Ymchwil U-boats y Brifysgol yn cael sylw ar raglen Drain the Oceans
Bydd ymchwil gan Brifysgol Bangor yn cael sylw mewn rhaglen sy鈥檔 rhan o gyfres Drain the Oceans ar sianel y National Geographic nos Lun 7 Hydref rhwng 8 a 9pm.
Bydd rhaglen nos Lun yn s么n am ddatblygiad llongau tanfor yn yr Almaen, a sut y bu i hynny newid rhyfela ar y m么r am byth. Cafodd y Cynghreiriaid eu gorfodi i newid eu tactegau.
Mae gwaith y Prince Madog, llong ymchwil Ysgol Gwyddorau鈥檙 Eigion, Prifysgol Bangor yn cael sylw ar y rhaglen. Mae鈥檙 llong wedi bod yn mapio nifer o longddrylliadau o amgylch M么r Iwerddon fel rhan o broject ymchwil ar y cyd 芒 Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Noddir y project gan Gronfa Treftadaeth y Loteri a鈥檌 fwriad yw coffau鈥檙 rhyfel yn erbyn llongau tanfor yr Almaen ar hyd arfordir Cymru rhwng 1914 ac 1918.
Bu t卯m o staff Ysgol Gwyddorau鈥檙 Eigion, dan arweinyddiaeth Dr Mike Roberts, yn defnyddio system sonar hynod sensitif a鈥檙 technegau delweddu diweddaraf i ganfod llongddrylliadau llongau tanfor yr Almaen o gyfnod y Rhyfel Mawr.
Mae systemau sonar y Prince Madog yn creu modelau tri dimensiwn eglur iawn o wely鈥檙 m么r wrth i鈥檙 llong symud drwy鈥檙 d诺r. Mae鈥檙 modelau hyn yn galluogi ymchwilwyr i weld gwrthrychau鈥檔 fanwl iawn. Gan weithio ar ddyfnder o 100 metr, sy鈥檔 arferol ym M么r Iwerddon, mae鈥檙 ymchwilwyr wedi creu modelau a delweddau o longddrylliadau er mwyn cynorthwyo archeolegwyr m么r i adnabod y llongau tanfor a dysgu sut y cawsant eu suddo.
Esbonia Dr Mike Roberts pam fod yr wybodaeth mor werthfawr:
鈥淭ra bod creiriau鈥檙 rhyfel yn darparu gwybodaeth werthfawr i haneswyr ac archeolegwyr gallant hefyd arwain at ddatblygu diwydiant newydd. Mae鈥檙 data鈥檙 ydym yn ei gasglu鈥檔 rhoi gwybodaeth unigryw i ni am ddylanwad y llongddrylliadau ar brosesau ffisegol a biolegol yn yr amgylchedd morol. Mae鈥檙 wybodaeth yn cael ei defnyddio i gefnogi uchelgais y sector ynni m么r adnewyddadwy.鈥
鈥淢ae鈥檙 delweddau o鈥檙 llongddrylliadau鈥檔 datgelu sut mae鈥檙 llanw a鈥檙 cerhyntau wedi symud neu adael gwaddod ar eu holau a sut mae presenoldeb y llongddrylliadau ar wely鈥檙 m么r wedi dylanwadu ar y prosesau hynny dros amser, a鈥檙 hyn all ddigwydd pan fo strwythurau artiffisial yn cael eu gosod yn yr un man neu mewn mannau tebyg ar wely鈥檙 m么r.鈥
Dywedodd Crispin Sadler o Mallinson Sadler Productions, a gynhyrchodd y rhaglen:
鈥淢ae Drain the Oceans yn falch o fod wedi cydweithio 芒 chriw鈥檙 Tywysog Madog a th卯m Prifysgol Bangor dan arweiniad Dr Michael Roberts. Ar 么l ychwanegu arbenigedd hanesyddol ac archeolegol Dr Innes McCartney o Brifysgol Bournemouth roedd gennym y cynhwysion ar gyfer stori hynod ddiddorol i'n ffilm ar ddatblygiad llongau tanfor yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, a oedd i bob pwrpas yn oes aur y llongau tanfor. Mae'r gwaith a wnaed gan y t卯m yn dangos pa mor llwyddiannus a pheryglus oeddent ym M么r Iwerddon ond fel y gwelwn, nid oedd yn gwbl unochrog. Mae Drain the Oceans yn ymfalch茂o mewn cymryd y data cywir a gafwyd yn y modd hwn a'i droi yn ddelweddau ffotograffig realistig o wely'r m么r a'r llongddrylliadau a welwyd yno gan alluogi'r agweddau pwysig hyn ar ein hanes gael eu hadrodd i'r gynulleidfa ehangaf bosibl. Rydym hefyd yn falch bod y gyfres yn boblogaidd mewn dros 170 o wledydd ledled y byd ac wedi cael ei chyfieithu i 44 o ieithoedd ac rydym yn teimlo na fydd y rhaglen 'Killer U-boat' yn eithriad'.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Hydref 2019