Ben Pepler - Darlithydd mewn Nyrsio Oedolion
Rydw i newydd ddechrau PhD, ac rwy'n ymchwilio i brofiad pobl hÅ·n LHDT (LGBT) o ofal mewn lleoliadau cymunedol a'r modd y maen nhw'n canfod y gofal hwnnw.
Mae pobl LHDT yn aml yn teimlo'n ymylol a does neb yn gwrando arnynt nac yn ystyried eu hanes cymdeithasol a rhywiol, ac oherwydd hynny maent yn agored i nifer o ffactorau negyddol megis gwahaniaethu, unigedd cymdeithasol a stigma. Mae amrywiaeth o anghydraddoldebau o ran y ddarpariaeth a mynediad at ofal a hynny'n amlach na pheidio'n ymwneud â safbwyntiau heterorywiol.
Mae tystiolaeth gynyddol yn awgrymu bod oedolion LHDT hŷn yn cael eu gorfodi i gydymffurfio â diwylliant gofal heteronormadol, ac mae'r ymchwil hwn yn anelu at dynnu sylw at eu profiadau a rhoi mwy o lais iddynt allu cyfrannu at y drafodaeth ehangach sydd ynghylch darpariaeth y gofal i bobl hŷn LHDT.