Ydi’r duedd i ddefnyddio iau pinc cywion ieir yn ein gwneud yn sâl?
Mae pobl yn cael eu rhybuddio i gymryd y duedd i ddefnyddio iau cyw iâr 'pinc' mewn ryseitiau gyda phinsiad o halen.
Darganfu ymchwil o Brifysgolion Bangor, Manceinion a Lerpwl bod o duedd bresennol o ddarparu iau cyw iâr sydd prin wedi’i goginio yn achosi risg o wenwyn bwyd campylobacter i’r cyhoedd.
Ymchwiliodd yr astudiaeth i’r amseroedd coginio a nodir i nifer o ryseitiau cyfredol poblogaidd sy’n cynnwys iau cyw iâr. Mae llawer o'r rhain yn argymell gweini iau cyw iâr yn binc a’i goginio am amser annigonol i ladd Campylobacter. Hwn yw achos mwyaf cyffredin gwenwyn bwyd ym Mhrydain ac yn gyfrifol am fwy na 250,000 o achosion bob blwyddyn.
Canfu'r ymchwil hefyd fod rhwng 19% a 52% o 141 o gogyddion o amrywiaeth o geginau proffesiynol a gafodd eu holi eisiau gweini iau cyw iâr mor amrwd fel na fyddai’n dod i 70°c, sef y tymheredd angenrheidiol i ladd y pathogen Campylobacter.
Dywedodd Dr Paul Cross o Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth Prifysgol Bangor: "Gweinir iau cyw iâr mewn llawer o dafarnau a bwytai ledled y wlad, ac ymddengys mai’r duedd yw iddynt gael eu gweini’n 'binc'.
"Mae’r ymchwil hefyd wedi holi dros fil o aelodau o'r cyhoedd a chogyddion am eu dewisiadau, ac a oeddent yn gallu adnabod cigoedd sydd wedi'u coginio’n ddiogel.
"Nid oedd y cyhoedd yn gallu adnabod iau cyw iâr a oedd wedi'i goginio ddiogel o ran ei olwg. Nododd bron i draean y cyhoedd a gymerodd ran yn yr ymchwil fod iau i’w weld yn 'ddiogel', er ei fod mewn gwirionedd yn cynnwys cyfraddau goroesi Campylobacter o rhwng 48% a 98%."
Meddai’r Athro Dan Rigby o Brifysgol Manceinion, un o brif awduron yr astudiaeth: "Wrth i bobl fwyta eu stêcs a darnau eraill o gig coch eraill yn fwy amrwd, mae’n ymddangos bod y duedd honno i’w gweld hefyd bellach mewn cigoedd gyda risg uwch, megis iau cyw iâr a byrgyrs cig eidion."
"Darganfuwyd bod llawer o gogyddion yn gallu adnabod iau wedi'i goginio sydd wedi cyrraedd y tymheredd angenrheidiol i ladd y pathogenau, ond efallai bod eu dewisiadau o ran blas a gwead iau pinc yn drech na’u gwybodaeth am ddiogelwch bwyd."
"Ar y llaw arall, roedd y cyhoedd yn gyson yn eu dewisiadau - roeddent yn tueddu i ddewis prydau roeddent yn meddwl eu bod unol â chanllawiau coginio diogel.
"Mae hyn yn bryder oherwydd roedd y cyhoedd hefyd yn wael am adnabod wrth olwg a oedd iau cyw iâr wedi'i goginio ddigonol i fod yn ddiogel."
Dangosodd yr astudiaeth hefyd nad oedd cymaint o’r cyhoedd yn ffafrio bwyd a oedd prin wedi’i goginio ag roedd cogyddion yn ei gredu.
Nododd yr astudiaeth fod bron hanner y sampl cyhoeddus (48%) yn cytuno bod rhaglenni ar y teledu a'r ryseitiau mewn cylchgronau coginio wedi dylanwadu ar y cyhoedd i weini cig yn fwy pinc yn y canol.
Roedd 45% o gogyddion a holwyd yn yr astudiaeth hefyd yn cytuno eu bod wedi sylwi ar duedd o ddarparu iau cyw iâr prin wedi’i goginio a mwy pinc ar y teledu, mewn ryseitiau ac ymhlith cogyddion.
Rhagwelir bod Campylobacter yn achosi dros gant o farwolaethau bob blwyddyn ac yn costio tua £900 miliwn i economi'r DU. Mae oddeutu pedwar o bob pump o achosion gwenwyn campylobacter yn y DU yn deillio o dda pluog wedi’u llygru.
Daeth yr Athro Rigby i’r canlyniad: "O ystyried y lefelau uchel o gyw iâr wedi’i lygru gyda Campylobacter, mae’n debygol bod y duedd bresennol i weini iau cyw iâr yn binc mewn amrywiol ryseitiau yn cyfrannu at broblem haint Campylobacter ymysg y cyhoedd. Hwn yw’r achos mwyaf cyffredin o wenwyn bwyd yn y DU."
Dyddiad cyhoeddi: 30 Awst 2016