Tystysgrif Lefel 5 mewn Hyfforddi a Mentora ym maes Rheoli
Cymhwyster mewn Hyfforddi a Mentora ym maes Rheoli (ILM)
Tystysgrif Lefel 5 ILM mewn Hyfforddi Swyddogion Gweithredol a Mentora
Ar gyfer pwy mae’r cwrs?
I Hyfforddwyr a Mentoriaid ym maes Rheoli ar gyfer rhai a fydd yn hyfforddi ac yn mentora rheolwyr mewn sefydliad neu ar eu liwt ei hunain.
Mae'n addas i reolwyr (neu rai sydd ? chyfrifoldeb am hyfforddi a datblygu yn eu swydd) a fydd yn defnyddio'r wybodaeth, y sgiliau a'r hyder a fagant i fod yn hyfforddwyr a mentoriaid effeithiol yn eu gwaith o ddydd i ddydd, gan wneud gwahaniaeth i ganlyniadau eu gweithwyr a'u busnesau. Mae'n bosibl y bydd disgwyl i reolwyr helpu eraill i feithrin medrau o’r un safon, a gall hynny gynnwys hyfforddi unigolion.
Beth yw'r manteision?
Nod Tystysgrif Lefel 5 ILM mewn Hyfforddi a Mentora ym maes Rheoli yw rhoi i reolwyr gweithredol y wybodaeth, y sgiliau a'r hyder i weithredu fel hyfforddwyr a mentoriaid effeithiol yn eu gwaith o ddydd i ddydd. Mae'r cymhwyster yn cynnwys tair uned orfodol a fydd yn galluogi'r cyfranogwyr i ddeall, datblygu ac arddangos gwybodaeth a sgiliau mewn perthynas ? hyfforddi a mentora yn y gweithle. Bydd meithrin y sgiliau hyn yn eich cynorthwyo i ganfod y berthynas rhwng hyfforddi, mentora a chyflawni amcanion busnes.
I'r unigolyn: Byddwch yn meithrin set o sgiliau a fydd yn eich helpu i wella perfformiad eraill i'r eithaf a, thrwy hynny, gael effaith sylweddol ar y meysydd yr ydych yn gyfrifol amdanynt. Yn achos cyfranogwyr cyflogedig, yn aml bydd hyn yn arwain at well sicrwydd swydd a gall hyd yn oed ddeillio ar gyfleoedd i gael dyrchafiad. Yn achos rhai sy'n hunangyflogedig, byddwch yn cael canlyniadau y gellir eu mesur a chodi t?l amdanynt. Bydd y cwrs hefyd yn gwella'ch hunanymwybyddiaeth a'ch hunanhyder, a byddwch yn meithrin ymddygiadau ac agweddau priodol.
I Sefydliadau: Byddwch yn datblygu'ch cynaliadwyedd a'ch proffidioldeb drwy gael gwell canlyniadau gan eich staff, gan gynyddu a meithrin doniau eich gweithwyr ar gyfer yr hir dymor.
Beth mae'r cwrs yn ei gynnwys?
Awn i'r afael ? hyfforddi a mentora mewn modd hynod ymarferol, ac wrth asesu, canolbwyntiwn ar ddatblygu sgiliau go iawn er mwyn sicrhau'r manteision gorau posib mewn amser realistig.
Caiff y cyfranogwyr gyfle i adolygu eu gallu'n feirniadol drwy ymgymryd ag ymarferion ymarferol sy'n ychwanegu at werth.
Byddant hefyd yn adolygu’n feirniadol r?l a chyfraniad hyfforddi a mentora o'u safbwynt hwy eu hunain ac o safbwynt eu sefydliadau. Bydd y cyfranogwyr yn cynllunio, yn cynnal ac yn gwerthuso o leiaf 12 awr o sesiynau hyfforddi a fydd yn gwneud gwahaniaeth mesuradwy i'w hyfforddai/hyfforddeion.
Mae'r Dystysgrif mewn Hyfforddi a Mentora ym maes Rheoli'n cynnwys tair uned orfodol sy'n galluogi'r cyfranogwyr i ddeall, meithrin ac arddangos gwybodaeth a sgiliau o ran hyfforddi a mentora yn y gweithle:
Yn yr uned orfodol gyntaf, bydd y cyfranogwyr yn archwilio nodweddion hyfforddwyr a mentoriaid effeithiol, gan fynd ymlaen i gyflwyno achos dros hyfforddi a mentora yn eu sefydliad.
Yn yr ail uned, bydd y cyfranogwyr yn adolygu eu gallu eu hunain fel hyfforddwyr neu fentoriaid ym maes rheoli, gan edrych ar eu safbwyntiau moesegol a moesol yn ogystal ?'u sgiliau cyfathrebu.
Yn yr uned orfodol olaf, bydd y cyfranogwyr yn cynllunio ac yn cynnal rhaglen hyfforddi neu fentora fer yn unol ag amcanion eu sefydliad, eu hadran neu eu t?m.
Er bod angen cynnwys elfen o theori, dim ond yn y gwaith y gellir dysgu sgiliau hyfforddi a mentora. Felly dysgu drwy brofiad a wneir ar y cwrs hwn, gyda'r cyfranogwyd yn cael eu cymell i ddefnyddio'r offer a'r technegau a ddysgant ac i adfyfyrio ar eu profiadau a chael adborth gan gyd-fyfyrwyr a hwylusydd. Mae'r dulliau cyflwyno'n cynnwys cyfraniad ac arddangosiadau gan yr hwyluswyr, trafodaethau, ymarferion adfyfyrio personol, ac ymarferion a gweithgareddau mewn grwpiau.
Sut byddaf i'n elwa?
Yn ogystal ?'r sgiliau a'r galluoedd y byddwch yn eu meithrin, byddwch yn derbyn cymhwyster a gydnabyddir yn rhyngwladol ynghyd ? chredydau trosglwyddadwy.
Mae'r holl ddeunyddiau'n gynwysedig yn y pris.
Bydd yr holl ddysgwyr hefyd yn cael aelodaeth myfyriwr o'r ILM am chwe mis yn rhad ac am ddim. Mae'r aelodaeth myfyriwr, a fwriadwyd i helpu ymgeiswyr i gael y mwyaf o'u cwrs ac i roi hwb i'w gyrfa fel rheolwyr, yn caniat?u iddynt ddefnyddio amrediad eang o wasanaethau arbenigol yn ogystal ? deunyddiau a gwasanaethau datblygiadol.
Beth sydd ei angen arnaf?
Nid oes gofynion mynediad ffurfiol, ond fel rheol disgwylir i'r cyfranogwyr fod mewn swyddi rheolwyr canol. Yn arferol, dylent fod wedi cwblhau cymhwyster Lefel 3, neu uwch, yr ILM mewn Rheoli, neu gymhwyster cyfatebol. FODD BYNNAG, nid yw hyn yn orfodol.
Rhoddir ystyriaeth hefyd i geisiadau gan ddysgwyr arbennig, nad ydynt yn meddu ar gymhwyster ffurfiol ym maes rheoli neu arwain, ond sydd wedi cael profiad ymarferol yn y maes hwnnw.
Gwybodaeth Bellach
Os oes arnoch angen rhagor o wybodaeth am gwrs penodol, gan gynnwys yr hyn a astudir a'r cymwysterau angenrheidiol, cysylltwch ag aelod o'r t?m hyfforddi ar:
Ff?n: 01248 365 981 or Ebost: training@themanagementcentre.co.uk