Gwobr Goffa Llew Rees yn cael ei rhoi i chwaraewr rygbi hynod addawol
Mae Prifysgol Bangor wedi dyfarnu ei Gwobr Goffa Llew Rees flynyddol i un o chwaraewyr rygbi addawol Cymru.
Dyfarnwyd y wobr i Rhun Williams, 18 oed, o Bontrug ger Caernarfon, gan ei fod wedi gwneud y cyfraniad mwyaf i godi proffil chwaraeon Prifysgol Bangor drwy ei lwyddiant personol ar lefel ryngwladol.
Mae Rhun, sy'n fyfyriwr blwyddyn gyntaf yn yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer, wedi cael blwyddyn ryfeddol gan fod yn rhan o dîm dan 20 Cymru yn nghystadleuaeth rygbi'r chwe gwlad yn 2016.
Derbyniodd Rhun Ysgoloriaeth Chwaraeon gan Brifysgol Bangor ac mae wedi bod yn aelod o Academi Rygbi Gogledd Cymru ers roedd yn 16 oed. Meddai ei hyfforddwr Josh Leach, a gefnogodd ei gais am y wobr hon:
"Mae wedi bod yn bleser ei wylio'n aeddfedu i'r chwaraewr a'r cymeriad a welwn heddiw.
Ers nifer o flynyddoedd bellach cydnabuwyd bod Rhun yn chwaraewr cyffrous ac addawol iawn yn Llwybr Cenedlaethol Undeb Rygbi Cymru i Ddatblygu Chwaraewyr. Roedd yn allweddol i lwyddiant tîm dan 18 Cymru ym Mhencampwriaeth Ryngwladol FIRA, lle dyfarnwyd gwobr Chwaraewr y Twrnamaint iddo.
Yn fwy diweddar fe wnaeth Rhun a thîm dan 20 oed Cymru ddod yn fuddugoliaethus ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad, gan ennill y Gamp Lawn gyntaf erioed i dîm dan 20 Cymru. Nid yn unig fe chwaraeodd Rhun ran allweddol ym mhob un o'r 5 gêm, ond ar sawl achlysur fe wnaeth y sylwebyddion teledu dynnu sylw ato fel "chwaraewr i gadw llygad arno. Rwy'n siŵr bod Rhun yn edyrch ymlaen yn awr at barhau â llwyddiant sgwad dan 20 Cymru eleni wrth iddynt baratoi at gystadleuaeth Cwpan y Byd Dan 20 a gynhelir ym Manceinion yr haf yma."
Meddai Rhun, a oedd wrth ei fodd yn derbyn y wobr: "Dwi'n eithriadol ddiolchgar am yr holl gefnogaeth dwi wedi'i chael o Brifysgol Bangor. Mae derbyn ysgoloriaeth chwaraeon a nawr Wobr Goffa Llew Rees wedi fy ngalluogi i ddatblygu fy ngyrfa rygbi gan ddilyn cwrs prifysgol yr un pryd. Bydd y wobr yn helpu gyda chostau teithio a pharatoadau at y Gwpan y Byd Ieuenctid."
Meddai Richard Bennett, Cyfarwyddwr Chwaraeon ym Mhrifysgol Bangor: "Yn ystod ei flwyddyn gyntaf mae Rhun wedi gwirioneddol godi proffil Prifysgol Bangor drwy ei ran allweddol yn nhîm dan 20 Cymru ac rydym yn hynod falch y bydd Rhun yn chwarae dros Gymru yn y twrnamaint Cwpan y Byd Dan 20 sy'n dechrau ym Mehefin. Gyda'r twrnamaint yn cael ei gynnal gan RFU, ni fydd raid i ddilynwyr Cymru deithio ymhell i weld gêm agoriadol Cymru yn erbyn Iwerddon a gaiff ei chwarae yn stadiwm Manchester City Academy ar 7 Mehefin."
Yn ddiweddar mae Rhun wedi sicrhau cytundeb datblygu gyda Gleision Caerdydd ar gyfer tymor 2016/17.
Straeon Perthnasol:
Camp lawn i Rhun
Partneriaeth newydd i ddatblygu talent rygbi gogledd Cymru
Myfyriwr Prifysgol Bangor wedi ei ddewis ar gyfer Carfan Rygbi Dan 20 Cymru
Dyfarnu Ysgoloriaethau Chwaraeon i Athletwyr elit Bangor
Dyddiad cyhoeddi: 27 Mai 2016