Ysgoloriaethau Mynediad at Gyrsiau Meistr ar gael
Mae nifer gyfyngedig o leoedd wedi’u cyllido ar gael i fyfyrwyr sydd â diddordeb astudio am raddau MA/MSc mewn Rheolaeth Amgylcheddol Gynaliadwy (Cyfrwng Cymraeg) yn Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth o fis Medi 2012.
Cyllidir y lleoedd hyn drwy'r cynllun Mynediad at Gyrsiau Meistr (ATM). Mae hwn yn gynllun i Gymru gyfan i feithrin sgiliau uwch drwy gefnogi lleoedd ar gyrsiau Meistr Hyfforddedig sy’n gysylltiedig â sectorau blaenoriaeth Llywodraeth Cymru (Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu, Ynni a’r Amgylchedd, Deunyddiau Uwch a Chynhyrchu, y Diwydiannau Creadigol, Gwyddorau Bywyd, a Gwasanaethau Ariannol a Phroffesiynol).
Mae’r Ysgoloriaethau’n cyllido gradd Meistr blwyddyn sy’n cynnwys gwaith ar leoliad gyda chwmni yn ardal cydgyfeiriant Cymru (Gorllewin Cymru a’r Cymoedd). Mae’r cyllid yn cynnwys ffioedd dysgu a thelir lwfans byw o £113 yr wythnos i fyfyrwyr (46 wythnos yn ddi-dreth). Mae angen i ymgeiswyr fod yn fyfyrwyr o’r DU neu’r UE gyda chyfeiriad parhaol neu gyfeiriad adeg tymor yn ardal cydgyfeiriant Cymru. Ceir mwy o fanylion am y cynllun cyllido ar y wefan ATM http://www.bangor.ac.uk/atm/index.php.cy?
Mae mwy o wybodaeth am y cwrs ar gael yn
neu cysylltwch â Chyfarwyddwr y Cwrs, Paula Roberts, e-bost p.roberts@bangor.ac.uk.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Mawrth 2012