Y cyfarwyddwr ffilmiau byd enwog Danny Boyle wedi mwynhau ei amser yn astudio ym Mhrifysgol Bangor
Soniodd y cyfarwyddwr ffilmiau Danny Boyle, a enillodd radd mewn Drama a Saesneg o Brifysgol Bangor yn 1978, fod ganddo atgofion melys iawn o鈥檌 amser ym Mangor, yn ystod cyfweliad gyda鈥檙 rhaglen Good Evening Wales ar Radio Wales yn ddiweddar.
Dywedodd am ei amser ym Mangor: 鈥淐efais amser gr锚t yno. Cefais amser ffantastig yn astudio Drama a Saesneg. Wrth edrych yn 么l, mae鈥檙 stwff rydych chi鈥檔 ei ddysgu, yr hyn rydych chi鈥檔 ei bigo fyny; mae o fel plant bach yn dysgu iaith. Yn y blynyddoedd cynnar, dydych chi byth eto鈥檔 dysgu cymaint mor sydyn ag yr ydych chi bryd hynny. Y profiadau; cefais fy mhrofiad cyntaf o gyfarwyddo yno ac roeddwn i鈥檔 gwneud llawer o actio a thyfu fyny hefyd! Mi gefais i amser rhyfeddol, felly mae gennyf i lawer o atgofion melys o鈥檙 cyfnod.鈥
Ers graddio, mae Danny Boyle wedi cyfarwyddo ffilmiau enwog megis Trainspotting a Slumdog Millionaire, yn ogystal 芒 chyfarwyddo Seremoni Agoriadol y Gemau Olympaidd yn Llundain yn 2012. Mae ei ffilm ddiweddaraf, Steve Jobs, allan yn fuan ac fe fydd yn cael ei dangos yn sinema newydd Pontio o 1 Rhagfyr ymlaen. Tocynnau ar gael yma https://www.pontio.co.uk/Online/default.asp
Cyfweliad llawn yma, 1awr 21munud
Dyddiad cyhoeddi: 3 Tachwedd 2015