Gwasanaethau Masnachol – Y trefniadau dros gyfnod y Nadolig
Fis Rhagfyr a mis Ionawr bydd y tîm gwasanaethau masnachol yn parhau i gefnogi myfyrwyr sy’n aros ym Mangor dros yr ŵyl.
Neuaddau
Bydd y neuaddau’n agored trwy gydol y gwyliau ond bydd swyddfa'r neuaddau yn cau am 2pm ddydd Mercher 23 Rhagfyr ac yn ailagor ddydd Llun 4 Ionawr am 8.45am. Os oes angen unrhyw gefnogaeth arnoch yn ystod y cyfnod hwn, siaradwch ag un o'n Mentoriaid neu Wardeiniaid a fydd ar ddyletswydd drwy gydol y cyfnod.Gellir gweld oriau agor ystafelloedd post y Ffriddoedd a'r Santes Fair yma: /cy/accommodation/christmas-opening
Arlwyo
Eleni rydym wedi ymestyn oriau agor y siop, gan sicrhau bod bwyd a nwyddau bob dydd hanfodol ar gael yn siop Ffriddoedd ac yn Barlows. O 4 Rhagfyr bydd Bar Uno yn darparu gwasanaethau tecawê yn unig a bydd y gwasanaeth hwn ar gael tan 18 Rhagfyr. Yn unol â rheoliadau Llywodraeth Cymru, ni chaniateir danfon alcohol ar ôl 6pm. Bydd opsiynau bwyd Copa hefyd ar gael tan 18 Rhagfyr. Mae manylion llawn oriau agor y siop a’r mannau bwyd i’w cael ar y wefan: /commercial-services/places-to-eat-and-drink.php.cy
Chwaraeon
Rydym yn gwybod bod cadw'n heini’n bwysig yn ystod y cyfnod anodd hwn felly rydym wedi gwneud ein gorau i gadw campfa Reichel ar agor cyhyd â phosib. Bydd ar gau rhwng 23/12 a 28/12 a bydd hefyd yn cau ar ddydd Calan. Ar wahân i hynny, rydym ar agor ac yn edrych ymlaen at eich gweld yn fuan. Gweler ein horiau agor yma: /brailsford/opening.php.cy
Rydym yn sylweddoli bod hwn yn gyfnod heriol. Mae ein ffeithlun yn rhoi cipolwg i chi o’r hyn yr ydym wedi'i wneud hyd yn hyn ac rydym wedi ymrwymo i barhau i'ch cefnogi dros y misoedd nesaf.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Rhagfyr 2020