Lefel 5 - Diploma Uwch mewn Caffael a Chyflenwi
Mae'r Diploma Uwch Lefel 5 mewn Caffael a Chyflenwi'n rhaglen a achredwyd gan Sefydliad Siartredig Caffael a Chyflenwi'r Deyrnas Unedig. Caiff y Diploma ei gydnabod yn rhyngwladol ac fe'i bwriadwyd i alluogi Rheolwyr ac Arbenigwyr ym maes caffael, prynu a chyflenwi, a rhai sy'n gweithio ym maes cadwyni cyflenwi, i wella eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth a chael cymhwyster proffesiynol gwerthfawr. Mae'r cwrs yn addas hefyd i Reolwyr sy'n berchen ar eu busnesau eu hunain ac i Ymgynghorwyr sydd am ychwanegu at eu gwybodaeth am y maes hwn sy'n hanfodol i fusnesau.
Mae'r Diploma Uwch Lefel 5 hefyd yn sail gadarn i reolwyr arbenigol sydd am ddatblygu ymhellach a chael cymwysterau uwch, fel Diploma Lefel 6 CIPS i Raddedigion mewn Prynu a Chyflenwi.
Mae'r Diploma Uwch mewn Caffael a Chyflenwi'n cynnwys 8 modiwl. Caiff pob modiwl ei hasesu'n unigol gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau asesu. Rhagor o wybodaeth am y modylau yma.
Modylau |
L5M1 – Tîm Rheoli ac Unigolion |
L5M2 – Rheoli Risg SC |
L5M4 – Cytundebau a Chyllid Uwch |
L5M5 – Rheoli P & S Moesegol L5M6 – Rheoli Categori |
L5M8 – Rheoli Prosiect a Newid L5M9 – Rheoli Ymgyrch |
Ffioedd
Cysylltwch â'r Tîm Hyffordd am fwy o wybodaeth
Cyllid
Cysylltwch â'r Tîm Hyffordd am fwy o wybodaeth
Sut i gysylltu gyda ni
I gael rhagor o wybodaeth am CIPS a'r rhaglen diweddaraf, cysylltwch â'r Tîm Hyfforddi ar 01248 365 981 neu training@themanagementcentre.co.uk
Angen llety?
Ar gyfartaledd, bydd sesiynau'n para 2 ddiwrnod, felly mae'n bosibl y bydd arnoch angen llety. Ar safle'r Ganolfan Rheolaeth, mae Llety 4 Seren sy'n cynnig Gwely a Brecwast am bris gostyngol i fyfyrwyr CIPS. Cysylltwch i gael rhagor o wybodaeth.