan y celfyddydau ac arloesi flaengar yw Pontio sy’n cynnig ystafelloedd hyblyg ar gyfer cynadleddau a dewis eang o gyfleusterau bwyd a diod, a all gael eu neilltuo i’ch defnydd chi. Yno hefyd ceir theatr ganolig ei maint, sinema ac ystafelloedd stiwdio.
Gall Ystafell Cemlyn Jones ar Lefel 2 ddal hyd at 150 mewn dull theatr a gellir ei defnyddio hefyd ar gyfer ciniawau a gweithdai.
Ar lefel 5, ceir darlithfa fawr, a all ddal hyd at 450. Ar y lefel hon hefyd ceir gofod dysgu cymdeithasol sy’n berffaith fel lle ar gyfer trafod mewn grwpiau llai.
Mae gennym lleoliad bwyd sef Caffi Cegin ar level 2 a gallwn hefyd drefnu arlwyo fel rhan o becyn.Gall ein tîm cynghori chi ar yr ystafell fwyaf addas neu gyfuniad o ystafelloedd i gwrdd â’ch anghenion. Byddant hefyd yn gallu eich cynghori ar opsiynau arlwyo a llety i ddatblygu pecynnau unigryw i gwrdd gydag eich anghenion chi.
Manylion Ystafelloedd
PL 5
Ystafell Fawr
Mae ystafell Lefel 5 Pontio yn ddarlithfa fawr gyda lle i hyd at 450, ac ar y lefel hefyd ceir dau le dysgu cymdeithasol helaeth sy’n berffaith ar gyfer trafod, ac oddi yno ceir rhai o’r golygfeydd gorau o’r ddinas.
Ystafell Cemlyn Jones
Ystafell Ganolig
Gall ystafell Pontio Lefel 2 ddal hyd at 170 mewn arddull theatr ond gall hefyd gynnal ciniawau gala cartrefol, gweithdai a bod yn stafell drafod oherwydd hyblygrwydd yr ystafelloedd a bod posibl tynnu’r seddi’n ôl.
Dull Theatr | Ciniawa/Cabaret | Stondinau Arddongosfa |
---|---|---|
200 | 110 | 20 |