Athro Ysgrifennu Creadigol yn ennill Gwobr
Mae鈥檙 Athro a鈥檙 bardd, Zo毛 Skoulding, wedi ennill Gwobr Llyfr y Flwyddyn, yng nghategori Barddoniaeth Saesneg am ei chasgliad diweddaraf, Footnotes to Water.
Mae Footnotes to Water yn dilyn hynt dwy afon anghofiedig, sef Afon Adda ym Mangor ac Afon Bi猫vre ym Mharis, yn ogystal 芒 dilyn defaid ar lwybrau llenyddol hyd fynyddoedd Cymru. Dyma un o鈥檙 cyfrolau a ddewiswyd gan y Poetry Book Society y llynedd.
Mae Zo毛 Skoulding, Athro Ysgrifennu Creadigol yn Ysgol Ieithoedd, Llenyddiaethau, ac Ieithyddiaeth Prifysgol Bangor eisoes wedi cyhoeddi sawl casgliad o farddoniaeth a gweithiau eraill. Mae hi鈥檔 ymddiddori ym marddoniaeth lle, ecoleg a chyfieithu.
Mae ei gwaith wedi cyrraedd rhestr fer gwobr Ted Hughes, a roddir am waith barddonol newydd, rhestr hir Llyfr y Flwyddyn 2009, a chafodd wobr y Cholmondeley Society of Authors yn 2018.
O glywed y newyddion dywedodd yr Athro Skoulding:
鈥淩wyf wrth fy modd derbyn y Wobr am Footnotes to Water, ac yn gwerthfawrogi鈥檙 holl waith y mae Llenyddiaeth Cymru鈥檔 ei wneud i roi amlygrwydd i lenyddiaeth fel rhan o fywyd cyhoeddus Cymru. Rwy鈥檔 gobeithio y bydd pob un o鈥檙 awduron a roddwyd ar y rhestrau byr yn y ddwy iaith yn cael darllenwyr newydd yr haf hwn. Rwy鈥檔 falch iawn hefyd o fod yn rhan o gymuned mor gref o ysgrifenwyr ym Mhrifysgol Bangor, gan gynnwys cydweithwyr a chyn-fyfyrwyr sydd wedi ennill gwobrau eleni.鈥
Dywed:
"Dechreuodd Footnotes to Water oherwydd fy mod wedi fy nghyfareddu gan orffennol Bangor a manylion amdani na 诺yr llawer amdanynt, megis Afon Adda sy鈥檔 llifo o鈥檙 golwg o dan y ddinas. Sgwrs yw鈥檙 gyfrol gyda鈥檙 llefydd rwy鈥檔 eu caru ac am y llefydd hynny, ac felly rwyf wrth fy modd bod y gyfrol wedi denu鈥檙 fath sylw."
Enillydd arall oedd Ifan Morgan Jones, darlithydd newyddiaduraeth , am ei nofel Babel.
Roedd Alys Conran, darlithydd ysgrifennu creadigol hefyd ar y rhestr fer gyda鈥檌 hail nofel, Dignity. Yn 2017, enillodd Alys Conran Brif Wobr Saesneg Llyfr y Flwyddyn am ei nofel gyntaf, Pigeon.
Mae鈥檙 tri ohonynt yn cyfrannu at ddysgu ysgrifennu creadigol yn y Brifysgol.
Hoffai鈥檙 Brifysgol hefyd longyfarch Caryl Bryn, cyn-fyfyrwraig Ysgol y Gymraeg, y daeth ei chyfrol, Hwn ydi鈥檙 Llais, Tybad? yn fuddugol yng nghategori barddoniaeth Gwobrau Llyfr y Flwyddyn 2020 Llenyddiaeth Cymru / Literature Wales.
Dyddiad cyhoeddi: 31 Gorffennaf 2020