Cyhoeddi prosiectau sy'n annog pobl i fod yn greadigol er mwyn hybu鈥檙 Gymraeg
Mae Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, wedi cyhoeddi bod 拢425,000 wedi'i ddyfarnu i 26 o brosiectau arloesol sy'n ceisio hybu'r Gymraeg yn y gymuned a thechnoleg Gymraeg.
Mae Grant Cymraeg 2050 yn elfen allweddol o Strategaeth y Gymraeg, Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr. Bydd yn darparu grantiau bach o hyd at 拢20,000 yr un i ariannu prosiectau tymor byr arloesol sy'n ceisio cynyddu'r defnydd bob dydd pobl o'r iaith a hyrwyddo technoleg sy'n cefnogi'r defnydd o'r Gymraeg.
Roedd Arwel Tomos Williams, myfyriwr PhD yn Ysgol Seicoleg ym Mhrifysgol Bangor, yn ymgeisydd llwyddiannus, gan ennill 拢20,000 gyda鈥檌 oruchwylwyr i ymchwilio 鈥淒efnyddio鈥檙 Profiad Eusle i Rymuso Staff i Ddefnyddio鈥檙 Gymraeg gan Newid y Cyd-destun Ieithyddol Arferol yn y Gweithle Dwyieithog鈥. Dull sy鈥檔 deillio gan d卯m Soziolinguistika Klusterra o Wlad y Basg yw鈥檙 dull Eusle sydd wedi cael dylanwad cryf ar ddefnydd iaith, gan gynyddu鈥檙 defnydd gweithredol o Fasgeg yng nghyd-destun y gweithle.
O dan oruchwyliaeth Yr Athro Carl Hughes, Dr Lowri Hughes a Dr Emily Tyler, bydd y gwaith hwn yn adeiladu ar waith peilot gan Arwel fel rhan o鈥檌 ymchwil PhD, ac mae鈥檔 cynnig cyfle ardderchog i fynd 芒鈥檙 gwaith peilot yn ei flaen, ynghyd 芒鈥檙 mesuriadau sydd wedi eu datblygu er mwyn cyfrannu at y sail tystiolaeth ar sut i gynyddu, annog a mesur y cynnydd mewn defnydd o鈥檙 Gymraeg yn y gweithle mewn ffordd wrthrychol.
Prif fwriad Eusle yw newid y 鈥榗yd-destun ieithyddol arferol鈥 o fewn gweithleoedd dwyieithog i gefnogi defnydd o鈥檙 Gymraeg. Mae鈥檙 cyd-destun ieithyddol arferol yn cynrychioli normau ymddygiadol sydd eisoes wedi cael eu sefydlu mewn sefyllfaoedd penodol, yn ogystal 芒 rhwng unigolion penodol. Fel arfer, mae鈥檙 cyd-destun ieithyddol arferol yn gadarn, yn anodd newid ac yn 鈥榓nhyblyg鈥.
Mae gwaith cynt Arwel yn dangos fod ambell i siaradwr Cymraeg rhugl yn siarad Saesneg 芒鈥檌 gilydd oherwydd y cyd-destun ieithyddol arferol (h.y., mae Saesneg wedi cael ei osod fel 鈥榓rferiad ieithyddol鈥 yn eu perthynas gwaith nhw, neu o fewn cyd-destun penodol). Gan ddefnyddio seicoleg newid ymddygiad, bydd y profiad Eusle yn mynd ati i sefydlu gweithleoedd dwyieithog fel 鈥榗yd-destun ieithyddol hyblyg鈥, yn ogystal ag adeiladu sgiliau a magu hyder o fewn timau staff i ddefnyddio鈥檙 Gymraeg.
Meddai'r Gweinidog: "Rydyn ni am weld y Gymraeg yn dod yn rhan arferol o fywyd bob dydd fel bod siaradwyr o bob lefel yn teimlo鈥檔 hyderus wrth ddefnyddio鈥檙 iaith mewn sefyllfaoedd ffurfiol ac anffurfiol. Bydd y prosiectau a gyhoeddwyd heddiw yn ei gwneud hi'n haws i bobl ddefnyddio'r Gymraeg, boed wyneb yn wyneb yn y gymuned ac yn y gweithle neu drwy lwyfannau digidol.
Gwyddom fod cyflawni miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn her sylweddol, ac rwy'n falch iawn bod cymaint o sefydliadau a phobl eisiau ymuno 芒 ni wrth i ni fwrw ymlaen 芒'r dasg hon."
Gweler hefyd project arall o dan yr un ffrwd ariannu.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Tachwedd 2017