Grant Ymchwil Gwyddorau Eigion i astudio crychdonnau ar fflatiau llaid a thraethau
Mae banciau tywod a phonciau llaid yn ffurfio rhwystrau pwysig o amgylch ein harfordir. Bydd ymchwilwyr o Brifysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor yn arwain project ymchwil o bwys i asesu sut caiff y deunyddiau m芒n hyn eu symud gan gerrynt d诺r yn y parth arfordirol, a sut gallai鈥檙 symudiad hwn newid o ganlyniad i newid mewn hinsawdd.
Cyllidir y project ymchwil ar y cyd hwn, o鈥檙 enw COHBED, gan y Cyngor Ymchwil i鈥檙 Amgylchedd Naturiol (NERC). Bydd yn ymchwilio i sut y mae presenoldeb mwd 鈥榞ludiog鈥 cydlynol mewn gwaddod tywodlyd yn dylanwadu ar erydu, cludo a dyddodi鈥檙 gwaddod cymysg hwn mewn moroedd ac afonydd.
鈥淢ae鈥檙 Deyrnas Unedig yn genedl arfordirol gyda鈥檙 rhan fwyaf o bobl yn byw o fewn ychydig filltiroedd i鈥檙 m么r. Ceir hyd i fwd a thywod mewn llefydd lle mae egni鈥檙 tonnau, llanw a llif afonydd yn isel, a gellir dyddodi鈥檙 gwaddodion hyn a gludir gan dd诺r ar wely鈥檙 m么r. Mae cynefinoedd mwdlyd a thywodlyd yn bwysig iawn ar gyfer ecoleg ac economi Prydain. Maent yn darparu bwyd ar gyfer llawer o rywogaethau o adar a physgod, ond hefyd yn gwarchod yr arfordir rhag grymoedd erydol y m么r. Maent hefyd yn gweithredu fel ffilter, lle caiff llygryddion o鈥檙 afonydd eu dal a鈥檜 diraddio yn y pen draw. Oherwydd pwysigrwydd y systemau hyn, mae eu hymddygiad naturiol a鈥檜 sefydlogrwydd yn bryder cynyddol fel y mae lefelau鈥檙 m么r yn codi gyda newid mewn hinsawdd鈥, eglura Dr Jaco H. Baas, Darlithydd yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion a Phrif Ymchwilydd y project.
Ychwanega Dr Baas: 鈥淵 prif reswm dros sefydlu鈥檙 project hwn yw nad oes gennym lawer o wybodaeth wyddonol i鈥檔 helpu i ragfynegi sut bydd traethau a fflatiau llaid naturiol yn ymateb i rymoedd newidiol y llanw, y gwynt a鈥檙 tonnau. Pan fydd d诺r yn llifo dros wely鈥檙 m么r, mae egni鈥檙 llif yn siapio鈥檙 gwaddod yn arweddion tonnog, fel crychdonnau. Mae鈥檙 hyn a elwir yn 鈥榳ely-ffurfiau鈥 (bedforms) yn helpu i reoli erydiad a chludiant tywod, mwd, maetholion a llygryddion bob diwrnod, ond hefyd mewn cyfnodau o stormydd, llawer iawn o law a llifogydd arfordirol.鈥
鈥淢ae gwybodaeth a fydd yn ein galluogi i ragfynegi maint a symudiad gwely-ffurfiau yn hanfodol ar gyfer llawer o ddisgyblaethau amgylcheddol, fel rheoli鈥檙 amgylchedd, peirianneg hydrolig, bioleg cynefin benthig, modelu cyfrifiadurol o gludo gronynnau a daeareg waddodol. Fodd bynnag, ceir diffyg gwybodaeth lwyr bron iawn am wely-ffurfiau sy鈥檔 cynnwys cymysgedd o dywod a mwd. Rydym yn gwybod bod gwaddodion tywodlyd yn 鈥榓nghydlynol鈥, oherwydd nid yw鈥檙 gronynnau tywod yn glynu 芒鈥檌 gilydd, tra bo mwd wedi鈥檌 greu o ronynnau llai sy鈥檔 glynu 芒鈥檌 gilydd, ac felly fe鈥檌 gelwir yn waddodion 鈥榗ydlynol鈥. Mae鈥檙 gwahaniaeth hwn yn un o dargedau astudiaeth y project COHBED.鈥
Mae鈥檙 project COHBED yn gydweithrediad ag ymchwilwyr o鈥檙 National Oceanography Centre yn Lerpwl (Yr Athro Peter Thorne), a Phrifysgolion Leeds (Dr Daniel Parsons), Plymouth (Dr Sarah Bass) a St Andrews (Yr Athro David Paterson), gyda phob un yn cyfrannu eu harbenigedd penodol mewn ffiseg, mathemateg, gwaddodeg a bioleg at y project. Mae cyfanswm y gyllideb ychydig o dan 拢1 miliwn; bydd hyn yn helpu i gyflogi pump o Ymchwilwyr 脭l-ddoethurol yn ystod gwahanol gamau鈥檙 project tair blynedd, yn ogystal ag un myfyriwr PhD.
Daeth y project COHBED yn gydradd ail yng nghynllun Grantiau Safonol diweddaraf y Cyngor Ymchwil i鈥檙 Amgylchedd Naturiol. Daw鈥檙 grant, ym maes gwaddodeg, yn dilyn y 鈥榟at trick鈥 diweddar o lwyddiannau mewn Eigioneg Ffisegol yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion.
Gwneir rhan fawr o鈥檙 ymchwiliadau hyn drwy efelychiadau llif yn Labordy Hydrodynameg yr Ysgol Gwyddorau Eigion a gwaith ar long yn Aber Afon Dyfrdwy.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Hydref 2011