Cael eich derbyn ar ôl y cyfweliad
Llongyfarchiadau ar eich llwyddiant yn y cyfweliad a byddwch wedi derbyn cynnig gan UCAS erbyn hyn. Darllenwch y wybodaeth bwysig ganlynol am yr hyn sydd angen i chi ei wneud nawr.
Ffurflen hunan-ddatganiad
Dylai pob ymgeisydd lawrlwytho'r ffurflen hunan-ddatganiad .
Gwiriadau Cofnodion Troseddol
Mae eich lle ar y cwrs yn amodol ar gael gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer gweithio gyda phlant ac oedolion yn cynnwys gwirio'r rhestr rhai sydd wedi eu gwahardd.
Mae'n ofynnol hefyd i ymgeiswyr sydd wedi byw y tu allan i'r DU gael gwiriad cofnodion troseddol yn y wlad y buont yn byw ynddi.
Mae'n ofynnol i chi wneud cais am y gwiriadau cofnodion troseddol cyn dechrau'r cwrs, peidiwch ag oedi cyn dilyn y broses hon oherwydd gallai hynny olygu eich bod yn methu dechrau eich lleoliad.
Byddwn yn cysylltu â chi hyd at dri mis cyn dechrau'r cwrs gyda manylion am sut i wneud y gwiriadau hyn, rhaid i chi aros am y wybodaeth hon cyn gwneud cais am eich gwiriadau.
Cysylltwch â student.DBS.myfyrwyr@bangor.ac.uk os ydych angen rhagor o wybodaeth am wiriadau cofnodion troseddol neu'r hunan-ddatganiad.
Gwiriadau Iechyd Galwedigaethol
Mae eich lle ar y cwrs yn amodol ar gael asesiad iechyd boddhaol. Byddwn yn cysylltu â chi hyd at dri mis cyn dechrau'r cwrs gyda manylion am sut i wneud y gwiriadau hyn, rhaid i chi aros am y wybodaeth hon cyn gwneud cais am eich gwiriadau.
Gwirio Cymwysterau Academaidd
Bydd gofyn i ymgeiswyr syn cael cynnig lle ar y cwrs Israddedig Bydwreigiaeth ddarparu tystiolaeth o'r Cymwysterau Academaidd a gyflawnwyd. Bydd unigolyn o dderbyniadau Bydwreigiaeth yn cysylltu ag ymgeiswyr llwyddiannus gyda chyfarwyddiadau ar sut y gellir gwneud hyn.
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch ceisiadau.iechyd@bangor.ac.uk
Geirdaon
Gofynnir am gyfeiriadau cymeriad wrth gynnig lle ar y rhaglen. Dadlwythwch y ffurflen yma.
Ar ôl ei gwblhau, anfonwch ymlaen at ceisiadau.iechyd@bangor.ac.uk
Yn ogystal, os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â ceisiadau.iechyd@bangor.ac.uk