Tystysgrif Lefel 7 ILM mewn Hyfforddi a Mentora Swyddogion Gweithredol
Ar gyfer pwy mae’r cwrs?
Mae'n addas i uwch-arweinwyr ac uwch-reolwyr (neu rai sydd â chyfrifoldeb am hyfforddi a datblygu yn eu swydd) a fydd yn defnyddio'r wybodaeth, y sgiliau a'r hyder a fagant i fod yn hyfforddwyr/mentoriaid effeithiol yn eu gwaith o ddydd i ddydd, gan wneud gwahaniaeth i ganlyniadau eu gweithwyr a'u busnesau.
Oherwydd eu harbenigedd, mae'n bosibl y bydd disgwyl i uwch-reolwyr helpu eraill i feithrin medrau o’r un safon, a gall hynny gynnwys hyfforddi unigolion. Cynlluniwyd y cymhwyster hwn hefyd i ddatblygu'r wybodaeth a'r sgiliau y mae ar uwch-reolwyr eu hangen i ymgymryd â'r cyfrifoldeb hwn.
Un o nodau eraill y Diploma yw rhoi i'r cyfranogwyr y sgiliau i hyfforddi swyddogion gweithredol neu i fentora rheolwyr.
Beth yw'r manteision?
I'r unigolyn: Byddwch yn meithrin set o sgiliau a fydd yn eich helpu i wella perfformiad eraill i'r eithaf a, thrwy hynny, gael effaith sylweddol ar eich canlyniadau yn y meysydd yr ydych yn gyfrifol amdanynt. Yn achos cyfranogwyr cyflogedig, yn aml bydd hyn yn arwain at well sicrwydd swydd a gall hyd yn oed ddeillio ar gyfleoedd i gael dyrchafiad. Yn achos rhai sy'n hunangyflogedig, byddwch yn cael canlyniadau y gellir eu mesur a chodi tâl amdanynt. Bydd y cwrs hefyd yn gwella eich hunanymwybyddiaeth a'ch hunanhyder, a byddwch yn meithrin ymddygiadau ac agweddau priodol.
I Sefydliadau: Byddwch yn datblygu'ch cynaliadwyedd a'ch proffidioldeb drwy gael gwell canlyniadau gan eich staff, gan gynyddu a meithrin doniau eich gweithwyr ar gyfer yr hir dymor.
Beth mae'r cwrs yn ei gynnwys?
Mae'r Dystysgrif mewn Hyfforddi a Mentora Swyddogion Gweithredol yn galluogi’r cyfranogwyr i ddatblygu eu dealltwriaeth o hyfforddi a mentora ac i feithrin y sgiliau sy'n angenrheidiol i roi'r wybodaeth honno ar waith. Caiff y cyfranogwyr gyfle i adolygu eu gallu eu hunain yn feirniadol drwy ymgymryd ? thasgau ymarferol sy'n ychwanegu at werth. Byddant hefyd yn adolygu’n feirniadol rôl a chyfraniad hyfforddi a mentora o'u safbwynt hwy eu hunain ac o safbwynt eu sefydliadau. Bydd y cyfranogwyr yn cynllunio, yn cynnal ac yn gwerthuso o leiaf 12 awr o sesiynau hyfforddi a fydd yn gwneud gwahaniaeth mesuradwy i'w hyfforddai/hyfforddeion.
Mae'r Diploma i rai sy'n Hyfforddi ac yn Mentora Swyddogion Gweithredol yn Broffesiynol* yn addas i gyfranogwyr a fydd yn ymwneud cryn dipyn â hyfforddi swyddogion gweithredol/mentora rheolwyr mewn sefydliad, neu i rai sy'n hyfforddi ym maes sgiliau bywyd. Bydd y cyfranogwyr yn dysgu fel yn achos y Dystysgrif uchod, ond gan gwblhau un uned ychwanegol, 'Ymgymryd â chyfnod estynedig o fentora neu hyfforddi swyddogion gweithredol dan oruchwyliaeth'. Yn y modiwl hwn, bydd y cyfranogwyr yn datblygu ac yn gwella eu perfformiad fel hyfforddwyr swyddogion gweithredol/mentoriaid rheolwyr ac fel ymarferwyr adfyfyriol.
Er bod angen cynnwys elfen o theori, dim ond yn y gwaith y gellir dysgu sgiliau hyfforddi a mentora. Felly dysgu drwy brofiad a wneir ar y cwrs hwn, gyda'r cyfranogwyd yn cael eu cymell i ddefnyddio'r offer a'r technegau a ddysgant ac i adfyfyrio ar eu profiadau a chael adborth gan gyd-fyfyrwyr a hwylusydd. Mae'r dulliau cyflwyno'n cynnwys cyfraniad ac arddangosiadau gan yr hwyluswyr, trafodaethau, ymarferion adfyfyrio personol, ac ymarferion a gweithgareddau mewn grwpiau.
Sut byddaf i'n elwa?
Yn ogystal i'r sgiliau a'r galluoedd y byddwch yn eu meithrin, byddwch yn derbyn cymhwyster a gydnabyddir yn rhyngwladol ynghyd â chredydau trosglwyddadwy.
Mae'r holl ddeunyddiau'n gynwysedig yn y pris.
Bydd yr holl ddysgwyr hefyd yn cael aelodaeth myfyriwr o'r ILM am chwe mis yn rhad ac am ddim (noder bod y ffioedd cofrestru â'r ILM yn dal yn berthnasol). Mae'r aelodaeth myfyriwr, a fwriadwyd i helpu ymgeiswyr i gael y mwyaf o'u cwrs ac i roi hwb i'w gyrfa fel rheolwyr, yn caniatâu iddynt ddefnyddio amrediad eang o wasanaethau arbenigol yn ogystal â deunyddiau a gwasanaethau datblygiadol.
Beth sydd ei angen arnaf?
Nid oes gofynion mynediad ffurfiol, ond fel rheol disgwylir i'r cyfranogwyr fod mewn swyddi uwch-reolwyr. Yn arferol, dylent fod wedi cwblhau cymhwyster Lefel 5 (neu uwch) yr ILM mewn Rheoli, neu gymhwyster cyfatebol, ond nid yw hyn yn orfodol.
Rhoddir ystyriaeth hefyd i geisiadau gan ddysgwyr arbennig, nad ydynt yn meddu ar gymhwyster ffurfiol ym maes rheoli neu arwain, ond sydd wedi cael sawl blwyddyn o brofiad ymarferol ac wedi cael rhywfaint o hyfforddiant ffurfiol yn y swydd.
Gwybodaeth Bellach
Os oes arnoch angen rhagor o wybodaeth am gwrs penodol, gan gynnwys yr hyn a astudir a'r cymwysterau angenrheidiol, cysylltwch ag aelod o'r tîm hyfforddi ar:
¹ó´Úô²Ô: 01248 365 981 neu Ebost: training@themanagementcentre.co.uk