Y llanw'n corddi'r gwres Atlantig dwfn yng Nghefnfor yr Arctig
Mae ymchwilwyr wedi canfod sut mae d诺r cynnes yr Atlantig sy'n llifo'n ddwfn i mewn i Gefnfor yr Arctig yn cymysgu gyda dyfroedd oerach uwchben a chyfrannu at doddi鈥檙 rhew m么r yn yr Arctig. Mae'r canlyniadau, a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn yr wythnos hon, yn dangos bod llif y llanw yn yr Arctig yn gwneud i dd诺r cynnes, dwfn (sy'n deillio o Lif y Gwlff) gymysgu gyda d诺r oer, ffres sy'n gorwedd uwchben. Mae hyn yn ei dro yn cyfrannu at doddi鈥檙 rhew m么r sy'n arnofio.
Mae ymchwil blaenorol i sut mae haenau cynnes o dd诺r y cefnfor yn cymysgu gyda haenau oer sy'n gorwedd uwchben wedi canolbwyntio ar gynnwrf a achosir gan wyntoedd a thonnau, yn hytrach na'r cymysgu gan y llanw, gan fod llif y llanw o amgylch Cefnfor yr Arctig yn wan yn gyffredinol. Ond mae mesuriadau uniongyrchol o gynnwrf ar draws Cefnfor yr Arctig sy'n rhydd o rew yn dymhorol yn dangos bod symudiadau'r llanw sy'n rhyngweithio gyda llethrau serth gwely'r m么r yn un o brif achosion y cymysgu fertigol.
Eglurodd yr awdur arweiniol, Tom Rippeth o Brifysgol Bangor,
"Nid yw ein cefnforoedd yn cynnwys un corff o dd诺r, maent yn cynnwys dyfroedd o wahanol dymheredd a halwynedd, yn gorwedd mewn gwahanol 'haenau'. Felly mae Cefnfor yr Arctig fel brechdan jam i ryw raddau, gyda'r haenau o dd诺r oer uwchben ac oddi tano fel y "bara" a'r "jam" yw'r d诺r cynnes hallt sy'n llifo mewn i'r Arctig o'r Atlantig. Caiff rhew m么r sy'n arnofio ar wyneb y cefnfor ei inswleiddio oddi wrth wres yr haenen Atlantig gan yr haenen uchaf o dd诺r oer pegynol.
"Gwnaethom astudio'r d诺r cynnes o'r Atlantig sef y mewnbwn mwyaf o wres morol i'r Arctig - mae'n pedair gradd Celsius yn gynhesach na'r d诺r o amgylch, ac mae'n gynhesach nag y bu ers bron i ddwy fil o flynyddoedd. Mae brig yr haenen uchaf ar ddyfnderoedd rhwng 40 a 200 metr, ac mae ei wres yn ymledu i fyny i'r d诺r oer mwy ffres uwchben, ond weithiau gall y gwres hwn gael ei symud yn llawer cyflymach gan gynnwrf sy'n achosi'r cymysgu. Rydym wedi canfod bod y llanw yn creu llawer iawn o gynnwrf uwchben topograffi serth ar wely'r m么r, ac felly'n gwneud i lawer mwy o wres symud i fyny yn yr ardaloedd hyn. Mewn ardaloedd lle mae cerrynt llanw yn rhyngweithio gyda llethrau serth ar wely'r m么r, mae'r broses hon yn gwneud i'r dyfroedd cynnes gymysgu gyda'r dyfroedd oerach sy'n gorwedd uwchben. Gall hyn yn ei dro greu 'mannau poeth' lle mae'r rhew m么r yn toddi neu'n teneuo."
Meddai Sheldon Bacon, o'r National Oceanography Centre,
"Mae'n debygol y bydd rhew m么r yr Arctig yn encilio ymhellach yn y degawdau sydd i ddod, ac os ydyw, gall y rhyngweithio rhwng cerrynt y gwynt a'r cefnfor gryfhau. Gall y mannau poeth hyn sy'n cymysgu ymestyn i rannau eraill o Gefnfor yr Arctig sydd 芒 llethrau serth ar wely'r m么r, gan arwain at ragor o rew m么r yn toddi. Rydym yn gwybod bod yr Arctig eisoes yn cynhesu'n gyflymach na gweddill y blaned, a bod ymchwil arall a wnaed yn y blynyddoedd diwethaf yn dangos effaith cynhesu'r Arctig ar dywydd lledredau canol. Felly, efallai bod yr Arctig wedi chwarae rhan yn y tywydd eithafol diweddar yn yr Unol Daleithiau, y DU ac Ewrop. Felly pwysigrwydd darganfod y dull newydd hwn o symud gwres i fyny tuag at arwyneb Cefnfor yr Arctig yw'r posibilrwydd y gall gynyddu'r cynhesu yn yr Arctig."
Bu Prifysgol Bangor, y Norwegian Polar Institute (NPI) a'r National Oceanography Centre (NOC) yn cydweithio ar bedair mordaith ymchwil fawr yn yr Arctig ar hyd Cefnfor yr Arctig i'r gogledd o Svalbard, i'r gogledd o ddwyrain a gorllewin Siberia, ac ym Masn Canada. Gwnaed yr ymchwil trwy fesur cynnwrf yn uniongyrchol o amgylch Cefnfor yr Arctig a dangos ei gysylltiad uniongyrchol gydag amcangyfrifon gwasgariad ynni'r llanw a wnaed gan ddefnyddio data o loeren.
Mae'r ymchwil newydd yn rhan o broject y consortiwm TEA-COSI (鈥淭he Environment of the Arctic: Climate, Ocean, Sea Ice: http://teacosi.org), dan arweiniad Sheldon Bacon. Mae'r project yn rhan o Raglen Ymchwil yr Arctig, rhaglen 拢15m i wella ymdrech ymchwil y DU yn yr Arctig, a ariannwyd gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC).
Dyddiad cyhoeddi: 16 Chwefror 2015