Damien Varley – Bioleg Môr Gymhwysol
Cefndir
Fy enw i yw Damien Varley , rwy’n 20 oed ac o Leeds. Roeddwn yn astudio fy lefel A yn Ysgol Uwchradd Royds. Rwyf nawr yn fy ail flwyddyn ym Mangor yn astudio BSc mewn Bioleg Môr Gymhwysol.
Pam Bangor?
Deuthum ar draws Bangor drwy edrych trwy’r nifer o brospectysau yr oeddwn wedi eu casglu. Y prospectws yn ogystal â’r enw da, y lleoliad a’r llong ymchwil a’m perswadiodd i ddewis Bangor. Ni fuaswn yn newid hynny am y byd rŵan.
Y Cwrs…
Mae’r cwrs yn ddiddorol iawn. Rydym yn dyrannu pysgod mewn dosbarthiadau ymarferol, casglu samplau ar gychod bychan ac wrth gwrs yn mynd allan ar y môr yn yr enwog Prince Madog. Dychmygwch sut beth ydy o...ac mae o’n ddeg gwaith gwell, coeliwch chi fi.
Y Darlithwyr…
Mae’r darlithwyr yn hawdd siarad â nhw ac yn gwybod ei maes yn dda. Roddodd rhai o fy narlithwyr eu llyfrau cyhoeddedig eu hunain i ni ar gyfer darllen ymhellach hyd yn oed.
Y peth gorau am Fangor…
Pe bawn i’n cael y cyfle i fynd yn ôl i’r cychwyn a dewis Prifysgol arall, ni fyddwn i’n gwneud hynny. Rwy’n gwybod ei fod yn swnio fel ³¦±ô¾±³¦³óé ond rwyf wedi cyfarfod â chymaint o bobl ac wedi gwneud gymaint o ffrindiau yn fy mlwyddyn gyntaf...a hyd yn hyn mae’r ail flwyddyn yn hyd yn oed gwell! Rwyf yn byw chwarter awr ar droed i ffwrdd o’r stryd fawr a’r darlithoedd i gyd. Os af ar y bws am 10 munud byddaf yn sefyll wrth waelod yr Wyddfa yn barod i wneud diwrnod o ddringo. Ni fedraf feddwl am un peth yn benodol am Fangor, ond er mor hoff yr ydwyf o Leeds, pan fyddai yno rwy’n breuddwydio am ddod 'nôl i Fangor.Â
Pan fyddaf yn gadael mi fyddai’n colli’r bywyd a’r ffrindiau sydd gennyf yma. Byddaf yn colli fy nhŷ a’r golygfeydd gwych… byddaf yn gweld eisiau popeth y gallaf feddwl amdano ond mae gennyf y dyfodol i edrych ymlaen ato.
Y Dyfodol…
Rwyf eisiau gweithio yn naill ai Awstralia neu Seland Newydd. Siarcod a’m hysbrydolodd i fynd am y cwrs yma felly byddai cael swydd gyda hwy yn freuddwyd wedi ei gwireddu ond mae’n debyg y bydd rhaid i mi weithio fy hun i’r top. Rwyf hyd yn oed wedi ystyried mynd i addysgu; mae yna alw mawr am athrawon yn Awstralia yn ôl y sôn. Beth bynnag yw’r dyfodol, byddaf yn cofio ac yn gwerthfawrogi fy nghyfnod yma.