Syniadau Mawr myfyrwyr Bangor
Mae chwe myfyriwr o Brifysgol Bangor wedi cyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth genedlaethol sy鈥檔 hybu a dathlu mentergarwch ymhlith pobl ifanc, a hynny gydag amrywiaeth eang (iawn!) o syniadau busnes. Yn eu plith, busnes darparu clytiau o ddeunydd bamb诺 ar gyfer babanod a menter gymdeithasol yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc ar greu 鈥榞westai鈥 bach i ddraenogod!
Nod Syniadau Mawr Cymru / Big Ideas Wales yw arddangos syniadau busnes a mentergarwch pobl ifanc 16 鈥 25 oed a鈥檜 hybu i ddatblygu鈥檙 syniadau hynny ymhellach drwy gynnig cefnogaeth ymarferol iddynt ar gyfer llwyddo ym myd busnes. Bydd rownd derfynol Syniadau Mawr Cymru, sy鈥檔 rhaglen a sefydlwyd yn 2016 gan Lywodraeth Cymru, yn cael ei chynnal ym Mhrifysgol Bangor ar 22 Mawrth, lle bydd cyfle i鈥檙 bobl ifanc arddangos eu syniadau gerbron cynulleidfa a fydd yn llawn cynrychiolwyr o sectorau a diwydiannau amrywiol Cymru. Bydd y cyfan yn cael ei lywio gan siaradwyr sydd 芒 phrofiad uniolgyrchol o fentro a llwyddo ym myd busnes a hwy hefyd fydd yn cyhoeddi鈥檙 enillwyr yn y noson wobrwyo. Rhoddir gwobrau unigol ar gyfer y syniadau busnes gorau a鈥檙 rhai sydd wedi cael effaith wirioneddol ar gymunedau ac ar yr amgylchedd yng Nghymru, yn ogystal 芒 gwobrau ar gyfer ymdrechion t卯m.
Gyda rhaglenni penodol wedi eu teilwra ar gyfer gwireddu syniadau busnes myfyrwyr, megis Enterprise By Design a gwaith yr uned B-Fentrus, nid yw鈥檔 syndod gweld enw chwe myfyriwr o Brifysgol Bangor ymhlith y detholion sydd wedi cyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth Syniadau Mawr Cymru eleni.
Dyma gip ar y chwe syniad sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol:
Enw: Rhiannon Williams
Oed: 21
Maes astudiaeth: Sw么leg gyda Herpetoleg
Syniad busnes: Babanod Bamb诺
Mae clytiau defnydd yn dod yn fwyfwy poblogaidd o ganlyniad i bryderon pobl dros effaith clytiau tafladwy ar yr amgylchedd. Mae clytiau wedi eu gwneud o ffeibr bamb诺 yn amsugno hylif ac yn atal adweithion alergeddaidd. Mae bamb诺 yn amsugno carbon deuocsid yn effeithiol hefyd ac angen llai o dd诺r na nifer o blanhigion eraill wrth dyfu.
Bydd Babanod Bamb诺 yn cynhyrchu clytiau gan ddefnyddio ffeibr wedi ei greu o ganlyniad i brosesu mecanyddol a bydd y bamb诺 yn cael ei gaffael yn foesegol drwy gydweithio 芒 ffermwyr a chwmn茂au cynhyrchu yn Uganda, gan sicrhau ei bod yn broses gynaliadwy sy鈥檔 arddel gwerthoedd Masnach Deg.
Enw: Jenny Light-Hook
Oed: 22
Maes astudiaeth: Addysg Gynradd gya SAC
Syniad busnes: Paws and Claws Pet Service
Gwasanaeth gwarchod a cherdded anifeiliaid anwes yw Paws & Claws Pet Services, yn darparu gwasanaeth ansawdd uchel i gwsmeriaid yn ystod cyfnodau gwyliau.
Enw: Joe Kaufman
Oed: 20
Maes astudiaeth: 厂诺辞濒别驳 gyda Sw么leg y M么r
Syniad busnes: Take The Sting Out
Creu protein supplement wedi ei wneud gyda slefren f么r (jellyfish), rhywbeth a fyddai鈥檔 cynnig ffynhonnell brotein ychwanegol yn ogystal 芒 mynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 problemau sy鈥檔 wynebu ecosystemau o ganlyniad i鈥檙 rhywogaeth yn gorboblogi.
Enw: Jemima Letts
Oed: 20
Maes astudiaeth: Coedwigaeth
Syniad busnes: Tree Sparks
Menter gymdeithasol yw Tree Sparks, sydd 芒鈥檙 bwriad o hybu trafodaethau ynghylch coed. Mae Tree Sparks yn dymuno cynnal sesiynau gyrfaoedd gyda phobl ifanc 15 鈥 19 oed er mwyn dangos iddynt y cyfleoedd a鈥檙 manteision a ddaw o weithio ym maes coedwigaeth a鈥檙 amgylchedd.
Enw: Bethany Fox
Oed: 20
Maes astudiaeth: 厂诺辞濒别驳
Syniad busnes: VIP Animal Boarding
Llety VIP ar gyfer anifeiliaid o bob math, yn g诺n, cathod a chnofilod.
Enw: Alana Nicol
Oed: 21
Maes astudiaeth: 厂诺辞濒别驳 gyda Chadwraeth
Syniad busnes: Hedgehog Hotel
Project i hybu cadwraeth ymysg plant ifanc drwy ddarparu gweithdai ar eu cyfer sy鈥檔 rhoi cyfle iddynt adeiladau t欧 draenog. Caiff y 鈥榯ai鈥 hyn eu cadw yng ngerddi鈥檙 plant neu mewn gerddi botaneg lleol.
Gan ddymuno鈥檔 dda i鈥檙 chwe myfyriwr, meddai Lowri Owen, Rheolwr Projectau Menter Prifysgol Bangor:
鈥淢ae'r Brifysgol wedi ymrwymo i gefnogi ein myfyrwyr i ddatblygu eu mentergarwch a darparu cyfloedd niferus iddynt roi hynny ar waith. Rydym yn falch iawn o gael nifer dda o fyfyrwyr Prifysgol Bangor yn rownd derfynol Syniadau Mawr Cymru. Maent wedi gweithio'n hynod o galed ar ddatblygu eu syniadau busnes ac rydym yn ddiolchgar i'r darlithwyr a'r mentoriaid busnes sydd wedi eu helpu ar gychwyn eu taith entrepreneuraidd.鈥
Ceir mwy o wybodaeth am Syniadau Mawr Cymru yma:
Dyddiad cyhoeddi: 21 Mawrth 2018