Gwybodaeth Cyswllt
Mae Helen Jane Edwards yn ddarlithydd mewn Addysg Gynradd, gan arbenigo mewn Cymraeg Ail Iaith yn yr Ysgol Addysg a Datblygiad Dynol. Â
Y mae hefyd yn Swyddog Derbyniadau ar gyfer y BA (Anrh) Addysg Gynradd gyda SAC.Â
Cafodd ei gradd baglor mewn Cymraeg ac Addysg ym Mhrifysgol Bangor ac yna cwblhaodd gwrs TAR yn y Coleg Normal, Bangor.
Dechreuodd ei gyrfa dysgu yn Ysgol St.Gerard, Bangor, lle dysgodd yn y sector cynradd ac uwchradd. Yma rodd yn gyfan gwbl gyfrifol am ddysgu Cymraeg Ail Iaith yn yr ysgol gynradd ac uwchradd, o'r Cyfnod Sylfaen hyd at CA5.Â
Ar ôl 7 mlynedd, aeth ymlaen i ddysgu yn Ysgol John Bright Llandudno, lle'r oedd hefyd yn Ddirprwy Bennaeth Gofal Bugeiliol ar gyfer Blwyddyn 8.Â
Ar ôl cael dyrchafiad yn ddirprwy bennaeth Cyfadran y Gymraeg ac Ieithoedd Modern, symudodd i Ysgol Bryn Elian, Hen Golwyn lle dysgodd Gymraeg fel ail iaith dros 12 mlynedd. Bu'n Bennaeth y Gyfadran ddwywaith hefyd.Â
Yn ystod ei gyrfa dysgu, mae wedi bod yn fentor, yn Gydlynydd Cwricwlwm Cymreig, yn Gydlynydd Dwyieithrwydd, yn Gadeirydd Pwyllgor Clwstwr Cymedroli CA2/CA3 a Chydlynydd Trawsnewid CA2/CA3 ar gyfer Cymraeg Ail Iaith. Â
Ym Medi 2014, ymunodd â'r Ysgol Addysg a Datblygiad Dynol fel darlithydd mewn Addysg Gynradd, gan arbenigo mewn Cymraeg Ail Iaith. Ym Mehefin 2015 fe'i penodwyd yn Ddirprwy Swyddog Derbyniadau ar gyfer y BA(QTS), BA(SAC), cyrsiau PGCE a TAR ac yna ym Mehefin 2016, ymgymerodd â'r swydd Cydlynydd Derbyniadau ar gyfer y cyrsiau BA(QTS) a BA(SAC).Â
Yn ddiweddar, mae wedi creu llyfrynnau a chanllawiau i hyrwyddo dwyieithrwydd ar draws yr Ysgol Addysg a Datblygiad Dynol, ac i gynorthwyo staff â defnyddio ‘Cymraeg Bob Dydd’ (Incidental Welsh) yn eu darlithoedd ac wrth e-bostio a sgwrsio gyda darpar-athrawon. Â
Y mae hefyd yn cynghori Cydlynwyr Iaith Gymraeg mewn ysgolion partneriaeth ar sut i hyrwyddo'r defnydd o Gymraeg bob dydd.Â
Mae'n aelod o bwyllgor Cynllun Colegau Cymru.Â
´¡»å»å²â²õ²µ³ÜÌý
Mae'n dysgu ar y modiwlau/cyrsiau canlynol:
- BA(QTS);
- BA(SAC);
- PGCE 3 – 7 a 7 – 11;
- PGCE Uwchradd;
- Gradd Sylfaen (FdA).
Grŵp YmchwilÂ
Dwyieithrwydd, Datblygiad Iaith ac Addysg DdwyieithogÂ