Ymchwil newydd yn dangos sut y gall rheoli maetholion wella proffidioldeb ffermydd ac effeithiau amaethyddiaeth ar yr amgylchedd
Mae cynnydd mawr ym mhris gwrteithiau a phwysau ar y diwydiant amaeth i leihau ei gyfraniad i lygredd dŵr yn golygu nad yw gwneud y defnydd gorau o faetholion erioed wedi bod yn bwysicach. Ar hyn y canolbwyntiodd ymchwil a wnaed ar ffermydd ar draws Conwy gan wyddonwyr o ym Mhrifysgol Bangor. Mae'r darganfyddiadau newydd gael eu cyhoeddi mewn cyfnodolyn academaidd blaenllaw, "".
Casglodd project '' ddata ar ansawdd pridd, cynhyrchedd ffermydd a rheoli maetholion ar 50 o ffermydd dros gyfnod o flwyddyn. Fe wnaeth hyn alluogi'r ymchwilwyr i amcangyfrif yn gywir beth oedd gofynion y ffermydd hynny o ran maetholion ac a ellid mabwysiadu newidiadau heb leihau cynhyrchedd ffermydd. Dangosodd profion pridd bod gormod o asid ym mhridd llawer o ffermydd Conwy i gael tyfiant da o welltglas (yn achos 88% o'r ffermydd rodd gwerth pH y pridd yn llai na 6). Oherwydd hynny mae gwrteithiau'n llai effeithiol gan fod yr asid yn atal y gwelltglas rhag amsugno'r maetholion. Dangosodd y canlyniadau y byddai rhoi calch ar y tir yn gwella twf gwelltglas ac y byddai hyn yn galluogi ffermwyr i leihau eu defnydd o wrtaith. Dangosodd y canlyniadau hefyd y byddai hyn yn lleihau colli maetholion i nentydd ac afonydd yn ogystal.
Fodd bynnag, mae yna anfantais bosibl i ddefnyddio calch. Dangosodd cyfrifiannau ôl-troed carbon y byddai rhoi calch mewn priddoedd i leihau asidrwydd yn cynyddu gollyngiadau o nwyon tŷ gwydr sy'n achosi newid hinsawdd. Digwydd y gollyngiadau hyn wrth brosesu a chludo calch a'i effeithiau ar y pridd. Felly, dangosodd yr astudiaeth ddilema pwysig o ran polisi: tra gall fod yn fanteisiol ar lefel leol i galchu priddoedd (er mwyn cynyddu elw ffermydd a lleihau colli maetholion), gall hyn achosi rhai effeithiau amgylcheddol negyddol ar raddfa ehangach.
Dangosodd yr ymchwil hefyd nad oedd yr un o'r ffermydd yn dewis defnyddio unrhyw rai o'r offer meddalwedd sydd ar gael am ddim (e.e. MANNER-NPK) i'w helpu i gynllunio eu rheoli maetholion. Roedd y rhesymau dros hyn yn cynnwys diffyg ymwybyddiaeth, cyngor gwahanol o gyfeiriadau eraill, a chred bod defnyddio'r un drefn wrteithio bob blwyddyn i'w weld yn gweithio orau. Fodd bynnag, mae'r ymchwilwyr yn argymell bod ffermwyr yn dechrau defnyddio'r meddalwedd hwn oherwydd, ynghyd â phrofi cyflwr maethol pridd yn gyson, gallant gynyddu'n sylweddol effeithiolrwydd defnyddio maetholion ar ffermydd a thrwy hynny wella proffidioldeb.
Meddai'r Athro John Healey, a arweiniodd y tîm ymchwil: "Wrth ddefnyddio tail a slyri i'r eithaf, gan gadw at reolau diogelu'r amgylchedd yr un pryd, nid oes cymaint o angen defnyddio gwrteithiau a brynir mewn bagiau, ac felly mae'r ffermydd a'r amgylchedd fel ei gilydd yn elwa. Dangosodd yr astudiaeth nad yw ffermwyr yng Nghonwy yn gor-ddefnyddio maetholion yn gyffredinol, ond y gellir gwella cynhyrchedd drwy galchu, a chymryd bod ei gostau amgylcheddol yn cael eu hystyried yn ofalus.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Mawrth 2014