Mrs Gwenan Prysor
Uwch Ddarlithydd mewn Gwaith Cymdeithasol
–
Gwybodaeth Cyswllt
Ar ôl ennill gradd mewn Cymdeithaseg a Gweinyddiaeth Gymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor, ac yna gymhwyster proffesiynol Gwaith Cymdeithasol, bu Gwenan yn gweithio am nifer o flynyddoedd fel Gweithiwr Cymdeithasol (Plant a Theuluoedd) ac yn ddiweddarach fel Swyddog Hyfforddiant Gwasanaethau Plant. Yn fwy diweddar, bu ei rolau o fewn addysgu gwaith cymdeithasol. Bu’n rheoli Rhaglen Addysgu Ymarfer Gogledd Cymru am tua 6 blynedd cyn cael ei phenodi’n rheolwr y Ganolfan Dysgu Ymarfer Gwaith Cymdeithasol am 6 blynedd arall. Dychwelodd i Brifysgol Bangor yn 2012 fel Cyfarwyddwr y rhaglen MA Gwaith Cymdeithasol. Yn 2022, derbyniodd Gwenan wobr gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol fel cydnabyddiaeth am ei chyfraniad arbennig i addysg cyfrwng Cymraeg.